Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Iselder ôl-enedigol ac iechyd meddwl amenedigol

Yn egluro iselder ôl-enedigol a phroblemau iechyd meddwl amenedigol eraill, gan gynnwys achosion posibl, triniaethau ac opsiynau ar gyfer cefnogaeth. Hefyd yn cynnwys gwybodaeth i ffrindiau a theulu, gan gynnwys cefnogaeth a chyngor i bartneriaid.

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Saesneg.

All partneriaid gael problemau iechyd meddwl amenedigol?

Yr unig adeg y gall meddygon roi diagnosis ffurfiol o broblem iechyd meddwl amenedigol i chi yw os ydych yn disgwyl babi, neu os ydych wedi geni plentyn yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Ond os yw eich partner yn disgwyl babi, neu wedi geni babi yn ddiweddar, gallech chi hefyd gael problemau iechyd meddwl yn ystod y cyfnod hwn. Er enghraifft, mae rhai astudiaethau’n dangos y gall partneriaid gael iselder neu orbryder tua’r adeg y mae eu plentyn yn cael ei eni.

Os ydych chi’n meddwl bod gennych broblem iechyd meddwl, mae help a chefnogaeth ar gael. 

Mae’r dudalen hon yn trafod:

"Yn gyffredinol, roedd o’n gyfnod dychrynllyd yn ein bywydau, am tua 18 mis i gyd o’r adeg y gwnaethon ni sylwi ei bod hi’n disgwyl babi i’r adeg pan ddaethon ni drwyddi yr ochr arall, ac mi wnaeth o roi pwysau mawr ar ein perthynas. O edrych yn ôl, dydw i ddim yn siŵr sut y gwnaethon ni lwyddo i ddod drwy’r cyfan."

Pam y byddai partneriaid yn cael problemau iechyd meddwl?

Mae llawer o resymau pam y gallech gael problemau iechyd meddwl tra mae eich partner yn disgwyl babi neu ar ôl iddi eni’r babi.

Ond mae’r problemau hyn yn fwy tebygol os ydych yn yr amgylchiadau isod:

  • heb rwydweithiau cefnogi da
  • yn cael anhawster â digwyddiadau bywyd eraill sy’n llawn straen, fel symud tŷ, colli gwaith neu brofedigaeth
  • amodau byw gwael neu’n byw mewn tlodi
  • wedi cael eich cam-drin yn ystod plentyndod.

Efallai hefyd eich bod yn ymdopi â’r canlynol:

  • cyfrifoldebau ychwanegol o gwmpas y tŷ
  • pwysau ariannol
  • newid yn y berthynas gyda’ch partner
  • colli cwsg
  • gofalu am nifer o blant.

Efallai y bydd eich partner hefyd yn cael problemau iechyd meddwl tra mae’n disgwyl babi neu ar ôl geni’r babi. Gall hyn olygu ei bod hyd yn oed yn anoddach i chi ymdopi ag anawsterau arferol dod yn rhiant.

male and female with a toddler

Iselder fel tad newydd

"Prin bod wythnos o’m siwrnai fel tad wedi mynd ac ro’n i ar feddyginiaeth yn barod ac yn methu mynd i’r gwaith."

Arwyddion a symptomau problemau iechyd meddwl

Mae pawb yn ymateb i fod yn rhiant mewn ffyrdd gwahanol. Ond mae rhai arwyddion cyffredin sy’n dangos y gallech fod â phroblem iechyd meddwl. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • ofn, dryswch, teimlo’n ddiymadferth, ac ansicrwydd ynglŷn â’r dyfodol
  • euogrwydd, er enghraifft gan nad chi oedd yr un wnaeth orfod geni’r plentyn
  • encilio oddi wrth fywyd teuluol, gwaith a sefyllfaoedd cymdeithasol
  • methu gwneud penderfyniadau pendant
  • rhwystredigaeth, natur flin, siniciaeth a dicter
  • agwedd elyniaethus neu ddi-hid at eich partner
  • agwedd elyniaethus neu ddi-hid at eich babi
  • defnyddio mwy o alcohol neu gyffuriau hamdden nag arfer
  • methu cysgu, hyd yn oed pan fyddwch yn cael cyfle i gysgu
  • symptomau corfforol fel diffyg traul, newidiadau mewn chwant am fwyd ac yn eich pwysau, dolur rhydd, bod yn rhwym, cur pen, dannoedd a chyfog.

Os ydych yn meddwl bod gennych broblemau iechyd meddwl, mae’n bosibl rheoli’r teimladau hyn â’r gefnogaeth iawn.

Cefnogaeth i bartneriaid 

Gallwch gael cefnogaeth ar gyfer eich iechyd meddwl mewn ffyrdd amrywiol:

Siarad gyda’ch meddyg am eich iechyd meddwl

Gallwch siarad gyda’ch meddyg unrhyw bryd y byddwch yn cael problemau iechyd meddwl. Mae hyn yn cynnwys yn ystod y cyfnod y mae eich partner yn disgwyl babi neu ar ôl i’ch plentyn gael ei eni.

Gall eich meddyg eich cyfeirio at eich gwasanaethau cefnogi lleol neu therapïau siarad. Gall hefyd roi meddyginiaeth i chi ar gyfer eich iechyd meddwl. 

Cysylltu â sefydliad arbenigol

Mae nifer o sefydliadau sy’n arbenigo mewn helpu a chefnogi partneriaid yn ystod y cyfnod hwn:

  • Mae PANDAS Dads yn cynnig gwybodaeth i ddynion sy’n cael iselder ôl-enedigol.
  • Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol Geni Plant yn cynnig gwybodaeth, cefnogaeth a digwyddiadau i gefnogi rhieni newydd yn eu hardal leol.
  • Mae’r Gymdeithas Trawma Genedigaeth yn cynnig gwybodaeth a chefnogaeth i bartneriaid rhywun sydd wedi cael genedigaeth anodd.
  • Mae’r Sefydliad Tadolaeth yn gweithio ar bolisi ac ymchwil i gefnogi tadau.
  • Mae Postpartum Men yn cynnig cefnogaeth a gwybodaeth i dadau sy’n cael iselder ôl-enedigol, gan gynnwys fforwm cefnogaeth gan gymheiriaid ar-lein.
  • Mae Pink Parents yn cynnig cefnogaeth i rieni hoyw a lesbiaidd.

Edrychwch ar ein tudalen cysylltiadau defnyddiol i weld manylion sefydliadau eraill a allai helpu. 

Hunanofal

Mae gwahanol ffyrdd o ofalu am eich iechyd meddwl eich hun os ydych yn teimlo eich bod yn cael anhawster. Edrychwch ar ein tudalen am ffyrdd o ofalu am eich iechyd meddwl pan fyddwch yn dod yn rhiant i gael syniadau a allai helpu.

Mae gennym hefyd dudalennau am y mathau o broblemau iechyd meddwl y gallech eu cael. Mae’r tudalennau hyn yn cynnwys awgrymiadau hunanofal penodol ac opsiynau ar gyfer triniaeth a chefnogaeth.

Diweddarwyd y wybodaeth hon ddiwethaf yn Ebrill 2020. Byddwn yn ei diwygio yn 2023.

Mae cyfeirnodau ar gael. Os dymunwch atgynhyrchu'r wybodaeth hon, ewch i'n tudalen ar ganiatâd a thrwydded.

Rhannwch y wybodaeth hon

arrow_upwardYn ôl i'r brig