Cynhelir Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl rhwng 10 a 16 Mai 2021 ac eleni rydym yn gofyn i chi ymuno â’r frwydr dros iechyd meddwl.
Yn ystod y pandemig hwn, mae miliynau ohonom ni wedi cael problem iechyd meddwl neu wedi gweld anwylyd yn cael pethau’n anodd. Ac rydyn ni wedi gweld nad yw’r gefnogaeth sydd ei hangen ar bob un ohonom ar gael.
Iddyn nhw, i ni ac i chi – rhaid i ni achub ar y cyfle hwn i frwydro dros iechyd meddwl. Mae hyn yn golygu brwydro dros newid, dros degwch, dros barch a dros gymorth sy’n newid bywyd. Dyma sut y gallwch chi gymryd rhan:
Dweud wrth bobl pam eich bod chi’’n ymladd. Wrth ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol neu wrth siarad â ffrindiau, teulu neu gydweithwyr – nodwch Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl 2021 drwy ddweud wrth y bobl o’ch cwmpas pam rydych chi wedi ymuno â’r frwydr dros iechyd meddwl a helpu i greu symudiad dros newid.
Rhowch. Gyda’ch cymorth chi, gallwn arwain y frwydr dros iechyd meddwl gyda’n gilydd, gan barhau i roi cymorth i’r rheini ohonom sydd â phroblem iechyd meddwl.
Dywedwch wrth bobl pam eich bod chi’n ymladd
Cofiwch, os ydych chi’n rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol, i’n tagio ni a defnyddio’r hashtagiau #MHAW #FightForMH i wneud yn siŵr eich bod chi’n ymuno â’r sgwrs: Mind ar Facebook, Mind ar Twitter, Mind ar Instagram
Am ichi gael trafferth gydag iselder pan oeddech yn iau, am fod eich ffrind ar restr aros CAMHS neu i sicrhau bod gwasanaethau iechyd meddwl yn cael eu hariannu’n briodol, rhannwch pam eich bod yn brwydro dros iechyd meddwl.
Lledaenu'r gair
Mae gennym lawer o adnoddau i’ch helpu chi i rannu pam rydych chi’n brwydro dros iechyd meddwl, o bosteri i waith graffeg cymdeithasol, sydd ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Sut mae Mind yn brwydro
Dros y blynyddoedd diwethaf, rydyn ni wedi cymryd camau breision i newid y drafodaeth am iechyd meddwl. Ond mae rhagor o waith i’w wneud. Cewch ragor o wybodaeth yn ein strategaeth 2021-24 newydd ar sut rydyn ni’n bwriadu arwain y frwydr dros iechyd meddwl, gan gynnwys ein ffocws ar gefnogi’r bobl y mae materion iechyd meddwl yn effeithio’n anghymesur arnynt.