Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Iselder ôl-enedigol ac iechyd meddwl amenedigol

Yn egluro iselder ôl-enedigol a phroblemau iechyd meddwl amenedigol eraill, gan gynnwys achosion posibl, triniaethau ac opsiynau ar gyfer cefnogaeth. Hefyd yn cynnwys gwybodaeth i ffrindiau a theulu, gan gynnwys cefnogaeth a chyngor i bartneriaid.

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Saesneg.

Beth yw problemau iechyd meddwl amenedigol?

Mae problem iechyd meddwl 'amenedigol' yn un rydych yn ei chael unrhyw bryd rhwng yr adeg rydych yn canfod eich bod yn disgwyl babi hyd at flwyddyn ar ôl i chi roi genedigaeth.

Mae cael babi yn ddigwyddiad mawr. Mae’n naturiol i chi brofi emosiynau amrywiol yn ystod beichiogrwydd ac ar ôl rhoi genedigaeth. Ond os bydd unrhyw deimladau anodd yn dechrau cael effaith fawr ar eich bywyd bob dydd, efallai fod gennych broblem iechyd meddwl amenedigol. 

Gallai hon fod yn broblem iechyd meddwl newydd, neu’n rhan o broblem rydych wedi ei chael yn y gorffennol.

Mae 'amenedigol' yn golygu’r cyfnod rydych yn feichiog a hyd at tua blwyddyn ar ôl rhoi genedigaeth. Mae’n cynnwys dwy ran:

  • am sy’n golygu 'o gwmpas'
  • enedigol sy’n golygu 'geni'

Efallai hefyd y byddwch wedi clywed termau sy’n cael eu defnyddio i ddisgrifio’r adeg benodol cyn neu ar ôl rhoi genedigaeth, er enghraifft:

  • ôl-enedigol sy’n golygu 'ar ôl geni'
  • cynenedigol sy’n golygu 'cyn geni'

Does yna ddim gair cywir neu anghywir i ddisgrifio’r cyfnod o gwmpas beichiogrwydd ac ar ôl geni, a gallech glywed eich meddyg neu fydwraig yn defnyddio unrhyw un o’r geiriau hyn.

Gwybodaeth i bartneriaid

Os yw eich partner yn disgwyl babi neu os yw wedi cael babi yn ddiweddar, gallech chi hefyd gael problemau iechyd meddwl o gwmpas yr adeg hon.

Edrychwch ar ein tudalen am iechyd meddwl partneriaid, sy’n cynnwys ffyrdd o gael help a chefnogaeth.

 

female smiling on a beach with a young child strapped to her front

Sut y gwnaeth homoffobia effeithio ar fy iechyd meddwl

"Fy meichiogrwydd ydy’r cyfnod anoddaf dw i wedi ei gael erioed. Ro’n i ar bigau drwy’r adeg... Cafodd effaith ddifrifol ar bob rhan o nghorff i."

Problemau iechyd meddwl amenedigol cyffredin

Mae’r tudalennau gwybodaeth hyn yn trafod rhai o’r problemau iechyd meddwl amenedigol mwyaf cyffredin:

Mae rhai merched yn cael problemau bwyta yn ystod beichiogrwydd ac ar ôl bod yn feichiog. Mae gan elusen feichiogrwydd Tommy wybodaeth benodol am anhwylderau bwyta yn ystod beichiogrwydd. Efallai y byddai darllen ein tudalennau am broblemau bwyta o gymorth hefyd. 

Siarad am iechyd meddwl ôl-enedigol

Gwyliwch Sara, Holly a Kate yn siarad am eu profiad o broblemau iechyd meddwl ar ôl beichiogrwydd.

"Roedd dweud wrth fy mydwraig mod i’n cael meddyliau hunanladdol a mod i wedi gofyn am help gan fy meddyg teulu yn gam anodd iawn."

Rheoli problemau iechyd meddwl sy’n bodoli’n barod yn ystod beichiogrwydd

Os oes gennych broblem iechyd meddwl a’ch bod yn disgwyl babi, mae’n syniad da i chi siarad gyda’ch meddyg cyn gynted ag y bo modd. Gallwch hefyd siarad gyda’ch meddyg am iechyd meddwl os ydych yn meddwl dechrau teulu yn y dyfodol.

Gall eich meddyg eich helpu i wneud cynlluniau i reoli eich iechyd meddwl yn ystod beichiogrwydd. Gall hefyd eich helpu i feddwl am unrhyw gefnogaeth ychwanegol y gallech fod ei hangen. 

Efallai y byddech yn hoffi darllen ein gwybodaeth am sut i siarad gyda’ch meddyg teulu cyn cael y sgwrs hon.

"Ro’n i wedi cael diagnosis o PTSD cyn fy meichiogrwydd. Pan o’n i’n disgwyl fy merch cefais gyfnodau ‘argyfyngus’ a chefais fy nghyfeirio at ymgynghorydd a wnaeth fy helpu i sylwi beth oedd y ffactorau oedd yn sbarduno’r teimladau hyn."

Os cefais i broblemau iechyd meddwl y tro diwethaf ro’n i’n disgwyl, fydd yr un peth yn digwydd eto?

Os ydych wedi cael problem iechyd meddwl yn ystod neu ar ôl beichiogrwydd blaenorol, mae mwy o risg y byddwch yn cael problemau eto. Ond dydy hyn ddim yn golygu y byddwch yn bendant yn cael problemau iechyd meddwl.

Os aethoch chi’n wael yn ystod beichiogrwydd blaenorol, efallai y byddwch yn poeni am gael babi arall. Ond efallai y byddwch yn teimlo’n fwy hyderus ynglŷn â sut i edrych ar ôl eich hun. Ac efallai y byddwch yn gwybod sut i adnabod unrhyw arwyddion eich bod yn mynd yn wael.

Os byddwch yn disgwyl babi eto, mae’n bwysig eich bod yn siarad gyda’ch meddyg ynglŷn â sut y gallwch ofalu am eich iechyd meddwl. Dylech hefyd feddwl pa fath o gefnogaeth y gallech fod ei hangen.

Edrychwch ar ein tudalen am gefnogaeth a gwasanaethau amenedigol i gael gwybodaeth ynglŷn â pha fath o gefnogaeth sydd ar gael yn ystod beichiogrwydd.

"Roedd hi’n anodd, oherwydd er bod pobl yn siarad am iselder ôl-enedigol, does yna ddim llawer o sôn am salwch meddwl yn ystod beichiogrwydd – cyfnod sydd i fod yn un hapus iawn."

Rheoli problemau iechyd meddwl gyda babi newydd

Os ydych wedi cael babi yn ddiweddar a’ch bod yn cael problemau gyda’ch iechyd meddwl, gall siarad ynglŷn â sut rydych yn teimlo ymddangos yn anodd iawn. Efallai y byddwch yn teimlo:

  • pwysau i fod yn hapus ac yn gyffrous
  • bod yn rhaid i chi fod â rheolaeth dros y sefyllfa
  • yn poeni eich bod yn rhiant gwael os ydych yn cael problemau gyda’ch iechyd meddwl
  • yn poeni y bydd rhywun yn mynd â’ch babi oddi arnoch os byddwch yn dweud sut rydych yn teimlo.

Ond os ydych yn cael pethau’n anodd, mae’n bwysig gwybod nad eich bai chi yw’r teimladau hyn. Gallwch ofyn am help neu gefnogaeth os oes angen.

Os oes arnoch chi angen cefnogaeth, mae ein tudalen am gefnogaeth a gwasanaethau amenedigol yn amlinellu’r gwahanol opsiynau. Mae hyn yn cynnwys gweithwyr iechyd proffesiynol, elusennau a sefydliadau eraill a allai helpu.

Mae ein tudalen am ffyrdd o ofalu am eich iechyd meddwl pan fyddwch yn dod yn rhiant hefyd yn cynnwys syniadau y gallwch roi cynnig arnynt.

Ac mae ein tudalen ar gyfer ffrindiau a theulu yn cynnwys awgrymiadau i’r bobl sydd o’ch cwmpas i’w helpu i’ch cefnogi yn ystod y cyfnod hwn.

Wna i frifo fy mabi?

Os ydych yn cael meddyliau yn ymwneud â niweidio eich babi, gall fod yn brofiad brawychus. Ond mae’n bwysig cofio nad ydy’r ffaith eich bod chi’n cael y meddyliau hyn yn golygu eich bod chi yn mynd i niweidio eich plentyn.

Efallai y bydd gennych ofn dweud wrth rywun am y teimladau hyn. Ond os gallwch chi fod yn agored ynglŷn â’r teimladau hyn a siarad amdanyn nhw, gallwch gael cefnogaeth yn gynt. Gallech siarad gydag aelod o’r teulu neu ffrind, neu weithiwr iechyd proffesiynol, fel eich meddyg neu fydwraig.

Delio gydag iselder ôl-enedigol

"Roedd clywed y meddyg yn dweud ei bod hi’n meddwl bod gen i iselder ôl-enedigol yn sioc i ddechrau, ond dechreuodd pethau wneud synnwyr."

Diweddarwyd y wybodaeth hon ddiwethaf yn Ebrill 2020. Byddwn yn ei diwygio yn 2023.

Mae cyfeirnodau ar gael. Os dymunwch atgynhyrchu'r wybodaeth hon, ewch i'n tudalen ar ganiatâd a thrwydded.

Rhannwch y wybodaeth hon

arrow_upwardYn ôl i'r brig