Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Iselder ôl-enedigol ac iechyd meddwl amenedigol

Yn egluro iselder ôl-enedigol a phroblemau iechyd meddwl amenedigol eraill, gan gynnwys achosion posibl, triniaethau ac opsiynau ar gyfer cefnogaeth. Hefyd yn cynnwys gwybodaeth i ffrindiau a theulu, gan gynnwys cefnogaeth a chyngor i bartneriaid.

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Saesneg.

Beth sy’n achosi problemau iechyd amenedigol?

Gallech ddatblygu problem iechyd meddwl am nifer o resymau. Does neb yn gwybod pam yn union y mae problemau iechyd meddwl yn digwydd. Mae hyn yn cynnwys problemau iechyd meddwl rydych yn eu datblygu tra rydych yn feichiog neu ar ôl geni plentyn, sef problemau iechyd meddwl ‘amenedigol’.

Mae achosion cliriach dros rai problemau iechyd meddwl amenedigol. Er enghraifft, gall profiadau anodd wrth eni babi achosi PTSD ôl-enedigol.

Ond i lawer o bobl, mae problem iechyd meddwl amenedigol yn cael ei hachosi gan gyfuniad o ffactorau.

Gallai’r ffactorau hyn gynnwys:

Mae gennym hefyd wybodaeth am effaith colli plentyn ar eich iechyd meddwl. 

Profiad blaenorol o broblemau iechyd meddwl

Bydd eich profiad o iechyd meddwl yn bersonol i chi, ynghyd â’ch profiad o fod yn feichiog a chael plentyn.

Ond os ydych wedi cael problemau iechyd meddwl yn y gorffennol, gall bod yn feichiog neu gael babi gynyddu’r risg y bydd y problemau hynny’n digwydd eto. Mae hyn yn cynnwys unrhyw broblemau iechyd meddwl amenedigol blaenorol.

Mae’n bwysig deall beth allai sbarduno cyfnod arall o broblem flaenorol, a pha gefnogaeth y gallech fod ei hangen yn ystod y cyfnod hwn. Gallwch siarad gyda’ch meddyg am hyn.

Edrychwch ar ein tudalen am fathau o broblemau iechyd meddwl i gael mwy o wybodaeth am unrhyw broblemau penodol rydych wedi eu cael.

Achosion biolegol

Mae rhai pobl yn meddwl ei bod yn debygol bod gan broblemau iechyd meddwl amenedigol achos biolegol. Mae hyn yn cynnwys newidiadau yn eich corff yn ystod ac ar ôl beichiogrwydd, er enghraifft newidiadau i’ch hormonau.

Mae rhai astudiaethau’n dangos y gall newidiadau i’ch hormonau yn ystod beichiogrwydd ac ar ôl geni plentyn achosi gwahaniaethau yn eich hwyliau. Ond nid yw pawb sy’n disgwyl babi ac yn profi’r newidiadau hyn yn mynd ymlaen i ddatblygu problem iechyd meddwl amenedigol. Felly nid yw’n debygol mai newidiadau i’ch hormonau yw’r unig achos os ydych yn datblygu problem.

Diffyg cefnogaeth

Mae cael babi yn ddigwyddiad bywyd mawr a gall olygu llawer o straen. Gall fod yn flinedig iawn ac yn brofiad llethol. Os nad oes gennych bobl o gwmpas i’ch helpu, fel partner neu aelodau o’r teulu, gall hyn effeithio ar eich gallu i ymdopi. Gall olygu eich bod yn fwy tebygol o ddatblygu problem iechyd meddwl yn ystod y cyfnod hwn. 

Mae’r elusen Gingerbread yn darparu cyngor a chefnogaeth ymarferol i deuluoedd un rhiant. Ac mae ein tudalen o gysylltiadau defnyddiol yn cynnwys manylion sefydliadau eraill a all eich helpu i gael cefnogaeth.

Profiadau anodd yn ystod plentyndod

Mae rhai ohonom yn cael profiadau anodd yn ystod ein plentyndod, er enghraifft:

  • cam-drin corfforol, rhywiol neu emosiynol
  • esgeuluso
  • colli rhywun sy’n agos atoch
  • digwyddiadau trawmatig
  • sefyllfa deuluol ansefydlog.

Mae ambell waith ymchwil yn dangos y gallai’r profiadau hyn eich gwneud yn fwy agored i broblemau iechyd meddwl yn ddiweddarach yn eich oes.

Gall y profiadau hyn gael effaith fawr ar y ffordd rydych yn teimlo ynglŷn â dod yn rhiant. Er enghraifft, os cawsoch eich cam-drin pan oeddech yn ifanc, efallai eich bod yn cael anhawster nawr i gysylltu â phobl eraill. Gallai hyn gynnwys anhawster i gysylltu â’ch babi.

Os nad oedd gan eich rhieni sgiliau magu plant da, efallai y byddwch yn ei chael hi’n anodd i addasu i’ch rôl newydd fel rhiant. Er enghraifft, efallai na fyddwch yn siŵr sut i ddehongli anghenion eich babi. Efallai y byddwch hyd yn oed yn ofni y byddwch yn niweidio eich babi rywsut, gan nad ydych yn siŵr sut i ofalu amdano.

Mae NAPAC yn cefnogi unrhyw un sydd wedi cael ei gam-drin yn ystod plentyndod, gan gynnwys cam-drin yn rhywiol, yn gorfforol neu’n emosiynol, ac esgeuluso.

"Mae gen i PTSD o ganlyniad i drawma yn ystod plentyndod... Mi wnes i weithio mor galed i frwydro yn erbyn fy ngorbryder a derbyn fy mhrofiadau, a sylweddoli bod y rhain yn wahanol iawn i’r amgylchiadau y byddwn i’n magu fy merch i ynddyn nhw."

Profiad o gam-drin

Gall profiad o gam-drin weithiau achosi:

Felly os ydych wedi cael profiad o gael eich cam-drin, efallai y byddwch yn fwy tebygol o ddatblygu problemau iechyd meddwl amenedigol.

Mae gwahanol fathau o gam-drin yn cynnwys:

  • trais domestig
  • cam-drin geiriol
  • cam-drin emosiynol
  • ymosodiad rhywiol a thrais rhywiol
  • ymosodiad treisgar
  • cam-drin ariannol – er enghraifft, os bydd partner yn ceisio cael pŵer drosoch chi drwy eich atal rhag cael rheolaeth dros eich arian eich hun.

Edrychwch ar ein tudalennau am gam-drin i weld manylion am sefydliadau sy’n cefnogi pobl sydd â phrofiad o gael eu cam-drin. 

Hunan-dyb isel

Os yw eich hunan-dyb yn isel, efallai y byddwch yn amau eich gallu i ymdopi fel rhiant. Er enghraifft, pan fydd eich babi’n crio efallai y byddwch yn meddwl ei fod yn crio oherwydd eich bod chi wedi gwneud rhywbeth o’i le, neu oherwydd rhywbeth pwysig dydych chi ddim wedi ei wneud.

Gall y ffordd rydych yn meddwl amdanoch eich hun achosi risg o ddatblygu problemau iechyd meddwl amenedigol fel iselder a gorbryder.

Edrychwch ar ein tudalennau am hunan-dyb i gael mwy o wybodaeth, gan gynnwys ffyrdd o wella eich hunan-dyb. Gall rhai o’r awgrymiadau hyn deimlo’n anodd pan fyddwch yn disgwyl babi, neu os oes gennych fabi newydd, ond gall hyd yn oed newidiadau bach wneud gwahaniaeth mawr i’r ffordd rydych yn teimlo.

"Ro’n i’n flin, trist, afresymol, difater ynglŷn â fy ngŵr... ro’n i’n dweud celwydd ac yn dweud bod pethau’n well nag oedden nhw go iawn achos bod gen i ofn y byddai pobl yn chwerthin ar fy mhen i ac yn meddwl mod i’n fam wael."

Amodau byw sy’n llawn straen

Gall fod yn anodd i unrhyw un ddelio gydag amodau byw sy’n llawn straen. Os ydych yn disgwyl babi, neu os ydych wedi cael babi yn ddiweddar, gall hyn deimlo’n anoddach fyth. Gall yr amodau hyn eich gwneud yn fwy tebygol o ddatblygu problem iechyd meddwl amenedigol.

Er enghraifft, efallai eich bod yn cael anhawster â:

  • phroblemau ariannol
  • tŷ o ansawdd gwael, neu ansicrwydd ynglŷn â’ch cartref
  • ansicrwydd ynglŷn â’ch gwaith.

Gall y problemau hyn fod hyd yn oed yn anoddach os ydych yn byw ar eich pen eich hun, heb lawer o gefnogaeth gan bobl eraill.

Gallai byw gyda’r amodau hyn wneud i chi boeni nad ydych yn gallu sicrhau bod eich babi’n cael popeth y mae arno ei angen. Neu gallech fod yn teimlo eich bod yn gwneud cam â’ch babi.

Mae gennym wybodaeth am dai ac iechyd meddwl, ac arian ac iechyd meddwl, a allai fod o gymorth i chi.

"Roedd genedigaeth fy mabi cyntaf yn anodd, a digwyddodd llawer o newidiadau mawr yn fy mywyd, ond rwy’n gallu gweld nawr eu bod nhw i gyd wedi cyfrannu tuag at fy iselder."

Digwyddiadau mawr bywyd

Gall delio gyda digwyddiadau mawr bywyd fod yn anodd, a gall achosi mwy o straen yn eich bywyd.

Enghreifftiau o ddigwyddiadau mawr bywyd yw:

  • salwch neu farwolaeth yn y teulu
  • perthynas yn chwalu
  • symud tŷ
  • colli eich swydd.

Os byddwch yn profi unrhyw un o’r digwyddiadau hyn tra rydych yn disgwyl babi, neu ar ôl i chi gael babi, gallech fod yn fwy tebygol o ddatblygu problem iechyd meddwl amenedigol.

Mae cael babi hefyd yn ddigwyddiad bywyd mawr ynddo’i hun, ac mae’n debygol o olygu llawer o newidiadau yn eich bywyd. Gall achosi i chi adael eich swydd a cholli eich annibyniaeth ariannol.

Neu efallai y bydd angen i chi roi’r gorau i weithgareddau cymdeithasol, ac y bydd hi’n anodd i chi dreulio amser gyda ffrindiau. Mae bod yn gyfrifol am fabi yn golygu bod eich diwrnod yn debygol o droi o amgylch anghenion eich plentyn yn hytrach na’ch anghenion chi.

Gallai’r newidiadau hyn i’ch bywyd olygu eich bod yn fwy tebygol o ddatblygu problem iechyd meddwl.

Colli plentyn ac iechyd meddwl

Gall colli plentyn fod yn brofiad trawmatig iawn a gall gael effaith fawr ar eich iechyd meddwl. Mae hyn yn cynnwys colli babi cyn ei eni, geni plentyn marw-anedig neu syndrom marwolaeth sydyn babanod (SIDS).

Mae’n bwysig cofio nad oes rhaid i chi ymdopi ar eich pen eich hun, a bod cefnogaeth ar gael. Gallwch gael mwy o wybodaeth am golli plentyn gan y sefydliadau hyn:

Neu edrychwch ar ein tudalen am brofedigaeth i ddod o hyd i gefnogaeth i’ch helpu i ymdopi â’ch colled.

Diweddarwyd y wybodaeth hon ddiwethaf yn Ebrill 2020. Byddwn yn ei diwygio yn 2023.

Mae cyfeirnodau ar gael. Os dymunwch atgynhyrchu'r wybodaeth hon, ewch i'n tudalen ar ganiatâd a thrwydded.

Rhannwch y wybodaeth hon

arrow_upwardYn ôl i'r brig