Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Holwch eich ymgeiswyr 

Wrth i ni gyrraedd yr wythnosau olaf cyn Etholiad y Senedd mis Mai, mae pob plaid yng Nghymru'n cynyddu ymdrechion eu hymgyrch. Mae’r etholiad hon yn gyfle unigryw i ddylanwadu ar bolisi a chefnogaeth iechyd meddwl yng Nghymru dros y pum mlynedd nesaf. Y mwyaf y bydd ymgeiswyr yn ei glywed oddi wrthym ni am iechyd meddwl y tebycaf yw hi y bydd hynny'n cael ei wneud yn flaenoriaeth.

 

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Gymraeg. This link will take you to a Welsh translation of this page.

Efallai bydd yna rai cyfarfodydd hystings ar lein lle byddwch yn gallu holi pob un o'ch ymgeiswyr lleol ar faterion sy'n bwysig i chi, bydd llawer yn ymgyrchu ar y cyfryngau cymdeithasol, a bydd siawns i siarad yn wyneb-i-wyneb ar garreg eich drws. Rydym wedi paratoi pum cwestiwn am iechyd meddwl y gallwch eu gofyn os cewch chi gyfle:

1. Daw strategaeth iechyd meddwl 10 mlynedd Cymru, Gyda’n Gilydd dros Iechyd Meddwl, i ben yn 2022. Mae iechyd meddwl da gymaint yn fwy na gwasanaethau iechyd meddwl da. Sut fyddwch chi a’ch plaid yn gwneud yn siŵr y bydd iechyd meddwl yn flaenoriaeth ar draws holl feysydd llywodraeth yn ystod tymor nesaf y Senedd?


2. Mae rhai bobl wedi cael eu heffeithio’n fwy gan coronafeirws nag eraill, megis pobl o gymunedau lliw, gwragedd a phobl yn byw mewn tlodi. Sut fyddwch chi a’ch plaid yn mynd i'r afael ag anghydraddoldebau ym maes iechyd meddwl?


3. Yn ystod y pandemig, roedd 74% o bobl ifanc eisoes gyda phroblemau iechyd meddwl yn dweud fod eu hiechyd meddwl yn waeth, a bron iawn 1 mewn 3 eu bod yn dweud eu bod wedi hunan anafu er mwyn ymdopi. Sut fydd eich plaid chi’n talu sylw i’r argyfwng cynyddol mewn iechyd meddwl pobl ifanc ac yn cyfarfod â’r gofyn am gefnogaeth?


4. Mae mynd trwy argyfwng iechyd meddwl yn brofiad dychrynllyd ac, yn ystod y pedair blynedd hyd at 2018, bu cynnydd o 17% yn nifer y cyfeiriadau at dimau argyfwng ar draws Cymru. A fyddwch chi a’ch plaid yn ymrwymo i sicrhau fod pawb yn cael gofal o ansawdd diogel a chyflym pan maen nhw ei angen, gan gynnwys gofal argyfwng 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos?


5. Dangosodd arolwg gan Mind Cymru o feddygon teulu yng Nghymru yn 2018 fod iechyd meddwl erbyn hyn yn cyfrif am 40% o’u hapwyntiadau ac, oherwydd y pandemig, fod yna gytundeb eang y bydd yna fwy o bobl yn gofyn am help. Sut fyddwch chi a’ch plaid yn sicrhau fod y rhai sydd ei angen yn cael sylw a chefnogaeth prydlon gydag ystod o gefnogaeth?

 

Am fwy o wybodaeth am beth rydyn ni'n ei ofyn gan Lywodraeth nesaf Cymru, darllenwch ein maniffesto.

I ymuno â'r frwydr dros iechyd meddwl, cofrestrwch i ddod yn ymgyrchydd.

arrow_upwardYn ôl i'r brig