er gwell iechyd meddwl
Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Sut i ymdopi â phroblemau cysgu

Yn egluro cwsg ac iechyd meddwl, gan roi awgrymiadau ymarferol a gwybodaeth ynglŷn â ble i gael cymorth.

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Beth yw’r cysylltiad rhwng cwsg ac iechyd meddwl?

Mae cysylltiad agos rhwng cwsg ac iechyd meddwl. Gall byw gyda phroblem iechyd meddwl effeithio ar ba mor dda rydych yn cysgu, a gall methu cysgu gael effaith negyddol ar eich iechyd meddwl.

 

Cycle of lack of sleep leading to tiredness, difficulty coping with life, low self esteem and feelings of worry and/or stress

"Mae methu cysgu’n gwneud i chi boeni. Mae poeni’n gwneud i chi fethu cysgu. Os ydych chi’n poeni am gysgu mae eich meddwl fel pe bai’n ymladd ag ef ei hun. Mae’n sefyllfa ofnadwy i fod ynddi."

Pa broblemau cysgu allwn i eu cael?

Mae pawb angen cwsg, ond mae problemau cysgu’n gyffredin iawn. Efallai y byddwch yn adnabod rhai o’r profiadau isod, neu y byddwch yn cael anawsterau cysgu eraill nad ydynt wedi’u rhestru yma.

Efallai y byddwch:

  • yn cael trafferth i fynd i gysgu, y byddwch yn deffro ynghanol y nos neu’n deffro’n rhy gynnar yn y bore (enw arall am hyn yw insomnia – mae mwy o wybodaeth i’w gweld ar wefan y GIG)
  • yn cael problemau sy’n tarfu ar eich cwsg, pyliau o banig, atgofion annymunol, hunllefau neu seicosis
  • yn ei chael hi’n anodd i ddeffro neu godi o’r gwely
  • yn teimlo’n flinedig neu’n gysglyd yn aml – gallai hyn fod oherwydd eich bod ddim yn cael digon o gwsg, neu ddim yn cael cwsg o ansawdd da, neu oherwydd problemau iechyd
  • yn cysgu llawer – gan gynnwys cysgu ar adegau pan rydych eisiau bod yn effro, neu pan mae angen i chi fod yn effro.

"Pan fydda i’n teimlo’n isel, rwy’n cysgu llawer iawn – pan o’n i ar fy ngwaethaf ro’n i’n cysgu 18 awr y diwrnod, oherwydd dyna’r unig ffordd ro’n i’n gallu stopio meddwl a stopio fy meddwl rhag dweud pethau ofnadwy wrtha i."

Os ydych chi’n cael problemau cysgu, efallai y byddwch:

  • yn fwy tebygol o deimlo’n bryderus, yn teimlo’n isel neu’n meddwl am ladd eich hun
  • yn fwy tebygol o gael cyfnodau seicotig – gall methu cysgu’n iawn achosi maniaseicosis neu baranoia, neu wneud symptomau sy’n bodoli’n barod yn waeth
  • yn teimlo’n unig neu ar eich pen eich hun – er enghraifft, os oes gennych chi ddim egni i weld pobl neu os yw pobl eraill ddim yn deall
  • yn cael trafferth i ganolbwyntio, neu wneud cynlluniau a phenderfyniadau
  • yn teimlo’n bigog neu heb egni i wneud pethau
  • yn cael problemau â bywyd o ddydd i ddydd – er enghraifft, yn y gwaith neu gyda theulu a ffrindiau 
  • yn cael eich effeithio fwy gan broblemau iechyd eraill, gan gynnwys problemau iechyd meddwl.

"Yn ystod y dydd, mae fy ymennydd i’n niwlog, a dw i ddim yn gallu cofio pethau’n iawn. Does gen i ddim egni i wneud pethau."

Beth sy’n achosi problemau cysgu?

Mae’r pethau sy’n effeithio ar ein cwsg yn wahanol i bawb. Maen nhw’n cynnwys:

  • straen neu boeni – er enghraifft, am broblemau yn ymwneud ag ariancartref neu waith
  • problemau yn ymwneud â ble rydych yn cysgu – er enghraifft, os ydych chi’n cysgu mewn lle anghyfforddus neu os nad ydych yn cael llonydd
  • cyflyrau iechyd sy’n gysylltiedig â chwsg, sydd hefyd yn cael eu galw’n anhwylderau cysgu
  • bod yn rhiant neu ofalwr
  • cymryd meddyginiaeth, gan gynnwys dechrau neu stopio cymryd meddyginiaeth
  • cyffuriau hamdden ac alcohol
  • gweithio yn y nos neu weithio shifftiau
  • trawma ar hyn o bryd neu yn y gorffennol
  • problemau iechyd meddyliol a chorfforol – gall llawer o’r rhain effeithio ar eich cwsg.

I gael rhagor o wybodaeth am anhwylderau cysgu, ewch i wefannau’r Sefydliad Iechyd Meddwl a Choleg Brenhinol y Seiciatryddion, a darllenwch ein rhestr o fanylion cysylltu defnyddiol.

"Allwch chi ddim ymlacio os nad oes gennych chi rywle cyfforddus a diogel yn y nos. Mae hyn yn achosi i chi beidio cysgu a threulio’r rhan fwyaf o’r nos yn poeni."

Os yw problemau yn ymwneud â chysgu yn gwneud i chi boeni neu’n effeithio ar eich bywyd o ddydd i ddydd, mae’n syniad da gweld meddyg a all roi archwiliad iechyd i chi a’ch helpu i gael triniaeth a chymorth. Os ydych yn cadw dyddiadur cysgu, gallech fynd â’r dyddiadur gyda chi i’ch apwyntiad i’w ddangos i’ch meddyg.

 

 

"Mae fy mhroblemau cysgu [...] yn fwy o fater o ohirio amser gwely nag insomnia a dweud y gwir, a chanlyniad hynny ydy mod i’n rhy flinedig y bore ar ôl hynny. Dw i byth wedi darganfod beth sy’n gweithio i mi gan mod i yn gallu cysgu ar ôl i mi gyrraedd y gwely."

 

Sut allai problemau iechyd meddwl effeithio ar fy nghwsg?

Os ydych yn byw gyda phroblem iechyd meddwl, gallai hyn effeithio ar eich cwsg mewn llawer o ffyrdd. Er enghraifft:

  • Gall gorbryder achosi meddyliau sy’n gwibio neu feddyliau ailadroddus, a phryderon sy’n eich cadw’n effro. Efallai hefyd y byddwch yn cael pyliau o banig pan fyddwch yn trio cysgu.
  • Gall iselder ac anhwylder affeithiol tymhorol (SAD) wneud i chi gysgu mwy, gan gynnwys aros yn y gwely am fwy o amser neu gysgu’n fwy aml. Gall iselder hefyd achosi insomnia.
  • Os ydych wedi bod drwy drawma, gallai hyn achosi atgofion annymunol, hunllefau neu freuddwydion dychrynllyd sy’n aflonyddu ar eich cwsg. Efallai y byddwch yn teimlo’n anniogel neu’n anghyfforddus yn y gwely neu yn y tywyllwch.
  • Gallai paranoia a seicosis olygu eich bod yn cael anhawster i gysgu. Gallech fod yn clywed lleisiau, neu’n gweld pethau sy’n eich dychryn neu’n achosi pryder i chi.
  • Mae mania yn aml yn achosi teimladau o egni a hwyliau da, felly efallai na fyddwch yn teimlo’n flinedig neu eisiau cysgu. Gall meddyliau sy’n gwibio hefyd eich cadw’n effro ac achosi insomnia.
  • Gall meddyginiaeth seiciatrig achosi sgil effeithiau, gan gynnwys insomnia, amharu ar gwsg, hunllefau a chysgu gormod. Gall stopio cyffuriau seiciatrig hefyd achosi problemau cysgu.
A woman looking at the camera with the sun setting behind her, with the sea, beach and docked boats.

Sut y gwnaeth fy mhatrwm cysgu amlygu fy mhroblemau iechyd meddwl

"Fy nghwsg oedd y faner goch gyntaf a ddechreuodd chwifio’n wyllt i’m rhybuddio i bod rhywbeth o’i le."

Diweddarwyd y wybodaeth hon ddiwethaf yn Mai 2020. Byddwn yn ei diwygio yn 2023.

Mae cyfeirnodau ar gael. Os dymunwch atgynhyrchu'r wybodaeth hon, ewch i'n tudalen ar ganiatâd a thrwydded.

Rhannwch y wybodaeth hon

arrow_upwardYn ôl i'r brig