Mynnwch help nawr Gwnech rodd

Iselder ôl-enedigol ac iechyd meddwl amenedigol

Yn egluro iselder ôl-enedigol a phroblemau iechyd meddwl amenedigol eraill, gan gynnwys achosion posibl, triniaethau ac opsiynau ar gyfer cefnogaeth. Hefyd yn cynnwys gwybodaeth i ffrindiau a theulu, gan gynnwys cefnogaeth a chyngor i bartneriaid.

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Saesneg.

Beth yw seicosis ôl-enedigol?

Mae seicosis ôl-enedigol yn broblem iechyd meddwl anghyffredin ond difrifol sy’n gallu datblygu ar ôl i ferch eni plentyn. Weithiau mae’n cael ei alw’n seicosis ôl-esgor. 

Gall seicosis ôl-esgor fod yn brofiad llethol a dychrynllyd, ac mae’n bwysig gofyn am help cyn gynted ag y bo modd os ydych yn cael symptomau. Er hyn, mae’r rhan fwyaf o bobl yn gwella’n llwyr ar ôl cael y gefnogaeth iawn.

Mae’r dudalen hon yn trafod:

Byw drwy seicosis ôl-enedigol

Gwyliwch Kathryn yn siarad am ei phrofiad o seicosis ôl-enedigol.

Arwyddion a symptomau seicosis ôl-enedigol

Mae symptomau seicosis ôl-enedigol fel arfer yn dechrau yn weddol sydyn, o fewn ychydig wythnosau ar ôl i chi eni plentyn. Mae ‘ôl-enedigol’ yn golygu ar ôl geni plentyn.

Os oes gennych seicosis ôl-enedigol, rydych yn debygol o brofi cyfuniad o seicosisiselder a mania. Mae hyn yn golygu y gallech brofi’r symptomau cyffredin hyn:

Sut y gallech chi fod yn teimlo

Gallech fod yn teimlo:

  • yn gyffrous neu’n galonnog
  • yn isel iawn
  • hwyliau’n newid yn gyflym
  • yn ddryslyd neu’n ffwndrus.

Sut y gallech fod yn ymddwyn

Gallech fod:

  • yn aflonydd
  • yn methu cysgu, hyd yn oed pan fyddwch yn cael cyfle i gysgu
  • yn methu canolbwyntio
  • yn cael symptomau seicotig, fel rhithdybiau neu rithweledigaethau.

Beth yw rhithdybiau a rhithweledigaethau?

Mae rhithdybiau a rhithweledigaethau yn agweddau ar seicosis.

Mae rhithdybiau yn syniadau cryf nad yw pobl eraill yn eu cael. Er enghraifft, efallai eich bod yn meddwl: 

  • eich bod yn cael eich dilyn
  • bod rhywun yn darllen eich meddyliau
  • eich bod yn bwerus iawn ac yn gallu dylanwadu ar bethau sydd allan o’ch rheolaeth
  • bod gennych ddealltwriaeth arbennig neu brofiadau dwyfol.

Gall rhai rhithdybiau fod yn frawychus iawn, er enghraifft credu bod rhywun yn ceisio eich rheoli neu eich lladd. Yn aml iawn mae’r mathau hyn o rithdybiau’n cael eu galw’n feddyliau paranoiaidd, neu baranoia. Edrychwch ar ein gwybodaeth am rithdybiau a pharanoia i ddarganfod mwy.

Mae rhithweledigaethau yn digwydd pan fyddwch yn profi pethau nad yw pobl eraill o’ch cwmpas yn eu profi. Er enghraifft clywed lleisiau, gweld rhithweledigaethau gweledol a synwyriadau eraill nad oes modd eu hegluro. Edrychwch ar ein gwybodaeth am rithweledigaethau a chlywed lleisiau i ddarganfod mwy.

Achosion seicosis ôl-enedigol

Nid oes tystiolaeth glir ynglŷn â beth sy’n achosi seicosis ôl-enedigol. Ond mae rhai ffactorau sy’n golygu y gallech fod yn fwy tebygol o’i ddatblygu. Er enghraifft:

  • os oes gennych hanes o broblemau iechyd meddwl yn y teulu, yn enwedig hanes o seicosis ôl-enedigol yn y teulu
  • os ydych wedi cael diagnosis o anhwylder deubegwn neu sgitsoffrenia
  • os ydych wedi cael beichiogrwydd neu enedigaeth drawmatig 
  • os ydych wedi profi seicosis ôl-enedigol o’r blaen.

Er hyn, gallwch ddatblygu seicosis ôl-enedigol hyd yn oed os nad oes gennych hanes o broblemau iechyd meddwl.

Os oes mwy o risg i chi ddatblygu seicosis ôl-enedigol, mae’n bwysig trafod eich iechyd meddwl gyda’ch meddyg neu fydwraig. Gallant eich helpu i feddwl sut y gallwch gynllunio ar gyfer y dyfodol.

Mae gan Action on Postpartum Psychosis (APP) gyfres o ganllawiau am seicosis ôl-enedigol. Mae’r rhain yn cynnwys canllaw i gynllunio beichiogrwydd os oes risg uchel y byddwch yn datblygu seicosis ôl-enedigol.

Triniaethau ar gyfer seicosis ôl-enedigol

Mae triniaethau amrywiol y gallech gael eu cynnig ar gyfer seicosis ôl-enedigol. Dylai eich meddyg drafod yr opsiynau hyn gyda chi, er mwyn i chi allu gwneud penderfyniad gyda’ch gilydd ynglŷn â’r driniaeth orau i chi:

Meddyginiaeth

Mae’n debyg y bydd eich meddyg yn cynnig cyffur gwrthseicotig i chi er mwyn rheoli eich hwyliau a’ch symptomau seicotig. Efallai hefyd y bydd yn cynnig gwrthiselydd i chi.

Edrychwch ar ein tudalennau am feddyginiaeth i gael mwy o wybodaeth.

ECT

Os yw eich symptomau’n ddifrifol iawn ac os nad yw triniaethau eraill yn gweithio, efallai y bydd eich meddyg yn cynnig therapi electrogynhyrfol (ECT) i chi.

Fydd yn rhaid i mi fynd i’r ysbyty?

Efallai y bydd eich meddyg yn penderfynu mai eich trin chi yn yr ysbyty yw’r ffordd orau o gael yr help y mae arnoch ei angen. Os yw’n bosibl, dylech gael eich derbyn i uned mamau a babanod, lle gallwch aros gyda’ch babi tra byddwch yn cael triniaeth. 

Edrychwch ar ein tudalennau am gefnogaeth a gwasanaethau i gael mwy o wybodaeth.

Eve smiling and holding baby

Fy mhrofiad o seicosis ôl-enedigol

"Es i’n wael bron yn syth ar ôl i Joe gael ei eni."

Hunanofal ar gyfer seicosis ôl-enedigol

Os ydych yn profi seicosis ôl-enedigol, y peth pwysicaf y gallwch ei wneud yw cael help. Siaradwch gyda gweithiwr iechyd proffesiynol, er enghraifft eich meddyg neu seiciatrydd, os ydych yn teimlo y gallwch wneud hynny.

Os nad ydych yn gallu siarad gyda gweithiwr iechyd proffesiynol, gallech siarad gyda rhywun rydych yn ei drystio ynglŷn â sut rydych yn teimlo, a gofyn am gymorth i gael help.

Pan fyddwch yn cael help proffesiynol, mae pethau y gallwch eu gwneud i ofalu amdanoch eich hun tra rydych yn gwella:

Ymuno â grŵp cefnogaeth gan gymheiriaid

Efallai y byddwch yn teimlo eich bod ar eich pen eich hun neu nad oes neb yn deall, ond gall siarad gyda phobl eraill helpu. Mae cefnogaeth gan gymheiriaid yn ffordd o rannu eich teimladau a’ch profiadau gyda phobl eraill sydd wedi cael profiadau tebyg.

Mae Action on Postpartum Psychosis yn cynnal rhwydwaith cefnogaeth gan gymheiriaid i ferched sydd wedi profi seicosis ôl-enedigol. Neu gallech drio grŵp cefnogaeth gan gymheiriaid ar-lein, fel cymuned gefnogol Elefriends Mind.

Adnabod y ffactorau sy’n sbarduno eich teimladau

Ceisiwch gadw dyddiadur o’ch hwyliau a beth sy’n digwydd yn eich bywyd. Gallai hyn eich helpu i adnabod patrymau neu sylwi beth sy’n effeithio ar eich iechyd meddwl. Gall hefyd eich helpu i fod yn ymwybodol o’r math o brofiadau neu deimladau a allai wneud i chi deimlo’n waeth.

Mae hyn yn rhoi cyfle yn y dyfodol i chi sylwi beth sy’n digwydd cyn i chi fynd yn waeth, a gofyn am help.

Cysylltu â sefydliadau arbenigol

Mae gan Action on Postpartum Psychosis ganllaw i wella ar ôl seicosis ôl-enedigol. Mae’n cynnwys llawer o awgrymiadau a syniadau ynglŷn â sut i ymdopi yn y diwrnodau a’r misoedd ar ôl cael diagnosis.

I gael mwy o syniadau, edrychwch ar ein tudalen am ffyrdd o ofalu am eich iechyd meddwl pan fyddwch yn dod yn rhiant.

Cynllunio beichiogrwydd arall

Os ydych wedi profi seicosis ôl-enedigol o’r blaen, efallai y byddwch yn poeni ynglŷn â bod yn feichiog eto. 

Mae profi seicosis ôl-enedigol yn golygu eich bod yn fwy tebygol o’i ddatblygu eto pan fyddwch yn feichiog yn y dyfodol. Ond os cewch y gefnogaeth iawn, gallwch gynllunio ymlaen llaw rhag ofn iddo ddigwydd eto.

Felly os ydych eisiau cael babi arall, neu os ydych yn canfod eich bod yn disgwyl babi, dylech siarad gyda’ch meddyg a gwneud cynllun cyn gynted ag y bo modd.

Gall eich meddyg hefyd eich cyfeirio at seiciatrydd amenedigol. Meddyg arbenigol yw hwn a all eich cefnogi os ydych yn disgwyl babi neu wedi geni babi yn ddiweddar, a bod gennych brofiad o broblemau iechyd meddwl.

Mae gan Action on Postpartum Psychosis (APP) gyfres o ganllawiau am seicosis ôl-enedigol. Mae’n cynnwys canllaw i gynllunio beichiogrwydd os oes risg uchel y byddwch yn datblygu seicosis ôl-enedigol.

Diweddarwyd y wybodaeth hon ddiwethaf yn Ebrill 2020. Byddwn yn ei diwygio yn 2023.

Mae cyfeirnodau ar gael. Os dymunwch atgynhyrchu'r wybodaeth hon, ewch i'n tudalen ar ganiatâd a thrwydded.

Rhannwch y wybodaeth hon

arrow_upwardYn ôl i'r brig