er gwell iechyd meddwl
Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Ymdopi â phroblemau iechyd meddwl yn ystod y coronafeirws

Mae’r dudalen hon yn esbonio rhai o’r profiadau cyffredin o iechyd meddwl yn ystod y coronafeirws, ac mae’n cynnwys awgrymiadau ar gyfer byw gyda phroblemau iechyd meddwl yn ystod y coronafeirws.

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Mae llawer ohonom yn poeni am y coronafeirws (Covid-19), a sut mae’n effeithio ar ein llesiant meddyliol. I’r rhai ohonom sy’n profi problemau iechyd meddwl, gallai pethau deimlo’n arbennig o anodd. Gallai’r rhain fod yn broblemau rydych wedi’u profi o’r blaen, neu am y tro cyntaf.

Mae’r wybodaeth hon i’ch helpu i ymdopi os:

  • ydych yn profi problemau iechyd meddwl yn ystod y pandemig coronafeirws
  • yw eich ffyrdd arferol o ymdopi a chefnogi eich iechyd meddwl wedi’u heffeithio gan y coronafeirws

Mae’n cwmpasu:

If you feel unable to keep yourself safe, it's a mental health emergency.

Get emergency advice

Profiadau o broblemau iechyd meddwl yn ystod y coronafeirws

Mae llawer ohonom yn cael trafferth gyda’n hiechyd meddwl yn ystod y coronafeirws.  Efallai eich bod wedi bod yn byw gyda phroblemau iechyd meddwl cyn i’r pandemig ddechrau, a’ch bod yn cael mwy o anhawster i ymdopi nag o’r blaen.  Neu efallai eich bod yn profi problemau iechyd meddwl am y tro cyntaf.

Bydd eich profiad o iechyd meddwl yn bersonol i chi, ac mae yna lawer o wahanol ffyrdd y gallai gael ei effeithio yn ystod y coronfeirws.  Dyma rai o’r profiadau cyffredin o sut mae ein hiechyd meddwl yn cael ei effeithio yn ystod y cyfnod hwn:

Os ydych wedi profi gorbryder cyn y pandemig coronafeirws, efallai bod eich teimladau wedi gwaethygu’n ddiweddar.  Neu efallai eich bod yn profi gorbryder am y tro cyntaf.

Mae gorbryder yn teimlo’n wahanol i bawb, ond mae rhai profiadau cyffredin.  Gallai’r rhain gynnwys:

  • teimlo o dan straen, yn nerfus neu’n profi ymdeimlad o ofn mawr am bethau, er enghraifft gadael y tŷ neu ddod i gysylltiad â phobl a allai fod â’r coronafeirws
  • eisiau llawer o sicrwydd gan bobl
  • profi pyliau o banig, er enghraifft os nad yw’r cymorth a oedd yn eich helpu i ymdopi ar gael bellach
  • dadbersonoli, sy’n golygu teimlo wedi’ch datgysylltu o’ch meddwl neu eich corff, neu fel eich bod yn gwylio rhywun arall (mae hyn yn fath o ddatgysylltiad).

Efallai eich bod yn profi teimladau yn y corff hefyd, er enghraifft poenau, chwysu a phyliau o wres a churiad calon cyflymach.  Gallai rhai o’r teimladau hyn fod yn debyg i symptomau coronafeirws.  Os ydych yn poeni am yr hyn rydych yn ei brofi, gallwch siarad gyda’ch meddyg teulu, ffonio 111 neu fynd i wefan GIG 111 Cymru neu NHS 111 (Lloegr).

Efallai eich bod yn teimlo bod gennych lai o fynediad at gymorth a ffyrdd o ymdopi yn ystod y coronafeirws.  Ond mae yna bethau y gallwch eu gwneud i reoli eich iechyd meddwl.

Gweler ein hawgrymiadau ar gyfer gofalu am eich iechyd meddwl yn ystod y coronafeirws i gael syniadau a allai helpu. Neu gweler ein tudalennau ar orbryder a phyliau o banig i gael gwybodaeth bellach a ffyrdd i helpu eich hun.

 

Yn ystod y coronafeirws, efallai eich bod yn profi symptomau cryfach o iselder.  Neu gallech fod yn profi teimladau o iselder am y tro cyntaf.

Gallai hyn ddigwydd am wahanol resymau, er enghraifft os ydych:

  • yn teimlo’n fwy ynysig, os na allwch weld pobl wyneb yn wyneb
  • yn gweld bod eich arferion arferol wedi gorfod newid. Gallai hyn olygu eich bod yn teimlo’n aflonydd, wedi diflasu neu’n cael anhawster cysgu, neu’n teimlo’n fwy blinedig ac yn cysgu mwy nag yr hoffech
  • yn cael anhawster i gael pleser mewn bywyd, yn arbennig os na allwch wneud rhai o’r gweithgareddau rydych yn eu mwynhau
  • yn teimlo’n isel, yn ofidus neu’n ddagreuol, er enghraifft os ydych yn poeni am y dyfodol, neu os ydych wedi profi digwyddiad gofidus, er enghraifft profedigaeth neu golli eich swydd
  • yn teimlo ymdeimlad o afrealiti, yn arbennig os yw eich bywyd wedi newid yn sylweddol yn ystod y coronafeirws
  • yn teimlo’n anobeithiol neu eich bod yn anobeithiol am y coronafeirws

Efallai eich bod yn teimlo bod gennych lai o fynediad at gymorth a ffyrdd o ymdopi yn ystod y coronafeirws. Ond mae yna bethau y gallwch chi barhau i’w gwneud i reoli eich iechyd meddwl.

Gweler ein hawgrymiadau ar ofalu am eich iechyd meddwl yn ystod y coronafeirws i gael syniadau a allai helpu. Neu gweler ein tudalennau ar iselder i gael mwy o wybodaeth a ffyrdd i helpu eich hun.

“Rwy’n dal i geisio bod yn obeithiol ynglŷn â’r golau ar ddiwedd twnnel y feirws, ond mae’n ymddangos yn bell iawn i ffwrdd ac mae fy mywyd personol, beth sydd ar ôl ohono, wedi’i atal am amser hir.”

Yn ystod y coronafeirws, gallai deimlo’n anodd byw gyda phroblem bwyta am rai rhesymau gwahanol.  Er enghraifft, efallai eich bod yn:

  • teimlo’n ynysig, yn arbennig os yw cyswllt wyneb yn wyneb fel arfer yn eich helpu i ymdopi â theimladau ac ymddygiad anodd sy’n gysylltiedig â bwyta
  • profi gorbryder ynglŷn â siopa bwyd. Efallai eich bod yn poeni a fydd y bwydydd rydych yn eu bwyta fel arfer ar gael, neu efallai bod y profiad o fynd i’r archfarchnad yn creu straen oherwydd y canllawiau cadw pellter cymdeithasol
  • teimlo wedi’ch gorlethu gan gynnydd mewn storïau newyddion a sgyrsiau am fwyd ac ymarfer corff
  • defnyddio bwyd neu ymarfer corff fel ffordd o deimlo mwy o reolaeth. Mae’n bosibl bod hyn yn digwydd am eich bod yn poeni am ddal y coronafeirws, neu’n teimlo wedi diflasu neu’n aflonydd oherwydd newidiadau i’ch arferion.

Efallai eich bod yn teimlo bod gennych lai o fynediad at gymorth a ffyrdd o ymdopi yn ystod y coronafeirws.  Ond mae yna bethau y gallwch barhau i’w gwneud i reoli eich iechyd meddwl:

Mae gan yr elusen Beat wybodaeth benodol am anhwylderau bwyta yn ystod y coronafeirws, ac mae’n cynnig cymorth drwy ei llinell gymorth, gwe sgwrs a grwpiau cymorth ar-lein. Mae hyn yn cynnwys cymuned ar-lein The Sanctuary, sydd wedi’i chreu i bobl drafod ymdopi ag anhwylderau bwyta yn ystod y coronafeirws.

Gweler ein hawgrymiadau ar ofalu am eich iechyd meddwl yn ystod y coronfeirws i gael rhai syniadau a allai helpu.

Mae ein tudalennau ar broblemau bwyta yn cynnwys mwy o wybodaeth a ffyrdd i chi helpu eich hun.

Gallai’r rhai ohonom sy’n profi anhwylder gorfodaeth obsesiynol (OCD) brofi mwy o anhawster yn ystod y coronafeirws.

Gallai hyn fod oherwydd lefelau uwch o straen a gorbryder sy’n achosi i obsesiynau a gorfodaeth bresennol waethygu.  Gallai hefyd fod oherwydd bod rhai obsesiynau a gorfodaethau yn ymwneud yn benodol â’r coronafeirws, er enghraifft:

  • obsesiynau ynglŷn â chi neu rywun rydych yn eu hadnabod yn mynd yn sâl
  • gorfodaeth ynglŷn â glanweithdra, er enghraifft golchi ac edrych ar eich dwylo, eich corff neu bethau o’ch amgylch yn aml. Gallai hyn deimlo’n arbennig o anodd ers i’r Llywodraeth ryddhau canllawiau ar olchi dwylo
  • gorfodaeth ynglŷn â chael newyddion a gwybodaeth am y coronafeirws
  • gorfodaeth ynglŷn â bod angen llawer o sicrwydd gan bobl

Efallai eich bod yn teimlo bod gennych lai o fynediad at gymorth a ffyrdd o ymdopi yn ystod y coronafeirws.  Ond mae yna bethau y gallwch chi barhau i’w gwneud i reoli eich iechyd meddwl.

Gweler ein hawgrymiadau ar ofalu am eich iechyd meddwl yn ystod y coronafeirws i gael syniadau a allai helpu.  Mae hyn yn cynnwys awgrymiadau ar gyfer ymdopi â gorbryder ynglŷn â golchi dwylo.  Neu gweler ein tudalennau ar OCD i gael gwybodaeth bellach a ffyrdd i chi helpu eich hun.

“Fy ymateb ar y dechrau oedd ofn, gorbryder ac ansicrwydd, sydd wedi achosi i broblemau blaenorol ddychwelyd sy’n gysylltiedig ag ymddygiad glanhau gormodol....a oedd wedi’u datrys ers 20 mlynedd.”

Mae anhwylder personoliaeth yn derm y mae rhai pobl yn ei ddefnyddio i ddisgrifio casgliad o wahanol deimladau ac ymddygiad sy’n achosi problemau yn eich bywyd bob dydd.

Mae yna ystod eang o brofiadau sy’n gysylltiedig â gwahanol fathau o anhwylder personoliaeth, a gallai rhai ohonynt deimlo’n arbennig o anodd i chi allu ymdopi â hwy yn ystod y coronafeirws.  Er enghraifft, efallai eich bod yn:

  • poeni am bobl yn eich gadael chi, yn arbennig os ydych yn byw ar eich pen eich hun neu am na allwch weld pobl fel y byddech fel arfer
  • rhoi eich hun mewn sefyllfaoedd peryglus, yn aml heb feddwl am y canlyniadau i chi neu bobl eraill
  • teimlo’n bryderus ac yn baranöig iawn mewn sefyllfaoedd cymdeithasol, er enghraifft mynd allan i gasglu meddyginiaeth
  • cael anhawster i ymddiried mewn pobl eraill, er enghraifft ffrindiau a theulu neu bobl ag awdurdod
  • cael anhawster i ddatblygu perthnasoedd agos gydag eraill
  • profi emosiynau dwys iawn sy’n gallu newid yn gyflym, yn arbennig os bydd hyn yn ei gwneud yn anodd i chi geisio triniaeth a chymorth
  • profi hunan-niwed neu deimladau hunanladdol.

Efallai eich bod yn profi rhai o’r rhain am y tro cyntaf yn ystod y coronafeirws.  Neu efallai eich bod wedi’u profi yn y gorffennol, a’ch bod wedi derbyn diagnosis o anhwylder personoliaeth gan weithiwr proffesiynol iechyd meddwl. 

Beth bynnag yw eich profiad chi, mae’n anodd iawn ymdopi â’r teimladau a’r mathau hyn o ymddygiad.  Cofiwch eich bod yn haeddu dealltwriaeth a chymorth ar gyfer eich iechyd meddwl, gan gynnwys os ydych yn ystyried bod y term ‘anhwylder personoliaeth’ yn ddadleuol neu os ydych yn anghytuno â’ch diagnosis penodol chi.

Efallai eich bod yn teimlo hefyd bod gennych lai o fynediad at gymorth a ffyrdd o ymdopi yn ystod y coronafeirws.  Ond mae yna rai pethau y gallwch chi barhau i’w gwneud i reoli eich iechyd meddwl.

Gweler ein hawgrymiadau ar ofalu am eich iechyd meddwl yn ystod y coronafeirws i gael syniadau a allai helpu.  Neu gweler ein tudalennau ar anhwylderau personoliaeth i gael gwybodaeth bellach a ffyrdd y gallwch helpu eich hun.

"Y peth pwysig i’w gofio yw nad ydym wedi torri, rydym yn meddwl yn wahanol ac yn profi’r byd mewn ffordd wahanol...nid oes cywilydd mewn gwneud beth bynnag sydd ei angen arnom i ymdopi â’n hemosiynau mewn ffordd ddiogel a chefnogol.”

Os ydych yn byw gydag anhwylder personoliaeth ffiniol, gallai deimlo’n arbennig o anodd ymdopi yn ystod y coronafeirws.  Gallai hyn fod oherwydd newidiadau i’ch bywyd sy’n effeithio ar eich hwyliau, er enghraifft:

  • newidiadau i’ch trefn arferol, er enghraifft gorfod bod adref mwy neu gael llai o gyswllt rheolaidd ag eraill
  • profi anawsterau cysgu
  • straen, gorbryder neu banig ynglŷn â’r coronafeirws.

Gallai hyn wneud i chi deimlo’n ‘uchel’ (mania neu hypomania) neu’n ‘isel’ (iselder), a phrofi newidiadau llethol yn eich hwyliau.

Gallai fod yn fwy anodd i chi ddelio â hyn os ydych yn teimlo bod gennych lai o fynediad at gymorth a ffyrdd o ymdopi yn ystod y coronafeirws.  Ond mae yna bethau y gallwch barhau i’w gwneud i geisio rheoli eich iechyd meddwl.

Gweler ein hawgrymiadau ar ofalu am eich iechyd meddwl yn ystod y coronafeirws i gael syniadau a allai helpu.  Mae hyn yn cynnwys ffyrdd i feddwl am eich trefn arferol a chadw dyddiadur o’ch hwyliau.  Neu gweler ein tudalennau ar anhwylder personoliaeth ffiniol i gael mwy o wybodaeth a ffyrdd i chi helpu eich hun.

Darllenwch stori Becky am fyw gydag anhwylder personoliaeth ffiniol yn ystod y clo mawr.

Os ydych yn profi anhwylder straen ôl-drawmatig (PTSD), gallai pethau deimlo’n arbennig o anodd yn ystod y coronafeirws. Gallai hyn fod oherwydd eich bod yn teimlo:

  • wedi eich ynysu a’ch gadael, er enghraifft os ydych yn byw ar eich pen eich hun neu os na allwch weld pobl y byddech yn eu gweld fel arfer
  • straen, yn anniogel neu’n nerfus, er enghraifft os ydych yn poeni amdanoch eich hun neu rywun rydych yn ei adnabod yn mynd yn sâl. Gallai hyn achosi i chi brofi ôl-fflachiau neu ddadgysylltiad
  • yn glawstroffobig neu’n gaeth os bydd yn rhaid i chi aros adref. Gallai aros adref ei gwneud yn fwy anodd i chi osgoi pethau sy’n eich atgoffa o’r trawma rydych wedi’i brofi.

Efallai eich bod hefyd yn profi teimladau yn y corff, er enghraifft poenau, chwysu a phyliau o wres a churiad calon cyflymach.  Gallai rhai o’r teimladau hyn fod yn debyg i symptomau coronafeirws.  Os ydych yn poeni am yr hyn rydych yn ei brofi, gallwch siarad gyda’ch meddyg teulu, ffonio 111 neu fynd i wefan GIG 111 Cymru neu NHS 111 (Lloegr).

Efallai eich bod yn teimlo bod gennych lai o fynediad at gymorth a ffyrdd o ymdopi yn ystod y coronafeirws.  Gall hyn fod yn arbennig o anodd os ydych wedi arfer mynychu sesiynau cymorth gan gyfoedion wyneb yn wyneb neu therapi grŵp, ac nad yw hynny’n bosibl yn awr yn ystod y coronafeirws.

Ond mae yna bethau y gallwch barhau i’w gwneud i geisio rheoli eich iechyd meddwl.  Gweler ein hawgrymiadau ar ofalu am eich iechyd meddwl yn ystod y coronafeirws am syniadau a allai helpu.  Mae hyn yn cynnwys awgrymiadau ar gyfer ymdopi os ydych yn profi ôl-fflachiau neu’n teimlo’n gaeth, a gwybodaeth am sut i gynllunio ar gyfer profi argyfwng iechyd meddwl.

Neu gweler ein tudalennau ar PTSD am fwy o wybodaeth a ffyrdd i helpu eich hun.

Os ydych yn profi seicosis, mae’n debygol y byddwch wedi profi symptomau sy’n cynnwys rhithweliadau, lledrithiau a meddyliau a lleferydd anhrefnus.

Yn ystod y coronafeirws, efallai eich bod yn teimlo mwy o straen a’ch bod yn poeni mwy am bethau nac arfer.  Gallai’r newidiadau hyn effeithio ar eich profiadau o seicosis.  Er enghraifft, efallai eich bod yn:

  • profi rhithweledigaethau neu ledrithiau am bethau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws,
  • profi symptomau seicotig yn fwy aml
  • cael anhawster i wahaniaethu rhwng beth sy’n real ac afreal, er enghraifft os ydych wedi profi lledrithiau yn y gorffennol ynglŷn â salwch neu haint
  • profi lefel uwch o straen, os nad yw’r bobl rydych yn byw gyda hwy yn gefnogol neu’n deall.

Gallai fod yn anodd delio â’r symptomau hyn os ydych yn teimlo bod gennych lai o fynediad at gymorth a ffyrdd o ymdopi yn ystod y coronafeirws.  Ond mae yna rai pethau y gallwch barhau i roi cynnig arnynt i reoli eich symptomau.

Gweler ein tudalennau ar seicosis i gael mwy o wybodaeth a ffyrdd i helpu eich hun.

Os ydych yn cael anhawster gyda phroblemau iechyd meddwl penodol, efallai eich bod yn defnyddio hunan-niwed i ymdopi â theimladau anodd.

Neu, os ydych yn teimlo’n isel a diymadferth, efallai eich bod yn profi teimladau hunanladdol.  

Os ydych yn credu y gallech geisio lladd eich hun neu os ydych wedi gwneud niwed difrifol i’ch hun, mae hyn yn argyfwng iechyd meddwl. 

Cael cyngor brys 

Os oedd gennych ffyrdd o ymdopi â hunan-niwed neu deimladau hunanladdol nad ydynt yn bosibl yn ystod y coronafeirws, gallai ein hawgrymiadau ar ofalu am eich iechyd meddwl yn ystod y coronafeirws fod o gymorth i chi.

Neu gweler ein tudalennau ar hunan-niwed a theimladau hunanladdol i gael gwybodaeth bellach.

Drawing with the words 'I am enough' on it.

Ymdopi â PTSD cymhleth yn ystod y pandemig

"Yn ystod y cyfyngiadau symud nid yw fy arferion ymwybyddiaeth ofalgar [arferol] ar gael i mi...felly rwyf wedi gorfod bod yn fwy creadigol.”

Gofalu am eich iechyd meddwl yn ystod y coronafeirws

Dyma rai awgrymiadau ar gyfer gofalu am eich iechyd meddwl yn ystod y coronafeirws.  Ni fydd pob un o’r syniadau hyn yn gweithio i bawb, felly ceisiwch osgoi rhoi pwysau ar eich hun a gwneud beth bynnag sy’n teimlo’n gyfforddus i chi.

Mynediad at driniaeth a chymorth

  • Os ydych yn profi problem iechyd meddwl, mae’n iawn gofyn am help. Gallai hyn gynnwys siarad gyda’ch meddyg neu therapydd, neu gymryd rhan mewn cymorth gan gyfoedion.
  • Nid ydych yn gwastraffu amser unrhyw un os byddwch yn gofyn am help ar gyfer eich iechyd meddwl yn ystod y pandemig coronafeirws. Mae’r GIG eisiau i chi barhau i wneud hyn.
  • Gweler ein tudalen ar gael mynediad at driniaeth a chymorth yn ystod y coronafeirws i gael gwybodaeth am sut mae’r coronafeirws wedi effeithio ar driniaethau a chymorth iechyd meddwl.

 

Os ydych wedi profi teimladau neu ymddygiad anodd sy’n gysylltiedig â golchi dwylo neu hylendid, dyma rai awgrymiadau ar eich cyfer:

  • Peidiwch ag ail-ddarllen yr un cyngor am olchi eich dwylo, os nad yw hyn yn ddefnyddiol i chi.
  • Dywedwch wrth bobl eraill eich bod yn cael anhawster, a sut y gallant hwy helpu. Er enghraifft, gallwch ofyn iddynt beidio eich atgoffa i olchi eich dwylo.
  • Rhowch derfynau i’ch hun, er enghraifft golchi eich dwylo am yr 20 eiliad a argymhellir.
  • Cynllunio i wneud rhywbeth ar ôl golchi eich dwylo. Gallai hyn helpu i dynnu eich meddwl a newid eich ffocws.

 

Gall ôl-fflachiau fod yn boenus iawn, ond mae yna bethau y gallwch eu gwneud a allai helpu:

  • Canolbwyntio ar anadlu yn araf i mewn ac allan wrth gyfrif i bump.
  • Edrych ar neu gyffwrdd gwrthrych sy’n eich atgoffa o’r presennol.
  • Cysuro eich hun, er enghraifft drwy lapio eich hun mewn blanced neu wrando ar gerddoriaeth liniarol
  • Defnyddio technegau daearu i gadw’ch hun mewn cysylltiad â’r presennol. Gallai hyn gynnwys disgrifio eich amgylchoedd yn uchel neu gyfrif gwrthrychau o fath neu liw penodol.  Gweler ein tudalen ar hunanofal ar gyfer anhwylderau datgysylltol i gael mwy o wybodaeth am dechnegau daearu.
  • Dylech ystyried cynllunio ‘lle diogel’ yn eich cartref y gallwch fynd iddo pan fyddwch yn profi ôl-fflachiad, os yw hyn yn bosibl lle’r ydych chi’n byw.

Dyma rai syniadau y gallech roi cynnig arnynt os ydych yn teimlo’n glawstroffobig neu’n gaeth:

  • Agorwch y ffenestri i adael i’r awyr iach ddod i mewn. Neu gallwch dreulio amser yn eistedd ar garreg eich drws, neu yn yr ardd os oes gennych un.
  • Ceisiwch edrych ar yr awyr allan drwy’r ffenestr neu o garreg eich drws. Gall hyn helpu i roi ymdeimlad o ofod i chi.
  • Newidiwch yr ystafelloedd yr ydych yn treulio amser ynddynt yn rheolaidd.

Mae cynllun diogelwch yn gynllun i’ch cefnogi ar yr adegau yr ydych yn cael argyfwng iechyd meddwl.  Mae’n bersonol i’ch anghenion chi, ond gallai gynnwys:

  • sut i adnabod unrhyw arwyddion rhybuddio eich bod yn cael argyfwng iechyd meddwl
  • pethau sydd wedi eich helpu i ymdopi yn y gorffennol, a beth gallwch ei wneud i helpu eich hun yn awr
  • enwau a manylion cyswllt unrhyw un a all helpu, gan gynnwys ffrindiau, teulu a gweithwyr proffesiynol iechyd meddwl
  • unrhyw linellau cymorth a gwasanaethau gwrando a all eich helpu mewn argyfwng
  • y camau y gallwch chi eu cymryd i wneud eich amgylchedd yn ddiogel.

Gallai deimlo’n anodd cynllunio ar gyfer rhywbeth rydych yn gobeithio na fydd yn digwydd.  Ond gallai creu cynllun diogelwch eich helpu i gael y cymorth sydd ei angen arnoch.  Gallai fod yn ddefnyddiol iawn yn ystod y coronafeirws, pan nad yw rhai o’r ffyrdd yr oeddech yn derbyn cymorth ar gael yn awr o bosibl.

Gweler ein tudalennau ar wasanaethau argyfwng i gael gwybodaeth bellach am gynllunio ar gyfer argyfwng iechyd meddwl, gan gynnwys ysgrifennu cynllun diogelwch.  Mae gan y Samariaid ap hunanofal hefyd sy’n cynnwys templed cam wrth gam ar gyfer ysgrifennu cynllun diogelwch.

  • Gallai fod yn anodd i chi drafod sut rydych chi’n teimlo, ond mae llawer o bobl yn canfod bod rhannu eu profiadau yn gallu gwneud iddynt deimlo’n well.
  • Gallai siarad gyda phobl rydych yn ymddiried ynddynt fod yn anodd yn ystod y coronafeirws. Gallwch roi cynnig ar sgyrsiau dros y ffôn neu fideo.
  • Yn ogystal â gwrando ar sut rydych chi’n teimlo, efallai y gall y bobl y byddwch yn siarad gyda hwy eich helpu i feddwl am syniadau newydd ar gyfer ymdopi neu ffyrdd newydd o dynnu eich sylw. Gallai hyn eich helpu os ydych wedi defnyddio strategaethau ymdopi nad ydynt yn gweithio yn awr o bosibl, yn ystod y coronafeirws.

“Mae gofyn am help yn rhywbeth nad wyf yn gallu ei wneud yn dda, ond ar ôl i mi gael yr hyder i wneud hynny, cododd pwysau yn syth!”

  • Os nad yw rhai o’r gweithgareddau rydych yn eu mwynhau yn bosibl yn ystod y coronafeirws, ceisiwch gynllunio trefn newydd o bethau pleserus y gallwch barhau i’w gwneud. Er enghraifft, gallech neilltuo amser i ddarllen llyfr, gwrando ar gerddoriaeth neu gael galwad rheolaidd gyda rhywun.
  • Os oes yna adegau penodol o’r dydd neu’r nos sy’n anodd i chi, er enghraifft amser prydau bwyd, gallech gynllunio gweithgareddau ar gyfer yr amseroedd hyn.
  • Ceisiwch bennu nodau yr ydych yn credu y gallwch eu cyflawni, gan gynnwys gwisgo bob dydd neu gysylltu â rhywun yn rheolaidd. Gallai cyflawni’r pethau hyn wneud i chi deimlo’n dda a gallai roi hwb i’ch hunanhyder.  Gallai eich helpu hefyd i symud i nodau mwy, er enghraifft dechrau hobi newydd neu ddysgu rhywbeth newydd.
  • Gallech rannu eich cynlluniau gyda rhywun rydych yn ymddiried ynddynt er mwyn iddynt allu eich helpu i ddod i arfer â’ch trefn newydd.Os yw eich trefn arferol wedi’i heffeithio gan newidiadau i gefnogaeth a thriniaeth ar gyfer eich iechyd meddwl, gweler ein gwybodaeth am gael mynediad at driniaeth a chymorth yn ystod y coronafeirws i gael syniadau ar gyfer cael help.

“Rwy’n ceisio cynnal trefn eithaf normal ac yn ceisio ymlacio.  Rwy’n cau fy llygaid ac yn dychmygu bod yn rhywle braf, sy’n helpu, yn arbennig gyda cherddoriaeth addas.  Mae gen i rywun i ffonio pan wyf yn teimlo’n isel ac mae’n fy helpu i sylweddoli nad wyf ar fy mhen fy hun.”

 

  • Ceisiwch sefydlu trefn cyn mynd i’r gwely, er mwyn helpu i sefydlu patrwm cysgu rheolaidd. Gweler ein tudalennau ar broblemau cysgu neu awgrymiadau ar gyfer help.
  • Ceisiwch fwyta’n rheolaidd ac yfed digon o ddŵr, os yn bosibl. Gweler ein tudalennau ar fwyd a hwyliau i gael gwybodaeth bellach am gysylltiad deiet ag iechyd meddwl.
  • Os oes gennych berthynas anodd gyda bwyd a bwyta, mae ein tudalennau ar broblemau bwyta yn cynnwys gwybodaeth ac awgrymiadau a allai helpu.
  • Ceisiwch ofalu am eich hylendid. Pan fyddwch yn profi teimladau anodd, mae’n hawdd peidio rhoi blaenoriaeth i hylendid. Ond gall pethau bach, fel cael cawod a gwisgo’n iawn, p’un a ydych yn mynd allan o’r tŷ ai peidio, wneud gwahaniaeth mawr i sut rydych yn teimlo.
  • Ceisiwch osgoi cyffuriau hamdden ac alcohol. Er eich bod yn dymuno defnyddio cyffuriau hamdden neu alcohol o bosibl i ymdopi â theimladau anodd, yn y tymor hwy gallant wneud i chi deimlo’n waeth a gallant eich atal rhag delio â phroblemau sylfaenol.  Gweler ein tudalennau ar gyffuriau hamdden ac alcohol i gael gwybodaeth bellach am sut gallant effeithio ar eich iechyd meddwl.

Mae ymwybyddiaeth ofalgar yn ffordd o roi eich sylw llawn i’r foment bresennol, gan ddefnyddio technegau fel myfyrdod, ymarferion anadlu ac ioga.  Dangoswyd bod hyn yn helpu pobl i fod yn fwy ymwybodol o’u meddyliau a’u teimladau.  Mae hyn yn golygu, yn hytrach na chael eich llethu gan eich teimladau, bydd yn haws i chi eu rheoli.

Efallai na fydd sesiynau ymwybyddiaeth ofalgar wyneb yn wyneb yn bosibl yn ystod y coronafeirws, ond efallai bydd rhai sefydliadau yn cynnig cymorth ar-lein.

Gweler ein tudalennau ar ymwybyddiaeth ofalgar i gael gwybodaeth bellach. Mae Llyfrgell Apiau y GIG hefyd yn rhestru apiau a chyrsiau ymwybyddiaeth ofalgar ar-lein.

Mae’n bosibl bod ceisio bod yn ymwybodol o ddigwyddiadau cyfoes yn teimlo’n bwysig, yn arbennig os ydych eisiau gweld beth yw’r canllawiau diweddaraf ynghylch y coronafeirws.  Ond os ydych yn cael anawsterau gyda’ch iechyd meddwl, efallai y gall fod yn anodd i chi ddarllen storïau newyddion sy’n creu gofid.  Neu efallai nad yw’n teimlo’n ddefnyddiol darllen gwybodaeth nad yw’n ddibynadwy o bosibl.

Cymerwch ofal o ran lle’r ydych yn cael newyddion a gwybodaeth am iechyd.  Os bydd storïau newyddion yn gwneud i chi deimlo’n bryderus neu’n ddryslyd, dylech ystyried peidio eu darllen neu gyfyngu ar yr hyn rydych yn ei ddarllen am gyfnod.

 

Gall y cyfryngau cymdeithasol eich helpu i gadw mewn cysylltiad â phobl ond gallai wneud i chi deimlo’n bryderus hefyd.  Gallai hyn fod oherwydd bod pobl yn rhannu storïau newyddion sy’n peri gofid neu eu pryderon eu hunain am y coronafeirws.  Neu efallai eich bod yn gweld pethau nad ydynt yn helpu eich iechyd meddwl.

Gallwch ystyried cymryd seibiant neu gyfyngu ar eich defnydd o’r cyfryngau cymdeithasol os nad ydynt yn ddefnyddiol.  Gallech benderfynu hefyd i edrych ar grwpiau neu dudalennau penodol yn unig, a pheidio sgrolio drwy linellau amser neu ffrydiau newyddion.

Gweler ein tudalennau ar iechyd meddwl ar-lein i gael gwybodaeth bellach.

“Rwyf wedi gweld bod ‘troi i ffwrdd’ am ychydig wedi helpu fy lefelau gorbryder.”

Gall cadw dyddiadur hwyliau eich helpu i gadw golwg ar unrhyw newidiadau i’ch hwyliau, ac efallai y byddwch yn cael mwy o ddyddiau da nag oeddech chi’n ei feddwl.  Gall eich helpu hefyd i sylwi os bydd unrhyw weithgareddau, lleoedd neu bobl yn gwneud i chi deimlo’n well neu’n waeth.

Mae yna lawer o ddyddiaduron hwyliau ar gael ar-lein am ddim, er enghraifft MoodPanda neu ddyddiadur hwyliau Bipolar UK.

Gallai fod yn ddefnyddiol i chi greu bocs o bethau i’ch helpu pan nad ydych yn teimlo’n dda.  Ceisiwch sicrhau ei fod ar gael yn rhwydd i chi pan fyddwch yn cael anawsterau, ac mae’n debyg i gael pecyn cymorth cyntaf ar gyfer eich iechyd meddwl.

Er enghraifft, gallai hyn gynnwys:

  • eich hoff lyfrau, ffilmiau neu CDs
  • pêl straen neu degan ffidlan ar gyfer rhyddhau cynnwrf
  • dyfyniadau defnyddiol neu nodiadau o anogaeth
  • lluniau neu ffotograffau sy’n rhoi cysur i chi
  • blanced feddal neu degan anwes
  • cannwyll ag arogl da neu fag lafant.

Os ydych yn cael anhawster ar hyn o bryd, mae’n bwysig bod yn dyner gyda’ch hun ac atgoffa eich hun nad oes ffordd gywir neu anghywir i deimlo am y coronafeirws a sut y gallai fod yn effeithio ar eich bywyd.

Gallai fod yn ddefnyddiol i chi ganolbwyntio ar ddysgu mwy am eich hun a datblygu ffyrdd i ymdopi, yn hytrach na cheisio cael gwared ar bob teimlad anodd.

Diweddarwyd y wybodaeth hon ddiwethaf ar 11 Mehefin 2020. 

Mae hyn yn argyfwng iechyd meddwl – mae angen eich cymorth chi arnom yn awr

Mae’r pandemig coronafeirws yn cael effaith aruthrol ar ein hiechyd meddwl.  Gallwch chi ein helpu ni i fod yna i bawb sydd ein hangen ar yr amser tyngedfennol hwn. 

 

Gwnewch rhodd heddiw

Share this information

arrow_upwardYn ôl i'r brig