Mae'r wybodaeth hon i unrhyw un sy'n gweithio yn yr heddlu, p'un a ydych chi'n rheoli tîm, yn helpu pobl drwy ymateb i alwadau, yn gweithio gartref neu mewn swyddfa, neu'n swyddog yr heddlu mewn lifrai.
20 munud i'w ddarllen
View this information as a PDF (new window)
Ar y dudalen hon:
Rydyn ni'n gwybod nad yw'r pandemig drosodd. Ond mae rhannau o gymdeithas yn dechrau dychwelyd i fel ag yr oedden nhw.
Fel ymatebwr yn yr heddlu, efallai y byddwch chi wedi sylwi nad yw rhai pethau yn y gwaith, neu gartref, wedi dychwelyd fel ag yr oedden nhw. Efallai bod rheolau newydd i'w dilyn yn ystod eich sifft, neu fwy o alwadau i ymateb iddyn nhw na chyn y pandemig. Efallai eich bod chi'n teimlo'n wahanol am eich rôl o gymharu ag o'r blaen. Ac mae'n bosibl na fyddwch chi am i rai pethau ddychwelyd fel ag yr oedden nhw o'r blaen.
Gallai'r wybodaeth hon eich helpu i wneud synnwyr o'r hyn rydych chi wedi'i weld ac wedi'i brofi yn ystod y coronafeirws (COVID-19). Ni ddylech chi ei defnyddio yn lle triniaeth a chymorth iechyd meddwl. Ond gall awgrymu dulliau i'ch helpu i ddeall sut rydych chi'n teimlo, a rhoi cyngor ar sut i ymdopi â'r teimladau hyn.
Rydyn ni'n profi llawer o wahanol deimladau bob dydd. Gall teimladau helpu i ddangos sut i ymateb i'r sefyllfaoedd sy'n ein hwynebu. Ond yn aml, dydyn ni ddim yn gallu rhoi enw i bob teimlad rydyn ni'n ei gael, pan fyddwn ni'n ei gael.
Yn ystod y pandemig, efallai y byddwch chi wedi delio â llawer o bethau anodd, ac na fyddwch chi wedi cael amser i feddwl amdanyn nhw'n iawn. Efallai eich bod chi'n cael teimladau nawr, o ganlyniad i rywbeth a ddigwyddodd beth amser yn ôl. Ac fel aelod o'r heddlu, efallai eich bod chi'n teimlo bod disgwyl i chi anghofio am eich teimladau, neu nad ydych chi'n cael eich annog i siarad am sut rydych chi'n teimlo.
Gallai nodi rhai o'r teimladau rydych chi'n eu cael nawr eich helpu chi i ddeall beth allai fod wedi'u hachosi. Ac unwaith y byddwch chi'n gwybod beth wnaeth eu hachosi, efallai y byddwch chi'n teimlo'n fwy parod i ddelio â'r teimladau hyn.
“Yn y math yma o waith, rydyn ni'n gweld pethau sydd mor annaturiol ac rydyn ni'n normaleiddio hynny, fel petai hyn yn rhywbeth nad yw'n ein poeni ni.” –Rhiannon, heddluoedd Cymru
Gallai cydnabod sut rydych chi'n teimlo eich helpu i ddeall pam y gwnaethoch chi ymateb yn y fath fodd i rai sefyllfaoedd penodol yn y gorffennol. Er enghraifft, efallai eich bod chi wedi ei chael hi'n anodd cysgu ryw noson, ond na wnaethoch chi gysylltu hynny â'r galwadau anodd y gwnaethoch chi ymateb iddyn nhw y diwrnod hwnnw. Efallai eich bod chi wedi cweryla â rhywun sy'n bwysig i chi, heb wybod yn union pam.
Gallai rhoi eich teimladau mewn geiriau eich helpu chi i ddeall yr emosiynau rydych chi'n eu cael. Gallwch chi wneud hyn mewn sawl ffordd, a bydd pawb yn wahanol. Dyma rai awgrymiadau:
Isod rydyn ni wedi nodi rhai o'r pethau y mae aelodau'r heddlu wedi dweud wrthyn ni eu bod wedi bod yn eu teimlo drwy gydol y pandemig. Efallai eich bod chi'n profi rhai ohonyn nhw, ac efallai hefyd eich bod chi'n profi teimladau nad ydyn nhw wedi'u rhestru yma.
Pan fyddwn ni'n dweud pethau fel "mae hwn yn achosi straen" neu "dwi'n teimlo straen", mae'n bosibl ein bod ni'n golygu'r canlynol:
Os ydych chi'n profi straen, efallai y byddwch chi'n teimlo:
“Gall delio â phobl ofidus mor aml achosi straen, ac yn aml gall deimlo fel petaech chi'n cario pwysau problemau pawb arall.” - Cassie, ymchwilydd safle trosedd
Gorbryder yw'r hyn rydyn ni'n ei deimlo pan fyddwn ni'n poeni, ar bigau'r drain neu'n ofnus, yn benodol am bethau sydd ar fin digwydd, neu bethau rydyn ni'n meddwl a allai ddigwydd yn y dyfodol.
Gall gorbryder effeithio ar y canlynol:
Fel aelod o'r heddlu, efallai y byddwch chi'n datblygu gorwyliadwraeth. Gorwyliadwraeth yw'r teimlad o fod yn ymwybodol iawn o'r amgylchedd o'ch cwmpas. Gall hyn fod yn ddefnyddiol yn eich gwaith. Ond os bydd yn parhau pan fydd eich sifft ar ben, gall wneud i chi deimlo fel petaech chi bob amser yn chwilio am fygythiadau neu berygl posibl. Gall hyn ei gwneud yn anoddach ymlacio a chysgu a gall gyfrannu at deimladau o orbryder.
Mae anaf moesol yn disgrifio set o deimladau y gallech chi eu cael os bu'n rhaid i chi wneud pethau, neu weld pethau, sy'n mynd yn erbyn eich gwerthoedd a'ch credoau.
Yn ystod y pandemig, gallech chi fod wedi cael eich gorfodi i wneud penderfyniadau anodd. Er enghraifft, efallai y bu'n rhaid i chi orfodi rheolau coronafeirws penodol, fel gofyn i bobl beidio â chwrdd yn gyhoeddus, er bod hyn yn anodd. Ac os bydd aelodau o'r cyhoedd yn ymateb yn negyddol, neu heb gydymdeimlad tuag at yr hyn rydych chi'n ceisio ei wneud, bydd yn anoddach fyth.
Os byddwch chi'n profi anaf moesol, efallai y byddwch chi'n teimlo:
Pan fyddwch chi'n gofalu am bobl mewn amgylchiadau gofidus neu anodd yn gyson, gall eich blino'n lân yn gorfforol ac yn feddyliol. Gallwch chi ddod i deimlo nad ydych chi'n poeni am bobl cymaint ag o'r blaen. Caiff hyn ei alw weithiau'n syrffed ar ddangos trugaredd.
Gallai syrffed ar ddangos trugaredd wneud i chi deimlo:
Weithiau, caiff y broses o fynd drwy ddigwyddiadau llawn straen, digwyddiadau dychrynllyd neu ddigwyddiadau gofidus ei galw'n drawma. Mae pawb yn ymateb yn wahanol i drawma. Efallai y byddwch chi'n sylwi ar yr effeithiau'n gyflym. Neu efallai na fyddwch chi'n sylwi arnyn nhw am gyfnod hir wedyn.
Gallai digwyddiad trawmatig wneud i chi deimlo:
“Mae rôl bod yn swyddog yr heddlu wedi cael effaith barhaus ar fy llesiant meddyliol. Rydyn ni'n gweld pethau nad yw'r cyhoedd yn eu gweld.” – Tim, swyddog yr heddlu
Mae lludded a blinder meddyliol yn fwy na theimladau o fod wedi blino. Gall blinder meddyliol ddigwydd os byddwch chi o dan bwysau cyson o ganlyniad i'ch gwaith. Gall wneud i chi deimlo:
“Cyrhaeddais y gwaith ond doeddwn i ddim yn gallu cysylltu â'r hyn a oedd yn digwydd o'm cwmpas. Roeddwn i wedi bod fel tegell yn berwi ers misoedd, gyda sŵn sgrechian di-baid yn fy mhen – ac yna, yn sydyn, distawrwydd.”
Mae rhai pobl yn ei chael hi'n anodd nodi sut maen nhw'n teimlo, yn enwedig os byddan nhw wedi bod drwy brofiad trawmatig. Caiff hyn ei alw weithiau'n ddatgysylltiad.
Os byddwch chi'n datgysylltu, efallai y byddwch chi'n teimlo eich bod chi wedi datgysylltu wrthoch chi'ch hun a'r byd o'ch cwmpas. Er enghraifft, efallai y byddwch chi'n teimlo nad ydych chi'n rhan o'ch corff neu'n teimlo fel petai'r byd o'ch cwmpas yn afreal. Mae datgysylltu yn un ffordd i'r meddwl ymdopi â gormod o straen, fel yn ystod digwyddiad trawmatig.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael am ddatgysylltiad, gan gynnwys cyngor ar sut i ofalu amdanoch chi'ch hun pan fyddwch chi'n datgysylltu.
Unwaith y byddwch chi'n deall beth rydych chi'n ei deimlo, gallwch chi ddechrau meddwl beth allai fod wedi achosi rhai o'r teimladau hyn. Efallai y bydd hyn yn gwneud i chi deimlo'n fwy parod i ddelio â nhw.
Gallai rhai o'r pethau yn y rhestr hon fod yn cyfrannu at sut rydych chi'n teimlo nawr. Efallai y byddwch chi hefyd wedi cael profiadau nad ydyn nhw wedi'u cynnwys yma.
“Pan gyrhaeddodd COVID roedden ni i gyd yn meddwl y byddai'n diflannu'n gyflym. Yn amlwg, nid felly y bu. Gwnaeth llwythau gwaith, dulliau plismona a ffyrdd o ddelio â digwyddiadau i gyd newid.” – Tim, swyddog yr heddlu
Darllenwch ein gwybodaeth am brofedigaeth.
Mae gan Police Care UK fideo yn esbonio sut y gall digwyddiadau trawmatig effeithio arnoch chi, a thechnegau y gallech chi eu defnyddio os byddwch chi'n profi digwyddiad trawmatig.
“Nes i chi weithio yn yr heddlu eich hun, gall fod yn anodd iawn deall effaith yn llawn swydd sy'n delio â digwyddiadau bywyd sydd mor emosiynol.” – Angela, prif arolygydd
“Gan fod fy nyweddi mewn grŵp risg uchel, roedd rhaid i mi ynysu i ffwrdd wrthi i'w diogelu. Nid oedd y person a oedd wedi fy helpu i drwy hyn i gyd yn gallu bod yno mor aml a gwnaeth hyn yn bendant cael effaith arna i a fy iechyd meddwl.” – Tim, swyddog yr heddlu
“Pan ddechreuodd y pandemig, newidiodd pethau. Cafodd hyn effaith fawr ar fy iechyd meddwl – gwnaeth peidio â chael cysylltiad ag eraill effeithio arna i.” – Kiwi, swyddog yr heddlu
I lawer ohonon ni, roedd y pandemig yn golygu bod pethau roedden ni'n gobeithio y bydden nhw'n digwydd, neu'n edrych ymlaen atyn nhw, yn sydyn yn teimlo'n llai tebygol. Ac efallai y daeth y pethau roedden ni'n eu hofni i deimlo'n agosach at ddod yn wir. Er enghraifft:
Does dim rhaid i chi deimlo'n uchel eich cymhelliant drwy'r amser, ac mae llawer ohonon ni'n cael diwrnodau lle mae ein cymhelliant yn is yn y gwaith a gartref. Ond os ydych chi'n teimlo bod y coronafeirws wedi cipio rhywfaint o'r cariad a'r mwynhad a oedd gennych chi o'r blaen tuag at eich gwaith, efallai y bydd yr awgrymiadau hyn yn ddefnyddiol.
Darllenwch fwy o awgrymiadau ar ofalu amdanoch chi eich hun pan fyddwch chi'n mynd i'r gwaith yn ystod y coronafeirws.
“Mae cerddoriaeth yn rhan fawr o'm pecyn cymorth llesiant. Rwy'n gwrando ar gerddoriaeth yn aml ac rwy'n gwybod beth i'w roi ymlaen os bydda i'n teimlo hwyliau isel yn dod, yn dibynnu ar beth sydd wedi'u hachosi. Ac mae chwarae offeryn cerdd yn rhoi hwb i mi.” – Sally, comander bwrdeistref wedi ymddeol
Mae gan y GIG ragor o wybodaeth am sut i ddelio â newid ac ansicrwydd yn ystod y coronafeirws.
“Mae'n bwysig bod yn garedig i'ch hun a chofio y gall bywyd ddychwelyd i normal, ond peidiwch â rhoi pwysau arnoch chi eich hun na rhoi terfynau amser i wella.”
Darllenwch ragor o wybodaeth am sicrhau meddwl iach yn y gwaith, gan gynnwys awgrymiadau ar sut i ymdopi â straen.
“Rwy'n defnyddio ymarfer corff fel therapi ac yn mynd â'r ci am dro; mae'r ddau wedi achub fy mywyd. Mae gweithio yn y gwasanaethau brys yn creu digon o straen heb y pwysau ychwanegol o gadw popeth i chi eich hun.” – Georgie, swyddog yr heddlu
Mae'n anghyffredin iawn i unigolion deimlo'n gadarnhaol drwy'r amser, a bydd y rhan fwyaf ohonon ni'n cael cyfnodau o deimlo'n well neu'n waeth. Ond efallai bod gweithio yn ystod y pandemig wedi gwneud i chi deimlo'n waeth amdanoch chi'ch hun, am eich gwaith, neu am gymdeithas yn gyffredinol. Gallai'r pethau canlynol eich helpu i deimlo'n fwy cadarnhaol.
Dydyn ni ddim yn gwybod beth allai ddigwydd yn y dyfodol. Yn y gwaith, efallai bod rhai pethau yn dychwelyd i'r ffordd yr oedden nhw o'r blaen. Os oeddech chi'n gweithio gartref, efallai eich bod chi'n dychwelyd i'r swyddfa, ac yn gweld cydweithwyr eto. Os ydych chi'n gweithio allan ar alwadau, efallai eich bod yn treulio llai o amser yn gorfodi cyfyngiadau'r coronafeirws erbyn hyn.
Ac efallai bod rhai pethau'n teimlo'n wahanol o hyd. Efallai bod mesurau hylendid caeth ar waith o hyd. Efallai nad yw eich llwyth achosion wedi dychwelyd i'r lefelau cyn y pandemig.
Efallai y byddai'n ddefnyddiol i chi roi strategaethau ar waith i ymdopi â'r dyfodol, ac unrhyw deimladau o ansicrwydd neu bryder a allai fod gennych chi. Gallai'r pethau canlynol fod yn ddefnyddiol:
Efallai eich bod chi wedi profi llawer o newidiadau mawr i'ch bywyd yn ystod y pandemig. Efallai eich bod chi wedi colli anwyliaid, neu wedi colli allan ar ddigwyddiadau pwysig. A phan fydd y dyddiadau pwysig hyn yn codi eto, efallai y byddwch chi'n profi teimladau anodd.
Gall fod yn ddefnyddiol cymryd amser i feddwl am y digwyddiadau sydd wedi cael effaith fawr ar eich bywyd. Os ydych chi am wneud hynny, gallech chi gynllunio rhywbeth i nodi'r dyddiad hwnnw. Gallech chi gyfarfod â phobl eraill y bu effaith arnyn nhw hefyd. Neu, efallai y byddai hi'n well gennych chi dreulio amser yn meddwl ar eich pen eich hun. Efallai y bydd y tudalennau hyn yn ddefnyddiol i chi:
Gofynnwch i'ch goruchwyliwr, rheolwr llinell neu gydweithwyr a allwch chi gael gafael ar gymorth arbenigol, fel:
Os ydych chi'n gadét yr heddlu, efallai y bydd cymorth ychwanegol ar gael i chi drwy ddarparwr eich cwrs. Mae ein hwb iechyd meddwl i fyfyrwyr yn cynnwys mwy o awgrymiadau ac adnoddau i unrhyw un sy'n astudio.
Rydyn ni'n gwybod y gall fod yn anodd gofyn am help yn y gwaith, yn enwedig gan eich bod yn treulio cymaint o amser yn helpu eraill. Gall deimlo bod stigma yn yr heddlu, lle rydych chi'n teimlo bod yn rhaid i chi fod yn ddewr ac na ddylech chi gyfaddef eich bod yn ei chael hi'n anodd.
Mae bob amser yn iawn gofyn am help. Gall gofyn am help olygu eich bod chi'n cael y cymorth sydd ei angen arnoch chi i deimlo'n well. Ac os nad ydych chi'n teimlo'n gyfforddus yn siarad â rhywun yn y gwaith, mae yna sefydliadau a allai helpu.
Os ydych chi'n rheolwr llinell, meddyliwch sut allech chi annog aelodau eich tîm i ddod atoch chi os oes angen siarad arnyn nhw. Gallai fod yn ddefnyddiol i chi ddarllen ein hadnoddau ar ofalu am eich staff. Mae'n cynnwys gwybodaeth am sut i helpu aelodau eich tîm, a sut i greu gweithle sy'n annog meddwl iach.
“Roedden i wir yn mwynhau fy swydd a dyna oedd yn rhwystredig; Allwn i ddim dweud wrth neb oherwydd y stigma yn y gwaith. I lawer o bobl, os oes gennych chi iselder, gorbryder neu straen yna rydych chi'n wan, rydych chi'n “nodyn salwch”.”
Pan fyddwch chi'n ei chael hi'n anodd ymdopi ac nad yw hunanofal yn ddigon, gall cymorth gan weithiwr proffesiynol wneud gwahaniaeth. Gallai hyn gynnwys:
“Y peth mwyaf dewr y gallwch chi ei wneud yw gofyn am help a bydd yn gwella. Mae'n gam mawr ond yn un pwysig iawn i'w gymryd i helpu eich hun.” – Angela, prif arolygydd
“Peidiwch â gadael i unrhyw stigma, neu feddyliau am fod yn wan neu'n hunanol eich rhwystro rhag cael cymorth. Does dim ots pwy ydych chi na pha mor gryf yw eich cymeriad – gall hyn ddigwydd i unrhyw un unrhyw bryd.” – Stuart, rhingyll yr heddlu
Cyhoeddwyd y wybodaeth hon fis Hydref 2021. Byddwn yn ei diwygio yn 2022.
References are available on request. If you would like to reproduce any of this information, see our page on permissions and licensing.