Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Pwyllgor 

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Gymraeg. This link will take you to a Welsh translation of this page.

Susan O’Leary (Arweinydd Gweithredol)

Mae Sue yn Gyfarwyddwr Gweithredol Mind Cymru & Effaith Gymdeithasol; gyda chyfrifoldeb corfforaethol dros gyflawni strategaeth Mind yng Nghymru a Lloegr. Sue sy’n arwain gwaith ffederasiwn Mind yng Nghymru, gan weithio’n agos gydag arweinwyr a phartneriaid grŵpiau Mind lleol.

Wrth gadeirio Cynghrair Iechyd Meddwl Cymru, mae Sue yn dod ag arweinwyr elusennau trydydd sector sy’n gweithio ym meysydd iechyd meddwl, cydraddoldeb, hunan-laddiad a hunan-niweidio ynghyd i ddylanwadu ar y llywodraeth a’r system iechyd meddwl yng Nghymru.

Hefyd, mae Sue yn arwain yr ymgyrch gwrth stigma, Amser i Newid Cymru, i fynd i’r afael â gwahaniaethu a stigma o fewn cymunedau amrywiol a difreintiedig, mewn partneriaeth.

Cyn hyn, bu Sue yn Bennaeth Gweithrediadau Mind Cymru am 5 mlynedd, gan weithio gyda changhennau Mind lleol â phartneriaid i gyd-gynhyrchu, peilota a graddio modelau darparu gwasanaeth i gefnogi buddiolwyr a sicrhau effaith yng Nghymru.

Gyda chefndir ym maes Cyfiawnder Troseddol, bu Sue yn gweithio fel uwch reolwr yn y Gwasanaeth Carchardai, y Gwasanaeth Prawf a’r Weinyddiaeth Gyfiawnder. Tu hwnt i’r gwaith, mae’n mwynhau nofio dŵr oer, rhedeg, darllen a bod yn fam i ddau o blant yn eu harddegau.

Emrys Elias (Cadeirydd)

Yn wreiddiol yn nyrs iechyd meddwl, mae Emrys wedi gweithio ym maes polisi iechyd meddwl, comisiynu a darparu gwasanaethau, yn cynnwys fel cyfarwyddwr Uned Gyflwyno yn y GIC.

Mae Emrys wedi cyfarwyddo a chydlynu adolygiadau perfformiad cenedlaethol a lleol o wasanaethau iechyd meddwl i oedolion a phlant yng Nghymru, yn cynnwys adolygiadau o gyflwyno gwasanaethau a modelau mynediad at wasanaethau.

Victoria Hall (Is-Gadeirydd)

Mae Victoria yn Bennaeth Cyfraith Cyflogaeth yn NewLaw Solicitors, Aelod o Fwrdd Fforwm Adnoddau Dynol De Cymru a'r CMI yn ogystal â bod yn bencampwr dros amgylcheddau gweithio sy'n rhydd o wahaniaethu a stigma.

Mae ganddi ddiddordeb arbennig mewn hybu dealltwriaeth o'r natur ddynol a'i heffaith ar gyfle cyfartal a chwarae teg yn y gwaith. Yn ei hamser hamdden, mae Victoria'n hoff o gymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon i godi arian dros elusennau.   

Louise Jones

Mae Louise yn Rheolwr Project ac yn darparu Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl gydag Airbus UK. Fel un sy'n codi arian yn rheolaidd dros Mind, Cerddodd Louise 40 milltir mewn 24 awr fel rhan o Daith Mind yn 2016.

Cafodd Louise ei sbarduno i gefnogi Mind ar ôl iddi golli ei gŵr i hunanladdiad ym mis Ionawr 2015, a oedd yn 38 oed yn unig.

Ers hynny, mae hi wedi canolbwyntio ar herio stigma yn ymwneud ag iechyd meddwl, a helpu ei mab i ddod i dermau â cholli ei dad gan ei addysgu am salwch meddwl.

Arwel Jones

Mae Arwel yn gweithio gyda Chyngor Llyfrau Cymru ar hyn o bryd. Mae wedi cyhoeddi a golygu nifer o lyfrau, mae'n barddoni ac yn darlledu o bryd i'w gilydd, ac mae'n mwynhau darllen. Mae'n ŵr priod ac mae'n dad i dri o fechgyn, ac maen nhw'n byw yn Aberystwyth ar hyn o bryd.

Mae ganddo brofiad o godi arian i Mind ar ôl cymryd rhan mewn dwy daith a rhedeg Marathon Llundain.

Mae wedi ailddechrau rhedeg yn ddiweddar. Dechreuodd Arwel ymwneud â Mind pan gymerodd ran mewn taith Mind i Affrica, ac fe ddaeth yn ôl wedi'i argyhoeddi bod Mind yn elusen bwysig iawn.

Valerie Harrison

Mae Valerie Harrison wedi cael gyrfa hir yn y Gwasanaeth Iechyd fel prif weithredwr ymddiriedolaeth gymunedol ac iechyd meddwl ac ymddiriedolaeth gofal dwys.

Mae hefyd wedi gweithio fel ymgynghorydd mewn cwmni ymgynghorol rhyngwladol ac fel cyfarwyddwr ymchwiliadau yn Swyddfa’r Ombwdsmon Seneddol a’r Gwasanaeth Iechyd ble roedd yn canolbwyntio ar wasanaethau iechyd meddwl.

Am yr wyth mlynedd diwethaf o’i gyrfa roedd yn brif weithredwr elusen eirioli fawr yn cefnogi pobl i gael eu lleisiau wedi’u clywed. Mae wedi dal nifer o swyddi anweithredol yn y Gwasanaeth Iechyd, gan gynnwys mewn Ymddiriedolaeth Iechyd Meddwl ac mewn dau Grŵp Comisiynu Clinigol.

Mae’n ymddiriedolwr Cyngor ar Bopeth lleol ac roedd yn gadeirydd Mind lleol ac yn is-gadeirydd Mind Cenedlaethol. Yn ddiweddar, ail ymunodd â Bwrdd cenedlaethol Mind.

Keith Lloyd

Yr Athro Keith Lloyd yw Deon Gweithredol a Dirprwy Is-ganghellor y Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd ym Mhrifysgol Abertawe.

Mae Keith yn aelod annibynnol o Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ac yn seiciatrydd ymgynghorol anrhydeddus yn gweithio yn y GIG yn Abertawe. Mae'n angerddol am ymchwil, arloesedd, a thegwch ym maes iechyd meddwl.

Cyn hyn, roedd Keith yn Ddeon Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe ar ôl bod yn bennaeth ymchwil gofal cymdeithasol a’r GIG yng Nghymru ac yn is-lywydd Coleg Brenhinol y Seiciatryddion.

Hyfforddodd Keith yn feddyg cyn arbenigo mewn seiciatreg, ac mae’n gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru. 

Tracey Price

Mae Tracey wedi bod yn Brif Weithredwr ar Mind Sir Benfro ers 2000 a Mind Caerfyrddin ers 2007. Wrth iddi ddechrau ei gyrfa fel nyrs seicolegol dan hyfforddiant, cafodd ei hysgogi i ddod o hyd i ffyrdd eraill o hybu gwelliant pobl â phroblemau iechyd meddwl.

Ers hynny mae Tracey wedi gwneud gwaith cymdeithasol mewn ysgolion statudol ac ysgolion preswyl preifat ac yn y sector gwirfoddol gyda'r Groes Goch ac Age Concern Sir Benfro.

Mary Griffiths

Mae Mary Griffiths wedi bod yn Gyd-Brif Swyddog Gweithredol Mind Canolbarth a Gogledd Powys ers naw mlynedd.

Mae hi wedi gweithio ym maes darparu gwasanaethau iechyd meddwl rheng flaen ers blynyddoedd lawer, wedi cyflawni swyddi rheoli mewn elusen anabledd dysgu a bu hefyd yn gweithio i Lywodraeth Cymru a’r CGS lleol.

Mae Mary yn angerddol am iechyd meddwl, y rhwydwaith Mind lleol, darparu gwasanaethau sy’n ystyriol o drawma ac yn ei hamser hamdden, mae hi wrth ei bodd yn treulio amser gyda’i theulu a bod yn yr awyr agored.

Elin Roberts

Mae gan Elin gefndir mewn gwleidyddiaeth a chyfathrebu strategol.

Ar ôl gweithio yn Nhŷ’r Cyffredin am nifer o flynyddoedd, mae hi nawr yn gweithio fel Clerc i’r Bwrdd Gweithredol yn y Senedd.

Mae hi’n siaradwr Cymraeg iaith gyntaf ac yn frwd dros sicrhau bod pawb yn gallu cael cymorth iechyd meddwl o safon yn eu dewis iaith.

Mae Elin yn gerddor brwd ac yn ei hamser hamdden mae’n mwynhau canu’r piano a’r ffliwt, darllen a phobi.

Julian John

Mae Julian wedi bod yn gweithio mewn swyddi uwch yn y tair prif elusen iechyd meddwl yng Nghymru - Gofal, Hafal a Mind. Ymunodd â rhwydwaith Mind fel Dirprwy Gyfarwyddwr yn Mind Merthyr a'r Cymoedd cyn iddo gael ei benodi'n Gyfarwyddwr yn 2016. Julian yw is-Gadeirydd y Bartneriaeth Iechyd Meddwl ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf ar hyn o bryd, ac mae hefyd yn gadeirydd yr is-bwyllgor Hunanladdiad a Hunan-niwed yng Nghwm Taf. Mae Julian hefyd yn cynrychioli rhwydwaith Mind yng Nghymru ar y Bwrdd Cynaliadwyedd a Thwf ac ar Banel Grantiau Mind.

Sara Moseley

Mae Sara yn eiriolwr angerddol dros gymorth mwy tosturiol, mwy gwybodus a thecach ar gyfer iechyd meddwl ac am ddeall sut y gall amgylchiadau bywyd effeithio ar iechyd a lles.

Yn Aelod Annibynnol o Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, mae’n gyn-gyfarwyddwr Gweithredol Mind Cymru a Phrif Swyddog Gweithredol Menter Canser Moondance.

Mae ei chefndir proffesiynol ym maes cyfathrebu ac ymgysylltu, gan gynnwys ar lefel Cyfarwyddwr ar gyfer Llywodraeth Cymru a’r GIG yn Llundain. Magwyd Sara yn Aberystwyth a chafodd ei magu a’i haddysgu yn y Gymraeg.

Mae ganddi ferch a mab, sy'n fyddar ac yn astudio meddygaeth. Mae ei pharch dwfn at Mind Cymru, y rhwydwaith o grwpiau Mind lleol yng Nghymru a’r holl bobl y maent yn eu cefnogi ac yn gweithio gyda nhw yn golygu ei bod wrth ei bodd yn gallu bod yn rhan o Bwyllgor Cymru.

Phill Chick

Hyfforddodd Phill fel gweithiwr cymdeithasol yn arbenigo mewn gofal plant ac iechyd meddwl.

Mae ganddo 40 mlynedd o brofiad o weithio ym maes gwasanaethau cyhoeddus mewn awdurdodau lleol, y GIG a Llywodraeth Cymru.

Fe'i penodwyd yn Gyfarwyddwr Cenedlaethol cyntaf Iechyd Meddwl Cymru. Mae ganddo brofiad o gynllunio, comisiynu, rheoli a darparu gwasanaethau iechyd meddwl.

Mae ganddo hefyd brofiad sylweddol fel Ymddiriedolwr ar ôl gwasanaethu Bwrdd Cymdeithas Plant Dewi Sant am naw mlynedd ac mae’n parhau i’w wneud fel Cadeirydd.

Other ways to get involved

arrow_upwardYn ôl i'r brig