Yn egluro iselder ôl-enedigol a phroblemau iechyd meddwl amenedigol eraill, gan gynnwys achosion posibl, triniaethau ac opsiynau ar gyfer cefnogaeth. Hefyd yn cynnwys gwybodaeth i ffrindiau a theulu, gan gynnwys cefnogaeth a chyngor i bartneriaid.
Os yw'ch partner yn feichiog neu wedi rhoi genedigaeth yn ddiweddar, efallai y byddwch yn teimlo y dylai'r ffocws fod ar ei iechyd nhw. Ond gall partneriaid datblygu problemau iechyd meddwl o gwmpas yr amser hwn hefyd. Gall hyn gynnwys teimladau o iselder a phryder.
Gan ei fod yn gysylltiedig â dod yn rhiant, efallai y bydd rhai meddygon yn dweud eich bod yn profi iselder ôl-enedigol - neu iselder tadol. Efallai y bydd eraill yn dweud bod y term 'ôl-enedigol' ond yn berthnasol os mai chi yw'r un a roddodd enedigaeth.
Ond ni waeth sut rydych chi'n labelu'ch problemau iechyd meddwl fel partner, nid ydych chi ar eich pen eich hun - ac rydych chi'n haeddu cefnogaeth.
Mae’r dudalen hon yn trafod:
"Yn gyffredinol, roedd o’n gyfnod dychrynllyd yn ein bywydau, am tua 18 mis i gyd o’r adeg y gwnaethon ni sylwi ei bod hi’n disgwyl babi i’r adeg pan ddaethon ni drwyddi yr ochr arall, ac mi wnaeth o roi pwysau mawr ar ein perthynas. O edrych yn ôl, dydw i ddim yn siŵr sut y gwnaethon ni lwyddo i ddod drwy’r cyfan."
Mae llawer o resymau pam y gallech gael problemau iechyd meddwl tra mae eich partner yn disgwyl babi neu ar ôl iddi eni’r babi.
Ond mae’r problemau hyn yn fwy tebygol os ydych yn yr amgylchiadau isod:
Efallai hefyd eich bod yn ymdopi â’r canlynol:
Efallai y bydd eich partner hefyd yn cael problemau iechyd meddwl tra mae’n disgwyl babi neu ar ôl geni’r babi. Gall hyn olygu ei bod hyd yn oed yn anoddach i chi ymdopi ag anawsterau arferol dod yn rhiant.
Mae pawb yn ymateb i fod yn rhiant mewn ffyrdd gwahanol. Ond mae rhai arwyddion cyffredin sy’n dangos y gallech fod â phroblem iechyd meddwl. Mae’r rhain yn cynnwys:
Os ydych yn meddwl bod gennych broblemau iechyd meddwl, mae’n bosibl rheoli’r teimladau hyn â’r gefnogaeth iawn.
Gallwch gael cefnogaeth ar gyfer eich iechyd meddwl mewn ffyrdd amrywiol:
Gallwch siarad gyda’ch meddyg unrhyw bryd y byddwch yn cael problemau iechyd meddwl. Mae hyn yn cynnwys yn ystod y cyfnod y mae eich partner yn disgwyl babi neu ar ôl i’ch plentyn gael ei eni.
Gall eich meddyg eich cyfeirio at eich gwasanaethau cefnogi lleol neu therapïau siarad. Gall hefyd roi meddyginiaeth i chi ar gyfer eich iechyd meddwl.
Mae nifer o sefydliadau sy’n arbenigo mewn helpu a chefnogi partneriaid yn ystod y cyfnod hwn:
Edrychwch ar ein tudalen cysylltiadau defnyddiol i weld manylion sefydliadau eraill a allai helpu.
Mae gwahanol ffyrdd o ofalu am eich iechyd meddwl eich hun os ydych yn teimlo eich bod yn cael anhawster. Edrychwch ar ein tudalen am ffyrdd o ofalu am eich iechyd meddwl pan fyddwch yn dod yn rhiant i gael syniadau a allai helpu.
Mae gennym hefyd dudalennau am y mathau o broblemau iechyd meddwl y gallech eu cael. Mae’r tudalennau hyn yn cynnwys awgrymiadau hunanofal penodol ac opsiynau ar gyfer triniaeth a chefnogaeth.
Diweddarwyd y wybodaeth hon ddiwethaf yn Ebrill 2020. Byddwn yn ei diwygio yn 2023.
Mae cyfeirnodau ar gael. Os dymunwch atgynhyrchu'r wybodaeth hon, ewch i'n tudalen ar ganiatâd a thrwydded.