Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Iselder ôl-enedigol ac iechyd meddwl amenedigol

Yn egluro iselder ôl-enedigol a phroblemau iechyd meddwl amenedigol eraill, gan gynnwys achosion posibl, triniaethau ac opsiynau ar gyfer cefnogaeth. Hefyd yn cynnwys gwybodaeth i ffrindiau a theulu, gan gynnwys cefnogaeth a chyngor i bartneriaid.

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Saesneg.

Achosion PTSD ôl-enedigol

Mae’r enghreifftiau o ddigwyddiadau trawmatig a allai achosi PTSD ôl-enedigol yn cynnwys:

  • cyfnod esgor anodd a genedigaeth hir a phoenus
  • toriad Cesaraidd heb ei gynllunio
  • triniaeth frys
  • profiadau ysgytwol, annisgwyl a thrawmatig eraill yn ystod yr enedigaeth.

Mae rhai pobl yn teimlo bod cael babi newydd yn gwneud iawn am unrhyw brofiadau trawmatig. Neu efallai y byddant yn meddwl bod mwynhau bod yn rhiant newydd yn golygu y byddant yn anghofio am y trawma yn fuan. 

Ond gall y profiadau trawmatig hyn gael effaith negyddol ar eich perthynas gyda’ch babi a’r bobl o’ch cwmpas.

Efallai y byddwch yn teimlo’n siomedig nad oedd y profiad o eni plentyn yn debyg i’r hyn roeddech wedi ei obeithio. Neu efallai y byddwch yn teimlo’n flin gyda’r staff meddygol os oeddech yn teimlo na chawsoch eich trin yn dda iawn. 

Gallai eich profiadau hefyd wneud i chi deimlo’n bryderus iawn ynglŷn â chael babi arall yn y dyfodol, rhag ofn i chi orfod mynd drwy brofiad tebyg yn ystod yr enedigaeth.

"Cefais enedigaeth drawmatig. Roedd gen i gymaint o ofn y byddai fy mab yn marw, ac yn fy mhen ro’n i’n teimlo ei bod hi’n haws i mi beidio ei garu rhag ofn i mi ei golli."

Arwyddion a symptomau PTSD ôl-enedigol

Mae arwyddion a symptomau PTSD ôl-enedigol cyffredin yn cynnwys: 

Ail-fyw agweddau ar y trawma

Gallai hyn gynnwys:

  • ôl-fflachiadau byw (teimlo bod y trawma yn digwydd yr eiliad hon)
  • meddyliau a delweddau ymwthiol
  • hunllefau
  • gofid dwys o ganlyniad i bethau real neu symbolaidd sy’n eich atgoffa o’r trawma
  • synwyriadau corfforol, er enghraifft poen, chwysu, cyfog neu grynu.

Bod ar eich gwyliadwriaeth neu deimlo ar bigau

Gallai hyn gynnwys:

  • cynhyrfu pan fyddwch yn cael eich atgoffa o’r trawma
  • cael eich cynhyrfu neu eich digio’n hawdd
  • gwyliadwriaeth eithafol, sydd weithiau’n cael ei alw’n ‘or-wyliadwriaeth’ (hypervigilance)
  • methu cysgu, hyd yn oed pan fyddwch yn cael cyfle
  • natur flin neu ymddygiad ymosodol
  • methu canolbwyntio, gan gynnwys canolbwyntio ar dasgau syml rydych yn eu gwneud bob dydd
  • bod ar binnau neu’n hawdd eich dychryn
  • ymddygiad hunanddinistriol neu ddiofal
  • symptomau eraill gorbryder.

Osgoi teimladau neu atgofion

Gallai hyn gynnwys y canlynol:

  • teimlo bod yn rhaid i chi gadw’n brysur
  • osgoi sefyllfaoedd sy’n eich atgoffa o’r trawma
  • methu cofio manylion rhywbeth sydd wedi digwydd
  • teimlo’n emosiynol ddideimlad, neu wedi eich datgysylltu oddi wrth eich teimladau
  • teimlo’n gorfforol ddideimlad, neu wedi eich datgysylltu oddi wrth eich corff
  • methu mynegi hoffter
  • defnyddio alcohol neu gyffuriau hamdden i osgoi atgofion.

Syniadau a theimladau anodd

Gallai’r rhain gynnwys:

  • teimlo eich bod yn methu trystio neb
  • teimlo nad oes unman yn ddiogel
  • teimlo bod neb yn deall
  • beio eich hun am rywbeth sydd wedi digwydd
  • teimladau llethol o ddicter, tristwch, euogrwydd neu gywilydd.

Triniaethau ar gyfer PTSD ôl-enedigol

Mae triniaethau amrywiol ar gael ar gyfer PTSD ôl-enedigol. Dylai eich meddyg drafod yr opsiynau hyn gyda chi, er mwyn i chi allu gwneud penderfyniad gyda’ch gilydd ynglŷn â’r driniaeth orau i chi:

Therapi siarad

Y prif driniaethau ar gyfer PTSD yw mathau penodol o therapi siarad:

  • Therapi ymddygiadol gwybyddol sy’n canolbwyntio ar drawma - math o therapi ymddygiadol gwybyddol (CBT) sydd wedi’i gynllunio’n benodol i drin PTSD. Edrychwch ar ein tudalennau am CBT i gael mwy o wybodaeth.
  • Dadsensitieddio ac ailbrosesu symudiadau’r llygad (EMDR). Yn y driniaeth hon mae therapydd yn eich arwain i symud y llygad yn rhythmig wrth gofio’r digwyddiad trawmatig. Bwriad y symudiadau llygaid yw ysgogi’r system brosesu gwybodaeth yn yr ymennydd. Nod y driniaeth yw eich helpu i brosesu’r digwyddiadau trawmatig, ac ailaddasu a gwella’n gyflymach.

Meddyginiaeth

Ni chaiff meddyginiaeth ei chynnig i drin y PTSD ei hun fel arfer. Ond gallai eich meddyg gynnig meddyginiaeth i chi mewn rhai amgylchiadau:

  • Yn aml iawn mae pobl yn profi gorbryder ac iselder yn ogystal â PTSD. Efallai y bydd eich meddyg yn cynnig meddyginiaeth i chi i drin y symptomau hynny. 
  • Efallai y bydd eich meddyg yn cynnig meddyginiaeth i chi i’ch helpu i deimlo’n fwy sefydlog a gallu gofalu am eich babi. 
  • Weithiau mae rhestrau aros hir am therapïau siarad yn eich ardal. Efallai y bydd eich meddyg yn cynnig meddyginiaeth i chi i’ch helpu tra rydych yn aros am therapi.

Edrychwn ar ein tudalen am driniaethau ar gyfer PTSD i gael mwy o wybodaeth.

Hunanofal ar gyfer PTSD ôl-enedigol

Gall byw gydag effeithiau genedigaeth drawmatig fod yn brofiad anodd iawn, ond mae ychydig o bethau y gallwch eu gwneud i helpu eich hun:

Dod i wybod beth yw’r ffactorau sy’n sbarduno’r teimladau

Efallai y byddwch yn gweld bod rhai profiadau, sefyllfaoedd neu bobl yn sbarduno ôl-fflachiadau neu symptomau eraill. Gallai’r rhain gynnwys pethau penodol sy’n eich atgoffa am drawma yn y gorffennol, fel arogleuon, synau, geiriau, lleoedd neu fathau arbennig o lyfrau neu ffilmiau.

Mae rhai pobl yn cael pethau’n arbennig o anodd ar ddyddiadau arwyddocaol, er enghraifft dyddiad profiad trawmatig, fel pen-blwydd plentyn.

Ymddiried yn rhywun

Os ydych yn profi PTSD ôl-enedigol, efallai y byddwch yn teimlo ei bod yn anodd i chi rannu pethau gyda phobl eraill. Gallai hyn fod oherwydd eich bod yn teimlo eich bod yn methu â siarad am y pethau sydd wedi digwydd i chi. Ond does dim angen i chi allu disgrifio’r trawma er mwyn dweud wrth rywun sut rydych yn teimlo ar hyn o bryd.

Gallai siarad gyda ffrind neu aelod o’r teulu helpu. Neu efallai y byddech yn hoffi siarad gyda gweithiwr proffesiynol, er enghraifft meddyg teulu neu wrandäwr hyfforddedig ar linell gymorth. Edrychwch ar ein tudalennau am linellau cymorth a gwasanaethau gwrando i gael mwy o wybodaeth. 

Rhoi amser i chi eich hun

Mae pawb yn ymateb i drawma yn ei ffordd ei hun, ac mae’n bwysig cymryd pethau ar gyflymder sy’n addas i chi. Er enghraifft, efallai nad oes diben i chi siarad am eich profiadau nes byddwch yn teimlo eich bod yn barod.

Ceisiwch fod yn amyneddgar gyda chi eich hun. Peidiwch â barnu eich hun am fod eisiau amser a chefnogaeth i wella o PTSD ôl-enedigol.

Trio cefnogaeth gan gymheiriaid

Mae cefnogaeth gan gymheiriaid yn dod â phobl sydd â phrofiadau tebyg at ei gilydd, i rannu a gwrando ar brofiadau ei gilydd. Mae hyn yn cynnwys cyfarfod wyneb yn wyneb mewn grŵp cefnogaeth gan gymheiriaid lleol, neu ymuno â chymuned ar-lein fel Elefriends Mind.

Edrychwch ar ein tudalennau am gefnogaeth gan gymheiriaid er mwyn cael mwy o wybodaeth.

Dod o hyd i gymorth arbenigol

Mae rhai sefydliadau’n arbenigo mewn cyngor a chefnogaeth ar gyfer PTSD ôl-enedigol, er enghraifft y Gymdeithas Trawma Genedigaeth.

Edrychwch ar ein tudalen cysylltiadau defnyddiol i gael manylion am fwy o sefydliadau a allai helpu. 

Gofalu am eich iechyd corfforol

Gall ymdopi â PTSD ôl-enedigol fod yn flinedig iawn. Efallai y byddwch yn teimlo nad oes gennych chi ddim egni i ofalu amdanoch eich hun. Ond os yw’n bosibl, gall gofalu am eich iechyd corfforol wneud gwahaniaeth i’r ffordd rydych yn teimlo o safbwynt emosiynol. Er enghraifft, gall treulio amser yn yr awyr agored, cadw llygad ar eich deiet, a gwneud ychydig o ymarfer corff helpu.

I gael mwy o syniadau, edrychwch ar ein tudalen am ffyrdd o ofalu am eich iechyd meddwl pan fyddwch yn dod yn rhiant.

Diweddarwyd y wybodaeth hon ddiwethaf yn Ebrill 2020. Byddwn yn ei diwygio yn 2023.

Mae cyfeirnodau ar gael. Os dymunwch atgynhyrchu'r wybodaeth hon, ewch i'n tudalen ar ganiatâd a thrwydded.

Rhannwch y wybodaeth hon

arrow_upwardYn ôl i'r brig