Mae’r dudalen hon yn esbonio rhai o’r profiadau cyffredin o iechyd meddwl yn ystod y coronafeirws, ac mae’n cynnwys awgrymiadau ar gyfer byw gyda phroblemau iechyd meddwl yn ystod y coronafeirws.
Mae llawer ohonom yn poeni am y coronafeirws (Covid-19), a sut mae’n effeithio ar ein llesiant meddyliol. I’r rhai ohonom sy’n profi problemau iechyd meddwl, gallai pethau deimlo’n arbennig o anodd. Gallai’r rhain fod yn broblemau rydych wedi’u profi o’r blaen, neu am y tro cyntaf.
Mae’r wybodaeth hon i’ch helpu i ymdopi os:
Mae’n cwmpasu:
Mae llawer ohonom yn cael trafferth gyda’n hiechyd meddwl yn ystod y coronafeirws. Efallai eich bod wedi bod yn byw gyda phroblemau iechyd meddwl cyn i’r pandemig ddechrau, a’ch bod yn cael mwy o anhawster i ymdopi nag o’r blaen. Neu efallai eich bod yn profi problemau iechyd meddwl am y tro cyntaf.
Bydd eich profiad o iechyd meddwl yn bersonol i chi, ac mae yna lawer o wahanol ffyrdd y gallai gael ei effeithio yn ystod y coronfeirws. Dyma rai o’r profiadau cyffredin o sut mae ein hiechyd meddwl yn cael ei effeithio yn ystod y cyfnod hwn:
Os ydych wedi profi gorbryder cyn y pandemig coronafeirws, efallai bod eich teimladau wedi gwaethygu’n ddiweddar. Neu efallai eich bod yn profi gorbryder am y tro cyntaf.
Mae gorbryder yn teimlo’n wahanol i bawb, ond mae rhai profiadau cyffredin. Gallai’r rhain gynnwys:
Efallai eich bod yn profi teimladau yn y corff hefyd, er enghraifft poenau, chwysu a phyliau o wres a churiad calon cyflymach. Gallai rhai o’r teimladau hyn fod yn debyg i symptomau coronafeirws. Os ydych yn poeni am yr hyn rydych yn ei brofi, gallwch siarad gyda’ch meddyg teulu, ffonio 111 neu fynd i wefan GIG 111 Cymru neu NHS 111 (Lloegr).
Efallai eich bod yn teimlo bod gennych lai o fynediad at gymorth a ffyrdd o ymdopi yn ystod y coronafeirws. Ond mae yna bethau y gallwch eu gwneud i reoli eich iechyd meddwl.
Gweler ein hawgrymiadau ar gyfer gofalu am eich iechyd meddwl yn ystod y coronafeirws i gael syniadau a allai helpu. Neu gweler ein tudalennau ar orbryder a phyliau o banig i gael gwybodaeth bellach a ffyrdd i helpu eich hun.
Yn ystod y coronafeirws, efallai eich bod yn profi symptomau cryfach o iselder. Neu gallech fod yn profi teimladau o iselder am y tro cyntaf.
Gallai hyn ddigwydd am wahanol resymau, er enghraifft os ydych:
Efallai eich bod yn teimlo bod gennych lai o fynediad at gymorth a ffyrdd o ymdopi yn ystod y coronafeirws. Ond mae yna bethau y gallwch chi barhau i’w gwneud i reoli eich iechyd meddwl.
Gweler ein hawgrymiadau ar ofalu am eich iechyd meddwl yn ystod y coronafeirws i gael syniadau a allai helpu. Neu gweler ein tudalennau ar iselder i gael mwy o wybodaeth a ffyrdd i helpu eich hun.
“Rwy’n dal i geisio bod yn obeithiol ynglŷn â’r golau ar ddiwedd twnnel y feirws, ond mae’n ymddangos yn bell iawn i ffwrdd ac mae fy mywyd personol, beth sydd ar ôl ohono, wedi’i atal am amser hir.”
Yn ystod y coronafeirws, gallai deimlo’n anodd byw gyda phroblem bwyta am rai rhesymau gwahanol. Er enghraifft, efallai eich bod yn:
Efallai eich bod yn teimlo bod gennych lai o fynediad at gymorth a ffyrdd o ymdopi yn ystod y coronafeirws. Ond mae yna bethau y gallwch barhau i’w gwneud i reoli eich iechyd meddwl:
Mae gan yr elusen Beat wybodaeth benodol am anhwylderau bwyta yn ystod y coronafeirws, ac mae’n cynnig cymorth drwy ei llinell gymorth, gwe sgwrs a grwpiau cymorth ar-lein. Mae hyn yn cynnwys cymuned ar-lein The Sanctuary, sydd wedi’i chreu i bobl drafod ymdopi ag anhwylderau bwyta yn ystod y coronafeirws.
Gweler ein hawgrymiadau ar ofalu am eich iechyd meddwl yn ystod y coronfeirws i gael rhai syniadau a allai helpu.
Mae ein tudalennau ar broblemau bwyta yn cynnwys mwy o wybodaeth a ffyrdd i chi helpu eich hun.
Gallai’r rhai ohonom sy’n profi anhwylder gorfodaeth obsesiynol (OCD) brofi mwy o anhawster yn ystod y coronafeirws.
Gallai hyn fod oherwydd lefelau uwch o straen a gorbryder sy’n achosi i obsesiynau a gorfodaeth bresennol waethygu. Gallai hefyd fod oherwydd bod rhai obsesiynau a gorfodaethau yn ymwneud yn benodol â’r coronafeirws, er enghraifft:
Efallai eich bod yn teimlo bod gennych lai o fynediad at gymorth a ffyrdd o ymdopi yn ystod y coronafeirws. Ond mae yna bethau y gallwch chi barhau i’w gwneud i reoli eich iechyd meddwl.
Gweler ein hawgrymiadau ar ofalu am eich iechyd meddwl yn ystod y coronafeirws i gael syniadau a allai helpu. Mae hyn yn cynnwys awgrymiadau ar gyfer ymdopi â gorbryder ynglŷn â golchi dwylo. Neu gweler ein tudalennau ar OCD i gael gwybodaeth bellach a ffyrdd i chi helpu eich hun.
“Fy ymateb ar y dechrau oedd ofn, gorbryder ac ansicrwydd, sydd wedi achosi i broblemau blaenorol ddychwelyd sy’n gysylltiedig ag ymddygiad glanhau gormodol....a oedd wedi’u datrys ers 20 mlynedd.”
Mae anhwylder personoliaeth yn derm y mae rhai pobl yn ei ddefnyddio i ddisgrifio casgliad o wahanol deimladau ac ymddygiad sy’n achosi problemau yn eich bywyd bob dydd.
Mae yna ystod eang o brofiadau sy’n gysylltiedig â gwahanol fathau o anhwylder personoliaeth, a gallai rhai ohonynt deimlo’n arbennig o anodd i chi allu ymdopi â hwy yn ystod y coronafeirws. Er enghraifft, efallai eich bod yn:
Efallai eich bod yn profi rhai o’r rhain am y tro cyntaf yn ystod y coronafeirws. Neu efallai eich bod wedi’u profi yn y gorffennol, a’ch bod wedi derbyn diagnosis o anhwylder personoliaeth gan weithiwr proffesiynol iechyd meddwl.
Beth bynnag yw eich profiad chi, mae’n anodd iawn ymdopi â’r teimladau a’r mathau hyn o ymddygiad. Cofiwch eich bod yn haeddu dealltwriaeth a chymorth ar gyfer eich iechyd meddwl, gan gynnwys os ydych yn ystyried bod y term ‘anhwylder personoliaeth’ yn ddadleuol neu os ydych yn anghytuno â’ch diagnosis penodol chi.
Efallai eich bod yn teimlo hefyd bod gennych lai o fynediad at gymorth a ffyrdd o ymdopi yn ystod y coronafeirws. Ond mae yna rai pethau y gallwch chi barhau i’w gwneud i reoli eich iechyd meddwl.
Gweler ein hawgrymiadau ar ofalu am eich iechyd meddwl yn ystod y coronafeirws i gael syniadau a allai helpu. Neu gweler ein tudalennau ar anhwylderau personoliaeth i gael gwybodaeth bellach a ffyrdd y gallwch helpu eich hun.
"Y peth pwysig i’w gofio yw nad ydym wedi torri, rydym yn meddwl yn wahanol ac yn profi’r byd mewn ffordd wahanol...nid oes cywilydd mewn gwneud beth bynnag sydd ei angen arnom i ymdopi â’n hemosiynau mewn ffordd ddiogel a chefnogol.”
Os ydych yn byw gydag anhwylder personoliaeth ffiniol, gallai deimlo’n arbennig o anodd ymdopi yn ystod y coronafeirws. Gallai hyn fod oherwydd newidiadau i’ch bywyd sy’n effeithio ar eich hwyliau, er enghraifft:
Gallai hyn wneud i chi deimlo’n ‘uchel’ (mania neu hypomania) neu’n ‘isel’ (iselder), a phrofi newidiadau llethol yn eich hwyliau.
Gallai fod yn fwy anodd i chi ddelio â hyn os ydych yn teimlo bod gennych lai o fynediad at gymorth a ffyrdd o ymdopi yn ystod y coronafeirws. Ond mae yna bethau y gallwch barhau i’w gwneud i geisio rheoli eich iechyd meddwl.
Gweler ein hawgrymiadau ar ofalu am eich iechyd meddwl yn ystod y coronafeirws i gael syniadau a allai helpu. Mae hyn yn cynnwys ffyrdd i feddwl am eich trefn arferol a chadw dyddiadur o’ch hwyliau. Neu gweler ein tudalennau ar anhwylder personoliaeth ffiniol i gael mwy o wybodaeth a ffyrdd i chi helpu eich hun.
Darllenwch stori Becky am fyw gydag anhwylder personoliaeth ffiniol yn ystod y clo mawr.
Os ydych yn profi anhwylder straen ôl-drawmatig (PTSD), gallai pethau deimlo’n arbennig o anodd yn ystod y coronafeirws. Gallai hyn fod oherwydd eich bod yn teimlo:
Efallai eich bod hefyd yn profi teimladau yn y corff, er enghraifft poenau, chwysu a phyliau o wres a churiad calon cyflymach. Gallai rhai o’r teimladau hyn fod yn debyg i symptomau coronafeirws. Os ydych yn poeni am yr hyn rydych yn ei brofi, gallwch siarad gyda’ch meddyg teulu, ffonio 111 neu fynd i wefan GIG 111 Cymru neu NHS 111 (Lloegr).
Efallai eich bod yn teimlo bod gennych lai o fynediad at gymorth a ffyrdd o ymdopi yn ystod y coronafeirws. Gall hyn fod yn arbennig o anodd os ydych wedi arfer mynychu sesiynau cymorth gan gyfoedion wyneb yn wyneb neu therapi grŵp, ac nad yw hynny’n bosibl yn awr yn ystod y coronafeirws.
Ond mae yna bethau y gallwch barhau i’w gwneud i geisio rheoli eich iechyd meddwl. Gweler ein hawgrymiadau ar ofalu am eich iechyd meddwl yn ystod y coronafeirws am syniadau a allai helpu. Mae hyn yn cynnwys awgrymiadau ar gyfer ymdopi os ydych yn profi ôl-fflachiau neu’n teimlo’n gaeth, a gwybodaeth am sut i gynllunio ar gyfer profi argyfwng iechyd meddwl.
Neu gweler ein tudalennau ar PTSD am fwy o wybodaeth a ffyrdd i helpu eich hun.
Os ydych yn profi seicosis, mae’n debygol y byddwch wedi profi symptomau sy’n cynnwys rhithweliadau, lledrithiau a meddyliau a lleferydd anhrefnus.
Yn ystod y coronafeirws, efallai eich bod yn teimlo mwy o straen a’ch bod yn poeni mwy am bethau nac arfer. Gallai’r newidiadau hyn effeithio ar eich profiadau o seicosis. Er enghraifft, efallai eich bod yn:
Gallai fod yn anodd delio â’r symptomau hyn os ydych yn teimlo bod gennych lai o fynediad at gymorth a ffyrdd o ymdopi yn ystod y coronafeirws. Ond mae yna rai pethau y gallwch barhau i roi cynnig arnynt i reoli eich symptomau.
Gweler ein tudalennau ar seicosis i gael mwy o wybodaeth a ffyrdd i helpu eich hun.
Os ydych yn cael anhawster gyda phroblemau iechyd meddwl penodol, efallai eich bod yn defnyddio hunan-niwed i ymdopi â theimladau anodd.
Neu, os ydych yn teimlo’n isel a diymadferth, efallai eich bod yn profi teimladau hunanladdol.
Os ydych yn credu y gallech geisio lladd eich hun neu os ydych wedi gwneud niwed difrifol i’ch hun, mae hyn yn argyfwng iechyd meddwl.
Os oedd gennych ffyrdd o ymdopi â hunan-niwed neu deimladau hunanladdol nad ydynt yn bosibl yn ystod y coronafeirws, gallai ein hawgrymiadau ar ofalu am eich iechyd meddwl yn ystod y coronafeirws fod o gymorth i chi.
Neu gweler ein tudalennau ar hunan-niwed a theimladau hunanladdol i gael gwybodaeth bellach.
"Yn ystod y cyfyngiadau symud nid yw fy arferion ymwybyddiaeth ofalgar [arferol] ar gael i mi...felly rwyf wedi gorfod bod yn fwy creadigol.”
Os ydych wedi profi teimladau neu ymddygiad anodd sy’n gysylltiedig â golchi dwylo neu hylendid, dyma rai awgrymiadau ar eich cyfer:
Gall ôl-fflachiau fod yn boenus iawn, ond mae yna bethau y gallwch eu gwneud a allai helpu:
Dyma rai syniadau y gallech roi cynnig arnynt os ydych yn teimlo’n glawstroffobig neu’n gaeth:
Mae cynllun diogelwch yn gynllun i’ch cefnogi ar yr adegau yr ydych yn cael argyfwng iechyd meddwl. Mae’n bersonol i’ch anghenion chi, ond gallai gynnwys:
Gallai deimlo’n anodd cynllunio ar gyfer rhywbeth rydych yn gobeithio na fydd yn digwydd. Ond gallai creu cynllun diogelwch eich helpu i gael y cymorth sydd ei angen arnoch. Gallai fod yn ddefnyddiol iawn yn ystod y coronafeirws, pan nad yw rhai o’r ffyrdd yr oeddech yn derbyn cymorth ar gael yn awr o bosibl.
Gweler ein tudalennau ar wasanaethau argyfwng i gael gwybodaeth bellach am gynllunio ar gyfer argyfwng iechyd meddwl, gan gynnwys ysgrifennu cynllun diogelwch. Mae gan y Samariaid ap hunanofal hefyd sy’n cynnwys templed cam wrth gam ar gyfer ysgrifennu cynllun diogelwch.
“Mae gofyn am help yn rhywbeth nad wyf yn gallu ei wneud yn dda, ond ar ôl i mi gael yr hyder i wneud hynny, cododd pwysau yn syth!”
“Rwy’n ceisio cynnal trefn eithaf normal ac yn ceisio ymlacio. Rwy’n cau fy llygaid ac yn dychmygu bod yn rhywle braf, sy’n helpu, yn arbennig gyda cherddoriaeth addas. Mae gen i rywun i ffonio pan wyf yn teimlo’n isel ac mae’n fy helpu i sylweddoli nad wyf ar fy mhen fy hun.”
Mae ymwybyddiaeth ofalgar yn ffordd o roi eich sylw llawn i’r foment bresennol, gan ddefnyddio technegau fel myfyrdod, ymarferion anadlu ac ioga. Dangoswyd bod hyn yn helpu pobl i fod yn fwy ymwybodol o’u meddyliau a’u teimladau. Mae hyn yn golygu, yn hytrach na chael eich llethu gan eich teimladau, bydd yn haws i chi eu rheoli.
Efallai na fydd sesiynau ymwybyddiaeth ofalgar wyneb yn wyneb yn bosibl yn ystod y coronafeirws, ond efallai bydd rhai sefydliadau yn cynnig cymorth ar-lein.
Gweler ein tudalennau ar ymwybyddiaeth ofalgar i gael gwybodaeth bellach. Mae Llyfrgell Apiau y GIG hefyd yn rhestru apiau a chyrsiau ymwybyddiaeth ofalgar ar-lein.
Mae’n bosibl bod ceisio bod yn ymwybodol o ddigwyddiadau cyfoes yn teimlo’n bwysig, yn arbennig os ydych eisiau gweld beth yw’r canllawiau diweddaraf ynghylch y coronafeirws. Ond os ydych yn cael anawsterau gyda’ch iechyd meddwl, efallai y gall fod yn anodd i chi ddarllen storïau newyddion sy’n creu gofid. Neu efallai nad yw’n teimlo’n ddefnyddiol darllen gwybodaeth nad yw’n ddibynadwy o bosibl.
Cymerwch ofal o ran lle’r ydych yn cael newyddion a gwybodaeth am iechyd. Os bydd storïau newyddion yn gwneud i chi deimlo’n bryderus neu’n ddryslyd, dylech ystyried peidio eu darllen neu gyfyngu ar yr hyn rydych yn ei ddarllen am gyfnod.
Gall y cyfryngau cymdeithasol eich helpu i gadw mewn cysylltiad â phobl ond gallai wneud i chi deimlo’n bryderus hefyd. Gallai hyn fod oherwydd bod pobl yn rhannu storïau newyddion sy’n peri gofid neu eu pryderon eu hunain am y coronafeirws. Neu efallai eich bod yn gweld pethau nad ydynt yn helpu eich iechyd meddwl.
Gallwch ystyried cymryd seibiant neu gyfyngu ar eich defnydd o’r cyfryngau cymdeithasol os nad ydynt yn ddefnyddiol. Gallech benderfynu hefyd i edrych ar grwpiau neu dudalennau penodol yn unig, a pheidio sgrolio drwy linellau amser neu ffrydiau newyddion.
Gweler ein tudalennau ar iechyd meddwl ar-lein i gael gwybodaeth bellach.
“Rwyf wedi gweld bod ‘troi i ffwrdd’ am ychydig wedi helpu fy lefelau gorbryder.”
Gall cadw dyddiadur hwyliau eich helpu i gadw golwg ar unrhyw newidiadau i’ch hwyliau, ac efallai y byddwch yn cael mwy o ddyddiau da nag oeddech chi’n ei feddwl. Gall eich helpu hefyd i sylwi os bydd unrhyw weithgareddau, lleoedd neu bobl yn gwneud i chi deimlo’n well neu’n waeth.
Mae yna lawer o ddyddiaduron hwyliau ar gael ar-lein am ddim, er enghraifft MoodPanda neu ddyddiadur hwyliau Bipolar UK.
Gallai fod yn ddefnyddiol i chi greu bocs o bethau i’ch helpu pan nad ydych yn teimlo’n dda. Ceisiwch sicrhau ei fod ar gael yn rhwydd i chi pan fyddwch yn cael anawsterau, ac mae’n debyg i gael pecyn cymorth cyntaf ar gyfer eich iechyd meddwl.
Er enghraifft, gallai hyn gynnwys:
Os ydych yn cael anhawster ar hyn o bryd, mae’n bwysig bod yn dyner gyda’ch hun ac atgoffa eich hun nad oes ffordd gywir neu anghywir i deimlo am y coronafeirws a sut y gallai fod yn effeithio ar eich bywyd.
Gallai fod yn ddefnyddiol i chi ganolbwyntio ar ddysgu mwy am eich hun a datblygu ffyrdd i ymdopi, yn hytrach na cheisio cael gwared ar bob teimlad anodd.
Mae’r pandemig coronafeirws yn cael effaith aruthrol ar ein hiechyd meddwl. Gallwch chi ein helpu ni i fod yna i bawb sydd ein hangen ar yr amser tyngedfennol hwn.