Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Trawma

Mae'r adran hon yn egluro beth yw trawma a sut mae'n effeithio ar eich iechyd meddwl, a hefyd sut y gallwch eich helpu'ch hun, pa driniaethau sydd ar gael a sut i oresgyn rhwystrau er mwyn cael y cymorth priodol. Mae hefyd yn cynnwys cyngor i bobl sydd am helpu rhywun sydd wedi profi trawma.

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Gymraeg. This link will take you to a Welsh translation of this page.

Pa rwystrau y gallwn eu hwynebu wrth geisio cymo

Gall fod yn anodd ceisio cymorth i ddelio ag effeithiau trawma, ac weithiau gallech wynebu rhwystrau wrth geisio cael y cymorth rydych chi ei angen ac yn ei haeddu. Er enghraifft:

  • Efallai na fyddwch yn gallu siarad am yr hyn a ddigwyddodd. Gallai hyn ennyn teimladau cryf iawn neu sbarduno ymatebion fel pyliau o banig, ymdeimlad o ddatgysylltiad neu deimladau hunanladdol.
  • Efallai na fyddwch yn gwybod ai trawma oedd ef. Er enghraifft, efallai na fyddwch yn cofio beth a ddigwyddodd, neu'n gwybod sut i ddeall eich profiadau.
  • Efallai y byddwch wedi cael profiadau gwael wrth geisio cymorth. Er enghraifft, os nad oedd pobl wedi gwrando arnoch, neu os ydych wedi cael niwed o ganlyniad i ofal iechyd gwael.

O oed cynnar iawn, roeddwn i'n gweld nad oedd pethau'n 'gwneud synnwyr' bob amser ond cymerodd flynyddoedd lawer a hyd yn ddiweddar iawn... rwy'n 58 oed... i mi roi'r darnau o'm hanes at ei gilydd... yn enwedig mewn perthynas â'r effaith arnaf i.

  • Efallai y bydd angen i chi egluro pethau i nifer o bobl. Efallai y byddwch yn siarad â nifer o weithwyr gofal iechyd proffesiynol cyn i chi gael y cymorth priodol. Gallai hyn olygu bod yr un cwestiynau'n cael eu gofyn i chi dro ar ôl tro.
  • Nid yw pob gweithiwr proffesiynol yn deall trawma. Gallai hyn olygu na fydd yn deall eich cryfderau neu beth sydd wedi'ch helpu i oroesi. Er enghraifft, gallech deimlo bod eich dulliau ymdopi yn cael eu barnu neu eu beirniadu.
  • Efallai na fydd pobl eraill yn deall. Er enghraifft, gallai aelodau o'r teulu neu'r gymuned fod yn elyniaethus neu'n feirniadol o bobl sy'n ceisio cymorth i ddelio â thrawma neu broblemau iechyd meddwl, neu gallent wrthod derbyn neu wfftio beth rydych yn mynd drwyddo..
  • Efallai y byddwch wedi rhoi cynnig ar rywbeth sydd heb eich helpu: gall hyn fod yn siom fawr.
  • Weithiau gallech deimlo bod ymdopi â thrawma yn rhy anodd. Efallai y bydd adegau pan deimlwch na allwch ymdopi neu fod popeth yn rhy anodd.

Os ydych yn anfodlon ar y ffordd y mae gweithwyr proffesiynol yn eich trin, gallwch gwyno.

Mae rhagor o wybodaeth am hyn yn ein canllaw ar geisio cymorth i ddelio â phroblem iechyd meddwl, ac yn ein tudalennau am faterion cyfreithiol ar gwyno am ofal iechyd a chymdeithasol.

Sut y gallaf oresgyn y rhwystrau hyn?

Os ydych yn wynebu rhwystrau fel y rhain, dyma rai pethau a allai'ch helpu:

  • Rhoi pethau mewn ysgrifen. Gallai hyn fod o gymorth os yw'n rhy anodd dweud pethau'n uchel neu os nad ydych am eu hailadrodd. 
  • Cymryd un diwrnod ar y tro. Efallai y bydd diwrnodau da a diwrnodau gwael. Ceisiwch ganolbwyntio ar bob diwrnod yn ei dro a gosod nodau bach, ymarferol i chi'ch hun.
  • Gallwch ddewis beth i'w rannu. Chi sy'n penderfynu beth fyddwch yn ei ddweud am eich profiadau wrth bobl eraill.
  • Rhoi gwybod i bobl am y math o gymorth rydych am ei gael. Er enghraifft, gofyn i rywun wrando arnoch chi a pheidio â chynnig cyngor.
  • Holi gweithwyr proffesiynol am eu harbenigedd. Gallwch ofyn a ydynt wedi cael hyfforddiant a phrofiad penodol o weithio gyda phobl sydd wedi profi trawma, a holi am unrhyw beth arall sy'n berthnasol.
  • Dangos y wybodaeth hon i bobl. Gallai eu helpu i ddysgu mwy am drawma.

Roeddwn i wedi profi gofid mawr wrth weithio gyda chwnselydd a oedd yn dda ei bwriad ond yn fy nhrin yn wael drwy ei ffordd o holi a'i hagwedd a oedd weithiau'n giaidd.

  • Gallwch roi cynnig ar therapi pa un a ydych yn gallu dweud y cyfan neu beidio. Mae rhai pobl yn credu mai dim ond os ydych yn barod i ddweud y cyfan y gallwch gael cymorth gan therapydd, ond nid yw hyn yn wir. Bydd therapyddion sy'n deall trawma yn eich helpu ac yn dysgu sgiliau ymdopi i chi, faint bynnag o'ch profiad y byddwch yn ei rannu â nhw.
  • Holwch am y dewisiadau sydd ar gael. Er enghraifft, efallai y byddwch yn gallu gofyn am therapydd o'r naill ryw neu'r llall, neu ddewis eistedd yn wynebu'r drws os ydych yn teimlo'n fwy diogel wrth wneud hynny. Mae rhagor o awgrymiadau yn y wybodaeth am gael y budd mwyaf o therapi.
  • Canolbwyntio ar sut rydych yn teimlo nawr. Pa un a ydych yn cofio neu'n deall beth a ddigwyddodd neu beidio, gallwch ofyn am gymorth i ddelio â'r effeithiau rydych yn eu profi a'r pethau sy'n digwydd i chi nawr.
  • Mae trawma yn effeithio ar bobl mewn ffordd wahanol. Bydd y math o gymorth sydd ei angen yn benodol i chi. Gallech fod ag angen cymorth i ddelio â thrawma o unrhyw fath, ac ar ôl unrhyw gyfnod.
  • Cysylltu â phobl eraill sydd wedi profi trawma. Mae cymorth ac anogaeth gan bobl sydd wedi profi rhywbeth tebyg yn gallu bod o gymorth mawr. Mae rhagor o wybodaeth ar ein tudalennau am gymorth gan gymheiriaid.

Rydw i wedi siarad â rhai goroeswyr eraill a sylweddoli eu bod nhw'n teimlo'n union yr un fath. Roedd yn help mawr siarad â nhw. Gwnaeth i mi sylweddoli fy mod i'n ymdopi fel roeddwn i'n gallu, er bod fy ymddygiad wedi newid, a bod hyn yn wir am bawb.

  • Ystyried dewisiadau eraill. Mae rhagor o opsiynau i'w trafod â'ch meddyg ar ein tudalennau am driniaethau a therapïau. Efallai fod rhywbeth rydych chi heb roi cynnig arno eto ac a allai fod o gymorth i chi.
  • Siarad â Mind. Rydym ar gael i'ch helpu. Mae ein llinell wybodaeth yn gallu'ch helpu i chwilio am opsiynau cymorth yn eich ardal chi, ac mae canghennau Mind lleol yng Nghymru a Lloegr sy'n darparu nifer o wasanaethau a allai fod ar gael i chi.
  • Chwilio am eiriolwr. Gall eiriolwr eich helpu i fynegi'ch barn a'ch dymuniadau, a'ch helpu i gael gafael ar y cymorth rydych chi ei angen ac yn ei haeddu.
  • Os ydych wedi rhoi cynnig ar rywbeth ac nad yw wedi gweithio, ceisiwch fod yn garedig ac amyneddgar â chi'ch hun. Gall fod yn anodd iawn ymdopi ag effeithiau trawma a gall gymryd llawer o amser ac egni, ond mae nifer mawr o bobl yn gweld ei bod yn bosibl gwella o gael y cyfuniad iawn o driniaethau, hunanofal a chymorth.
" "

Who would believe me?

I would really like to see a change, where it is up to the police to press charges. They had my perpetrator's recorded confession... I was too scared to make the decision all by myself.

Cyhoeddwyd y wybodaeth hon yn Ionawr 2020. Byddwn yn ei diwygio yn 2022.

Mae cyfeirnodau ar gael. Os dymunwch atgynhyrchu'r wybodaeth hon, ewch i'n tudalen ar ganiatâd a thrwydded.

arrow_upwardYn ôl i'r brig