Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Y coronafeirws a'ch lles

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Gymraeg. This link will take you to a Welsh translation of this page.

Mae'n bosib eich bod yn poeni am y coronafeirws (COVID-19) a sut y gall effeithio ar eich bywyd. Gall hyn olygu gorfod aros adref ac osgoi pobl eraill.

Gall hyn fod yn anodd a gall achosi straen. Ond mae nifer o bethau y gallwch chi eu gwneud y gall helpu gyda'ch llesiant.

Mae'r wybodaeth hon ar gael i'ch helpu i ymdopi os:

  • rydych chi'n teimlo'n bryderus neu'n poeni am y coronafeirws
  • yn aros adref ac yn osgoi mannau cyhoeddus, gan ddilyn cyngor y Llywodraeth i aros adref gymaint ag y bo modd
  • ydych chi'n hunan-ynysu oherwydd eich bod chi, neu rywun sy'n byw gyda chi, yn dangos symptomau o'r coronafeirws. Mae hunan-ynysu yn golygu aros adref a chadw i ffwrdd o bobl eraill.

Mae'n wybodaeth mynd i'r afael â'r canlynol:

Gall y dolenni cyswllt canlynol fod o gymorth:

Cyngor ymarferol am aros adref

Os ydych chi'n aros adref neu ar y tu fewn yn fwy nag arfer, gall y cyngor hwn fod o gymorth:

 

  • Meddyliwch am eich deiet. Efallai bydd eich chwant bwyd yn newid os yw trefn eich diwrnod yn newid, neu os ydych yn llai gweithgar nag arfer. Mae bwyta'n rheolaidd a chadw lefel y siwgr yn eich gwaed yn sefydlog yn gallu bod o fudd i'ch hwyliau a'ch egni. Dilynwch eich cyngor ar fwyd a hwyliau am ragor o wybodaeth.
  • Yfwch ddŵr yn rheolaidd. Mae yfed digon o ddŵr yn bwysig i'ch iechyd meddwl a chorfforol. Gall newid trefn eich diwrnod effeithio ar yr adeg rydych chi'n yfed neu ar ba hylif rydych chi'n ei yfed. Gall gosod larwm neu ap fod o help i'ch atgoffa. Ewch i wefan y GIG am ragor o wybodaeth am ddŵr, yfed a'ch hiechyd.
  • Os ydych chi'n hunan-ynysu, gallwch ofyn i rywun ollwng bwyd i chi. Os ydyn nhw'n gwneud hyn, gofynnwch iddynt adael y bwyd ar stepen y drws i osgoi dod i gysylltiad â'ch gilydd.
  • Efallai y byddwch yn ffeindio bod archfarchnadoedd neu wasanaethau archebu ar-lein yn fwy prysur nag arfer ar hyn o bryd. Os ydych yn teimlo'n bryderus ynghylch mynd i'r archfarchnad neu drefnu gwasanaeth gludo ar-lein, efallai y bydd ein cyngor ar hunan-ofal ar gyfer gorbryder o gymorth, fel ymarferion anadlu.

 

  • Efallai y byddwch yn gallu archebu presgripsiwn amlroddadwy (repeat prescription) dros y ffôn, neu efallai ar ap neu wefan, os yw eich meddygfa yn cynnig y gwasanaeth hwn. Gallwch lawrlwytho ap y GIG am ddim a chwilio am eich meddygfa. Fodd bynnag, dydy rhai meddygfeydd ddim ar yr ap eto.
  • Gofynnwch i'ch fferyllfa os oes modd iddynt ollwng eich meddyginiaeth gyda chi, neu gofynnwch i rywun arall i gasglu eich meddyginiaeth drosoch chi. Fel arfer, bydd hyn yn bosibl, ond os yw'n gyffur wedi'i reoleiddio efallai bydd y fferyllfa'n gofyn am brawf o'ch hunaniaeth. Mae gan wefan y GIG ragor o wybodaeth ynghylch casglu presgripsiwn dros rywun arall.
  • Byddwch yn ofalus wrth brynu meddyginiaeth ar lein. Dylech brynu gan fferyllfeydd cofrestredig yn unig. Gallwch wirio os yw fferyllfa wedi'i chofrestru ar wefan y Cyngor Fferyllol Cyffredinol. Ewch i'n tudalen ar brynu meddyginiaeth ar lein am ragor o wybodaeth.
  • Gallwch hefyd gysylltu â Galw Iechyd Cymru yng Nghymru neu NHS 111 yn Lloegr os ydych chi'n poeni am gael gafael ar feddyginiaeth.

 

  • Gofynnwch i gael cynnal apwyntiadau dros y ffôn, neges destun neu ar lein. Er enghraifft, gall hyn fod gyda'ch cwnselydd, therapydd neu weithiwr cefnogol.
  • Gofynnwch i'ch therapydd sut y gall ef/hi eich cefnogi – er enghraifft, os ydych chi'n ei chael yn anodd peidio cyfarfod wyneb yn wyneb.

 

  • Os ydych chi'n treulio llawer o amser adref, efallai bydd cadw pethau'n lân ac yn daclus o gymorth i chi, er bod hyn yn amrywio o berson i berson.
  • Os ydych chi'n byw gyda phobl eraill, gall cadw pethau'n daclus deimlo'n bwysicach os ydych chi i gyd adref gyda'ch gilydd. Ond efallai y bydd gennych syniadau gwahanol ynghylch beth sy'n 'daclus' neu beidio, neu ba mor bwysig yw cadw pethau'n daclus. Efallai y bydd penderfynu gyda'ch gilydd sut i ddefnyddio mannau penodol o gymorth, a gallwch drafod beth sydd angen ar bob person fel eich bod yn teimlo'n gyfforddus.
  • Mae glanhau'r tŷ, golchi dillad ac ymolchi yn ffyrdd pwysig i atal germau rhag lledaenu, yn enwedig pan fo rhybuddion am afiechydon penodol. Mae cyngor ar wefan y GIG ynghylch sut i atal germau rhag lledaenu. Mae cyngor ar wefan y DU am hunan-ynysu, sy'n cynnwys gwybodaeth ar lanhau eich cartref.
  • Bydd eich costau egni'n debygol o godi os ydych chi'n aros adref am yn hirach nag arfer. Meddyliwch sut y gallwch reoli eich defnydd o egni, neu sut i dalu am unrhyw filiau uwch. Gallwch hefyd ofyn i'ch cyflenwr egni am unrhyw gefnogaeth sydd ar gael, er enghraifft ymuno â'r gofrestr wasanaethau blaenoriaethol (priority services register). Os ydych chi'n poeni am arian, mae ein tudalen o gysylltiadau defnyddiol am arian yn cynnwys manylion sefydliadau gall eich helpu.

Os oes gennych swydd y mae'n bosib i'w gwneud o adref, efallai y byddwch chi'n gweithio o adref llawer mwy nag arfer. Efallai y bydd ymgyfarwyddo â'r sefyllfa hon yn anodd i chi.

Os oes plant gennych chi, efallai y bydd rhaid i chi ofalu amdanynt os nad ydyn nhw bellach yn mynd i'r ysgol neu i goleg.

Dyma rai syniadau all helpu:


I oedolion sy'n gallu gweithio o adref

  • Os ydy eich cyflogwr wedi gofyn i chi i weithio o adref, gallwch ofyn iddyn nhw am unrhyw bolisïau sydd ganddyn nhw ynghylch gweithio o adref.
  • Gallwch ofyn iddyn nhw am help gyda gosod pethau yn y cartref, fel unrhyw dechnoleg sydd angen arnoch.
  • Mae gan dîm Llesiant yn y Gweithle Mind fwy o gyngor i bobl sy'n gweithio o adref, yn cynnwys cyngor os ydych chi'n rheoli pobl eraill wrth weithio o bell.

I rieni a gwarcheidwaid plant a phobl ifanc

  • Os ydych chi'n gweithio o adref yn fwy nag arfer, efallai y byddwch yn cael anawsterau os ydych chi'n gofalu am blant y byddai fel arfer mewn meithrinfa, ysgol neu goleg tra eich bod yn y gwaith.
  • Meddyliwch am ffordd o rannu eich amser rhwng eich gwaith a'ch plant. Os oes gennych gyflogwr, efallai y gallent eich helpu chi i rannu eich amser rhwng eich cyfrifoldebau yn y gwaith a'ch plant.
  • Efallai bydd rhai cyflogwyr ofyn a oes oedolyn arall ar gael i oruchwylio eich plant wrth i chi weithio. Gall fod o help i siarad gyda'ch cyflogwr os ydy hyn yn eich pryderu.
  • Ystyriwch fod yn llai llym o ran defnydd eich plant o'r cyfryngau cymdeithasol a ffonau symudol yn ystod eu hamser adref. Os yw eich plant fel arfer yn mynd i'r ysgol neu goleg, maen nhw'n gyfarwydd â bod o amgylch plant eraill am oriau bob dydd. Efallai y bydd peidio bod yn yr ysgol yn anodd iddyn nhw, yn enwedig os ydyn nhw hefyd yn poeni am eu hiechyd.
  • Gofynnwch i'r ysgol neu'r coleg os oes unrhyw adnoddau dysgu digidol ar gael tra bod eich plant adref, a pha adnoddau technoleg sydd angen arnynt. Cofiwch gynnwys amseroedd egwyl a chinio.
  • Os nad oes adnoddau dysgu digidol ar gael, gallwch annog eich plant i ddewis llyfrau neu bodlediadau yn ystod eu hamser i ffwrdd o'r ysgol neu'r coleg. Efallai bydd gemau cardiau, gemau bwrdd a phosau o gymorth, a gallwch feddwl am ffyrdd eraill o aros yn weithgar neu'n greadigol.
  • I blant yn eu harddegau hwyr, mae cyrsiau ar-lein am ddim ar gael iddynt gael trio. Er enghraifft, FutureLearn a BBCBitesize.
  • Er bod llyfrgelloedd cyhoeddus bellach ar gau, efallai bydd gan eich llyfrgell leol weithgareddau neu adnoddau ar-lein i chi gael eu defnyddio.

Os ydych chi'n defnyddio gwasanaethau gofal

  • Dylech ddweud wrth eich Awdurdod Lleol a'ch darparwr gofal os oes rhaid i chi hunan-ynysu.
  • Gwnewch yn gwbl eglur eich bod rhaid i chi barhau i dderbyn unrhyw gefnogaeth. Dywedwch wrthynt y bydd angen gwneud trefniadau amgen os nad yw'r gefnogaeth arferol yn gallu parhau i ddigwydd. Gall hyn gynnwys pethau fel ymweliadau gan ofalwyr, sesiynau mewn canolfan ddydd, neu ffrindiau neu deulu'n dod draw i helpu.
  • Dylai eich Awdurdod Lleol gael polisïau ar gyfer y sefyllfa hon a dylen nhw eich hysbysu sut y maen nhw'n bwriadu cwrdd â'ch anghenion.

Os ydych chi'n darparu gofal neu gefnogaeth

Mae gan wefan Carers UK wybodaeth fanwl am yr hyn y dylech chi ei wneud os ydych chi'n darparu gofal i rywun arall.

Mae hyn yn cynnwys cyngor ar y canlynol:

  • darparu gofal i rywun sy'n aros adref
  • beth i'w wneud os ydych chi'n dechrau dangos symptomau o'r coronafeirws
  • gwneud cynllun am eich cyfrifoldebau gofalu yn ystod y cyfnod hwn, rhag ofn eich bod yn mynd yn sâl, er enghraifft.

Os ydych chi'n darparu gofal i rywun nad yw'n byw gyda chi a bod angen i chi hunan-ynysu, dylech gysylltu â'ch Awdurdod Lleol.

Mae Llywodraeth Cymru ac NHS England yn cysylltu â phobl sydd wedi cael eu hadnabod o fod mewn perygl uwch o ddatblygu salwch difrifol o achos y coronafeirws. Mae hyn o ganlyniad i gyflyrau iechyd corfforol sydd ganddynt eisoes.

Os yw hyn yn eich effeithio chi neu rywun rydych chi'n ei adnabod, mae arweiniad penodol y dylech chi ei ddilyn, a chefnogaeth ychwanegol ar gael i'ch helpu:

Gofalu am eich iechyd meddwl a'ch llesiant

Os ydych yn aros adref am hirach nag arfer, efallai y bydd yn anoddach nag arfer i ofalu am eich iechyd meddwl a'ch llesiant.

Dyma rai syniadau gall fod o gymorth:

Mae rhai problemau iechyd meddwl yn gallu achosi teimladau neu ymddygiad anodd i ddelio â nhw sy'n ymwneud â golchi neu hylendid. Os oes gennych brofiad o hyn, efallai y byddwch chi'n ei chael yn anodd clywed cyngor ynghylch golchi dwylo.

Os ydych hyn yn eich gwneud i deimlo o dan straen neu'n bryderus, dyma rai pethau y gallwch roi tro arnyn nhw:

  • Peidiwch â darllen yr un cyngor drosodd a throsodd os nad yw hyn o gymorth i chi.
  • Dywedwch wrth bobl eraill eich bod yn ei chael yn anodd. Er enghraifft, gallwch ofyn iddyn nhw i beidio â'ch atgoffa i olchi eich dwylo.
  • Gall ymarferion anadlu eich helpu i ymdopi a theimlo rheolaeth. Mae ymarfer anadlu syml ar gael ar wefan y GIG. Mae ambell i ymarfer ar ein tudalennau ar ymlacio hefyd, yn ogystal â chyngor arall ar ymlacio.
  • Gosodwch gyfyngiadau, fel golchi eich dwylo am yr 20 eiliad a argymhellir.
  • Cynlluniwch rywbeth i'w wneud ar ôl golchi eich dwylo. Gall hyn helpu i dynnu eich sylw a newid eich ffocws.
  • Gall hefyd fod o gymorth darllen peth o'r cyngor yn ein gwybodaeth ar Anhwylder Gorfodaeth Obsesiynol (OCD)

Cadwch mewn cysylltiad â phobl yn ddigidol

Cynlluniwch i gysylltu â phobl a grwpiau o bobl fyddech chi fel arfer yn eu gweld dros fideo.

Cynlluniwch i gysylltu â phobl a grwpiau o bobl fyddech chi fel arfer yn eu gweld dros fideo.

  • Gallwch hefyd drefnu galwadau ffôn neu anfon negeseuon testun.
  • Os ydych chi'n poeni bod perygl i chi redeg allan o bethau i siarad amdanyn nhw, cynlluniwch gyda rhywun i wylio rhaglen neu ddarllen llyfr ar wahân i'w trafod pan fyddwch yn cysylltu â'ch gilydd.
  • Meddyliwch am ffyrdd o gadw mewn cysylltiad gyda phobl pan fo cyfarfod wyneb yn wyneb yn amhosibl. Er enghraifft, gallwch wirio bod eich rhifau ffôn yn gyfredol, neu fod gennych gyfeiriadau e-bost i ffrindiau nad ydych chi wedi gweld am amser hir.

Cysylltwch â phobl sydd mewn sefyllfa debyg i chi

  • Siaradwch â rhywun rydych chi'n ymddiried ynddo. Os ydych chi'n teimlo'n bryderus am y coronafeirws neu'n aros adref am amser hirach nag arfer, efallai y bydd o gymorth i chi siarad am y pryderon hyn gyda rhywun rydych chi'n ymddiried ynddo, yn enwedig os ydyn nhw mewn sefyllfa debyg.
  • Gallwch ymuno â chymuned cefnogaeth gan gymheiriaid. Mae Mind yn rhedeg cymuned gefnogol ar-lein o'r enw Elefriends, lle y gallwch rannu eich profiadau a chlywed gan bobl eraill.
  • Os ydych chi'n mynd ar lein yn fwy nag arfer neu'n chwilio am gefnogaeth gan gymheiriaid ar y we, mae'n bwysig gofalu am eich llesiant ar lein. Ewch i'n tudalennau am iechyd meddwl ar lein am ragor o wybodaeth.

Os ydych chi'n poeni am unigrwydd

  • Meddyliwch am bethau y gallwch chi eu gwneud i gysylltu â phobl eraill. Er enghraifft, mae gosod mwy o luniau o bobl sy'n agos i chi yn gallu eich atgoffa o'r bobl hynny sy'n arbennig yn eich bywyd.
  • Gwrandewch ar orsaf radio gyda llawer o sgwrsio neu bodlediad os yw eich cartref yn teimlo'n rhy dawel.
  • Cynlluniwch drefn eich amser. Efallai y bydd o help i chi ysgrifennu hyn i lawr ar bapur a'i roi ar y wal.
  • Ceisiwch ddilyn drefn arferol eich diwrnod gymaint ag y bo modd. Codwch ar yr un pryd ag arfer, dilynwch drefn arferol y bore, ac ewch i'r gwely ar yr un pryd ag arfer. Gosodwch larwm i'ch atgoffa o'ch trefn os yw hynny o gymorth.
  • Os nad ydych chi'n hapus â threfn arferol eich diwrnod, gall hyn fod yn gyfle i wneud pethau'n wahanol. Er enghraifft, gallwch fynd i'r gwely'n gynt, gallwch dreulio rhagor o amser yn coginio neu bethau eraill nad oes gennych amser i'w gwneud fel arfer.
  • Meddyliwch sut y byddwch yn treulio amser ar eich pen eich hun yn eich cartref. Er enghraifft, cynlluniwch weithgareddau i'w gwneud ar ddiwrnodau gwahanol, neu arferion yr hoffech eu dechrau neu eu cadw.

Os ydych chi'n byw gyda phobl eraill, gall wneud y canlynol fod o gymorth:

  • Cytunwch ar drefn gyffredin i'ch cartref. Dylech geisio rhoi cyfle i bawb gael dylanwadu ar y cytundeb hwn.
  • Dylech geisio parchu preifatrwydd eich gilydd a rhoi lle i'ch gilydd. Er enghraifft, efallai bydd rhai pobl eisiau trafod popeth maen nhw'n ei wneud, ond nid pawb.

Ceisiwch ymgorffori gweithgarwch corfforol yn eich bywyd bob dydd, os yw hynny'n bosibl. Does dim offer ymarfer corff fel peiriannau rhedeg gyda'r rhan fwyaf ohonom ni adref, ond mae dal i fod gweithgareddau y gallwch chi wneud. Gall ymarfer corff adref fod yn rhwydd, ac mae opsiynau ar gael i bob oedran a gallu, gan gynnwys y canlynol:

  • glanhau'r tŷ
  • dawnsio i gerddoriaeth
  • dringo'r grisiau
  • ymarferion tra'n eistedd
  • sesiynau ymarfer ar-lein y gallwch eu dilyn
  • eistedd am lai o amser – os ydych chi'n sylwi eich bod wedi bod yn eistedd ers awr, gall godi neu newid safle helpu.

Mae cynnwys natur yn eich bywyd bob dydd yn gallu bod o fudd i'ch lles meddyliol a chorfforol. Gall wella eich hwyliau, leihau teimladau o straen neu ddicter, a gall eich helpu i ymlacio.

Mae'n bosibl gwneud y gorau o effeithiau cadarnhaol natur wrth aros adref, o dan do. Gallwch roi tro ar y canlynol:

  • Agor y ffenestri i adael awyr iach i mewn.
  • Trefnu man cyfforddus i eistedd, er enghraifft wrth ffenest, lle gallwch edrych allan dros olygfa o goed a'r awyr, neu edrych ar adar neu anifeiliaid eraill.
  • Edrychwch ar luniau o'ch hoff fannau naturiol. Defnyddiwch nhw fel cefndir i'ch ffôn symudol neu sgrin gyfrifiadur, neu argraffwch nhw a'u rhoi am y waliau.
  • Gwrandewch ar seiniau naturiol, fel traciau neu apiau o synau adar, tonnau'r môr neu sain y glaw. Ceisiwch gael gymaint o olau naturiol ag sy'n bosibl. Treuliwch amser yn yr ardd os oes gennych chi un, neu agorwch ddrws y blaen neu ddrws y cefn ac eisteddwch ar stepen y drws.
  • Os oes gennych fynediad diogel at fan gwyrdd fel gardd, gallwch ddod â deunydd naturiol mewn i addurno eich man byw, neu eu defnyddio mewn prosiectau celf a chrefft. Gall hyn gynnwys dail, blodau, plu, rhisgl coed neu hadau.
  • Gallwch brynu hadau, blodau neu blanhigion ar-lein a'u tyfu a'u cadw yn eich cartref. Os ydych chi'n archebu eitemau i gael eu cludo i'ch cartref, gofynnwch iddyn nhw eu gadael ar stepen y drws i osgoi cyfarfod â rhywun wyneb yn wyneb.
  • Ceisiwch glirio'r tŷ. Gallwch fynd trwy eich pethau a'u rhoi i ffwrdd yn daclus, neu lanhau'r tŷ yn drwyadl.
  • Efallai bod sesiwn lanhau digidol yn syniad hefyd. Gallwch ddileu hen ffeiliau neu apiau nad ydych yn eu defnyddio, diweddaru unrhyw feddalwedd, newid eich cyfrineiriau a chlirio eich blychau derbyn.
  • Ysgrifennwch lythyrau neu e-byst, neu ffoniwch bobl rydych chi wedi bod yn bwriadu cysylltu â nhw.

Mae nifer o ffyrdd y gallwch ymlacio, cymryd sylw o'r presennol a defnyddio eich ochr greadigol. Mae'r rhain yn cynnwys y canlynol:

  • celf a chrefft, fel arlunio, peintio, collage, gwnïo, citiau crefft neu lan-gylchu (upcycling)
  • DIY
  • lliwio
  • meddwlgarwch
  • chwarae offerynnau cerdd, canu neu wrando ar gerddoriaeth
  • ysgrifennu
  • ioga
  • myfyrio

Ewch i'n tudalennau ar ymlacio a meddwlgarwch am ragor o wybodaeth a syniadau.

  • Cadwch eich ymennydd yn brysur ac yn effro. Gwnewch amser penodol yn eich diwrnod am hyn. Darllenwch lyfrau, gylchgronau ac erthyglau. Gwrandewch ar bodlediadau , gwyliwch ffilmiau a gwnewch bosau.
  • Er bod llyfrgelloedd cyhoeddus ar gau, bydd gan rhai llyfrgelloedd apiau y gallwch eu defnyddio ar lein. Mae'r rhain yn eich galluogi i fenthyg e-lyfrau, llyfrau llafar neu gylchgronau o'ch cartref am ddim, os ydych chi'n aelod o'r llyfrgell.
  • Mae cyrsiau ar-lein sy'n rhad ac am ddim ar wefannau FutureLearn ac OpenLearn.
  • Mae llawer o apiau ar gael i chi ddysgu pethau newydd, fel iaith dramor neu sgiliau newydd eraill.
  • Byddwch yn ymwybodol o'r newyddion diweddaraf, ond byddwch yn ofalus o ble rydych chi'n cael y newyddion a gwybodaeth iechyd.
  • Am y wybodaeth ddiweddaraf yn Gymraeg, ewch i wefan coronafeirws GIG Cymru a gwefan coronafeirws llyw.cymru.
  • Am y wybodaeth ddiweddaraf yn Saesneg, ewch i wefan coronafeirws y GIG a thudalennau gov.uk.
  • Os ydy straeon newyddion yn gwneud i chi deimlo'n bryderus neu'n ddryslyd, ystyriwch ddiffodd y newyddion am ychydig neu gyfyngu ar yr hyn rydych chi'n ei wylio.
  • Gall y cyfryngau cymdeithasol eich helpu i gadw mewn cysylltiad gyda phobl, ond gall hefyd wneud i chi deimlo'n bryderus, yn enwedig os yw pobl yn rhannu straeon o'r newyddion neu'n postio am eu pryderon. Dylech ystyried gymryd egwyl neu gyfyngu ar sut rydych chi'n defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol. Gallwch benderfynu gweld grwpiau neu dudalennau penodol ond peidio sgrolio trwy linellau amser neu ffrydiau newyddion.

Ewch i'n tudalennau am iechyd meddwl ar lein am ragor o wybodaeth.Byddwch yn ymwybodol o'r newyddion diweddaraf, ond byddwch yn ofalus o ble rydych chi'n cael y newyddion a gwybodaeth iechyd.

Mae gan Sefydliad Cwnsela a Seicotherapi Prydain (BACP) ragor o wybodaeth ar sut i ymdopi os ydych chi'n teimlo'n bryderus am y coronafeirws.

  • Agorwch y ffenestri i gael awyr iach. Neu, gallwch dreulio ychydig o amser yn eistedd ar stepen y drws, neu yn yr ardd os oes un gyda chi.
  • Ceisiwch edrych ar yr awyr allan o'r ffenest neu o stepen eich drws. Gall hyn eich helpu i fod yn ymwybodol o'r gofod o'ch cwmpas.
  • Newidiwch ystafell yn rheolaidd.

Cefnogaeth gyda gwaith, budd-daliadau a llety

Efallai eich bod yn teimlo'n bryderus neu'n ansicr ynghylch sut y bydd eich gwaith, eich budd-daliadau neu eich sefyllfa o ran llety yn cael eu heffeithio gan y coronafeirws.

Dyma rai ffyrdd o ffeindio cyngor a chefnogaeth:

Mae cyngor am y coronafeirws i weithwyr ar wefan Llywodraeth Prydain.

Mae'r wybodaeth hon yn cynnwys manylion am Dâl Salwch Statudol a phethau eraill y gall eich cyflogwr wneud i'ch help.

Mae gwybodaeth am y coronafeirws i gyflogwyr a gweithwyr ar gael gan Acas hefyd (Y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu).

Mae hyn yn cynnwys cyngor ar dâl salwch a chymryd amser i ffwrdd o'r gwaith i ofalu am blentyn neu berson arall sy'n dibynnu arnoch.

Os ydych chi'n gyflogwr neu'n ymwneud â rhedeg busnes, gall y cyngor canlynol fod o gymorth:

Ceir hefyd wybodaeth am y gefnogaeth sydd ar gael i fusnesau:

Mae'r cyngor hwn yn cynnwys gwybodaeth ar dâl salwch ac absenoldebau, yn ogystal â chefnogaeth i fusnesau, gan gynnwys y Cynllun Cadw Swyddi trwy gyfnod Coronafeirws.

Mae gwybodaeth am y coronafeirws i gyflogwyr a gweithwyr ar gael gan Acas hefyd (Y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu). Mae hyn yn cynnwys cyngor ar dâl salwch a chymryd amser i ffwrdd i ofalu am blentyn neu berson arall sy'n dibynnu arnoch.

Mae gwybodaeth ar wefan llywodraeth y DU ynghylch y coronafeirws a hawlio budd-daliadau (Saesneg yn unig).

Mae'n cynnwys arweiniad ar Dâl Salwch Statudol a Chredyd Uniongyrchol, yn ogystal â gwybodaeth ar newidiadau i apwyntiadau Canolfan Waith ac asesiadau am fudd-daliadau sy'n ymwneud ag iechyd ac anabledd.

Efallai eich bod yn poeni ynghylch sut y gall y coronafeirws effeithio ar eich sefyllfa o ran llety.

Gall hyn gynnwys pryderon am daliadau rent neu forgais, neu os oeddech chi'n bwriadu symud tŷ.

Os oeddech chi eisoes mewn sefyllfa anodd o ran llety, gall fod yn anodd delio ag aros adref am fwy o amser nag arfer.

Mae nifer o fannau ar gael i chi gael help, gan gynnwys y canlynol:

Mae Cyngor ar bopeth yn cynnig gwybodaeth a chyngor cyfrinachol sy'n rhad ac am ddim ynglŷn â'ch hawliau, yn cynnwys gwybodaeth am fudd-daliadau, arian a gwaith.

Gallwch roi galwad ffôn iddynt ar y rhifau canlynol:

  • 03444 111 444 (Llinell Gymorth)
  • 03444 111 445 (Llinell destun)

Neu ewch i'r tudalennau canlynol ar wefan Cyngor ar Bopeth:

Rhestr wirio aros adref

  • Bwyd: oes gennych chi ffordd o gael bwyd wedi'i ollwng gyda chi os oes angen i chi hunan-ynysu?
  • Glanhau: oes nwyddau glanhau gyda chi?
  • Gwaith: ydych chi'n gallu parhau i weithio, yn cynnwys gweithio o adref? Os na, allwch chi ddod o hyd i'ch hawliau i dâl a budd-daliadau?
  • Meddyginiaeth: oes gennych ddigon o feddyginiaeth, neu oes ffordd gennych chi i gael rhagor?
  • Iechyd: ydych chi'n gallu aildrefnu unrhyw sesiynau therapi neu driniaeth?
  • Cysylltu: oes gennych chi ffyrdd i gadw mewn cysylltiad mewn pobl rydych chi'n eu gweld yn rheolaidd, fel rhifau ffôn, neu gyfeiriadau e-bost? Oes angen help arnoch chi i osod ffyrdd o gyfathrebu'n ddigidol, fel ap galwadau fideo?
  • Trefn eich diwrnod: allwch chi greu trefn neu amserlen i'ch hun? Ac os ydych chi'n byw gyda phobl eraill, a ddylech chi greu amserlen i'r cartref cyfan? Oes angen i chi gytuno sut bydd y cartref yn rhedeg gyda phawb adref bob dydd?
  • Ymarfer corff: oes unrhyw ymarfer corff y gallwch chi ei wneud yn y tŷ, fel mynd i fyny ac i lawr y grisiau, defnyddio tiniau o ffa fel pwysau, neu ymarferion y gallwch chi eu gwneud yn eich cadair?
  • Natur: ydych chi wedi meddwl sut y gallwch ddod â natur i mewn i'r tŷ? Allwch chi archebu hadau ac offer plannu, neu roi lluniau o fannau gwyrdd ar y waliau?
  • Adloniant: oes gennych chi bethau i'w gwneud, llyfrau i'w darllen, neu raglenni teledu i'w gwylio?
  • Ymlacio: oes gennych adnoddau i wneud rhywbeth creadigol, fel papur a phensiliau?

Diweddarwyd y dudalen hon ar 26 Mawrth 2020.

  • Mae cynnwys y dudalen yn adlewyrchu'r cyngor gorau sydd gennym ar hyn o bryd. Byddwn yn ei ddiweddaru yn ôl yr angen, yn enwedig os oes newidiadau i arweiniad ar iechyd cyhoeddus.
  • Os ydych chi'n ail-ddefnyddio'r cynnwys hwn rhywle arall, rhannwch y ddolen i'r dudalen yn uniongyrchol yn hytrach na dyfynnu neu roi crynodeb o'r wybodaeth, er mwy osgoi rhannu gwybodaeth sydd allan o ddyddiad.
  • Rydyn ni'n gwerthfawrogi unrhyw adborth ar yr hyn rydyn ni'n ei amlinellu yma, neu unrhyw beth hoffech chi i ni ei gynnwys. I adael sylwadau, cliciwch y bawd i fyny / i lawr uchod.

Support our work

With your help, we can continue to provide life-saving information and advice.

Make a donation today

arrow_upwardYn ôl i'r brig