Mae'r wybodaeth hon ar gyfer unrhyw un yn y gwasanaeth chwilio ac achub, p'un a ydych mewn rôl wirfoddol, mewn swydd â thâl, yn rheoli tîm, neu'n helpu pobl drwy ymateb i alwadau.
20 munud i'w ddarllen
Ar y dudalen hon:
Rydyn ni'n gwybod nad yw'r pandemig drosodd. Ond mae rhannau o gymdeithas yn dechrau dychwelyd i fel ag yr oedden nhw.
Fel ymatebwr yn y gwasanaeth chwilio ac achub, efallai y byddwch chi wedi sylwi nad yw rhai pethau yn y gwaith, neu gartref, wedi dychwelyd fel ag yr oedden nhw. Efallai bod rheolau newydd i'w dilyn yn ystod eich sifft, neu fwy o alwadau i ymateb iddyn nhw na chyn y pandemig. Efallai eich bod chi'n teimlo'n wahanol am eich rôl o gymharu ag o'r blaen. Ac mae'n bosibl na fyddwch chi am i rai pethau ddychwelyd fel ag yr oedden nhw o'r blaen.
Gallai'r wybodaeth hon eich helpu i wneud synnwyr o'r hyn rydych chi wedi'i weld ac wedi'i brofi yn ystod y coronafeirws (COVID-19). Ni ddylech chi ei defnyddio yn lle triniaeth a chymorth iechyd meddwl. Ond gall awgrymu dulliau i'ch helpu i ddeall sut rydych chi'n teimlo, a rhoi cyngor ar sut i ymdopi â'r teimladau hyn.
Rydyn ni'n profi llawer o wahanol deimladau bob dydd. Gall teimladau helpu i ddangos sut i ymateb i'r sefyllfaoedd sy'n ein hwynebu. Ond yn aml, dydyn ni ddim yn gallu rhoi enw i bob teimlad rydyn ni'n ei gael, pan fyddwn ni'n ei gael.
Yn ystod y pandemig, efallai y byddwch chi wedi delio â llawer o bethau anodd, ac na fyddwch chi wedi cael amser i feddwl amdanyn nhw'n iawn. Efallai eich bod chi'n cael teimladau nawr, o ganlyniad i rywbeth a ddigwyddodd beth amser yn ôl.
Gallai nodi rhai o'r teimladau rydych chi'n eu cael nawr eich helpu chi i ddeall beth allai fod wedi'u hachosi. Ac unwaith y byddwch chi'n gwybod beth wnaeth eu hachosi, efallai y byddwch chi'n teimlo'n fwy parod i ddelio â'r teimladau hyn.
“Rydyn ni'n gweld pobl ar eu gwaethaf drwy natur ein gweithgarwch. Yna, beth fyddwn ni'n ei wneud ar ôl chwe awr o chwilio – yn oer, yn wlyb ac yn teimlo'n llwglyd? Rydyn ni'n neidio mewn i'n ceir ac yn mynd adref.” – Steve, gwirfoddolwr yn y gwasanaeth chwilio ac achub
Gallai cydnabod sut rydych chi'n teimlo eich helpu i ddeall pam y gwnaethoch chi ymateb yn y fath fodd i rai sefyllfaoedd penodol yn y gorffennol. Er enghraifft, efallai eich bod chi wedi ei chael hi'n anodd cysgu ryw noson, ond na wnaethoch chi gysylltu hynny â'r galwadau anodd y gwnaethoch chi ymateb iddyn nhw y diwrnod hwnnw. Efallai eich bod chi wedi cweryla â rhywun sy'n bwysig i chi, heb wybod yn union pam.
Gallai rhoi eich teimladau mewn geiriau eich helpu chi i ddeall yr emosiynau rydych chi'n eu cael. Gallwch chi wneud hyn mewn sawl ffordd, a bydd pawb yn wahanol. Dyma rai awgrymiadau:
Isod rydyn ni wedi nodi rhai o'r pethau y mae aelodau'r gwasanaeth chwilio ac achub wedi dweud wrthyn ni eu bod wedi bod yn eu teimlo drwy gydol y pandemig. Efallai eich bod chi'n profi rhai ohonyn nhw, ac efallai hefyd eich bod chi'n profi teimladau nad ydyn nhw wedi'u rhestru yma.
Pan fyddwn ni'n dweud pethau fel "mae hwn yn achosi straen" neu "dwi'n teimlo straen", mae'n bosibl ein bod ni'n siarad am y canlynol:
Os ydych chi'n profi straen, efallai y byddwch chi'n teimlo:
“Rwyf wedi cael rhywfaint o straen a nosweithiau di-gwsg oherwydd digwyddiadau rwyf wedi gweithio ynddynt, ac rwy'n adnabod aelodau eraill o staff sydd wedi cael problem iechyd meddwl.” – Simon, gwirfoddolwr yn y gwasanaeth chwilio ac achub
Gorbryder yw'r hyn rydyn ni'n ei deimlo pan fyddwn ni'n poeni, ar bigau'r drain neu'n ofnus, yn benodol am bethau sydd ar fin digwydd, neu bethau rydyn ni'n meddwl a allai ddigwydd yn y dyfodol.
Gall gorbryder effeithio ar y canlynol:
Mae anaf moesol yn disgrifio set o deimladau y gallech chi eu cael os bu'n rhaid i chi wneud pethau, neu weld pethau, sy'n mynd yn erbyn eich gwerthoedd a'ch credoau. Yn ystod y pandemig, gallech chi fod wedi cael eich gorfodi i wneud penderfyniadau anodd wrth weithio neu wirfoddoli. Er enghraifft, gallech chi fod wedi gorfod blaenoriaethu gofalu am un person, gan wybod bod yna eraill yr oedd angen eich help arnyn nhw hefyd. Gallai hyn achosi gwrthdaro i chi, neu wneud i chi deimlo y gallech chi fod wedi gwneud mwy.
Os byddwch chi'n profi anaf moesol, efallai y byddwch chi'n teimlo:
Pan fyddwch chi'n gofalu am bobl mewn amgylchiadau gofidus neu anodd yn gyson, gall eich blino'n lân yn gorfforol ac yn feddyliol. Gallwch chi ddod i deimlo nad ydych chi'n poeni am bobl cymaint ag o'r blaen. Caiff hyn ei alw weithiau'n syrffed ar ddangos trugaredd.
Gallai syrffed ar ddangos trugaredd wneud i chi deimlo:
Weithiau, caiff y broses o fynd drwy ddigwyddiadau llawn straen, digwyddiadau dychrynllyd neu ddigwyddiadau gofidus ei galw'n drawma. Mae pawb yn ymateb yn wahanol i drawma. Efallai y byddwch chi'n sylwi ar yr effeithiau'n gyflym. Neu efallai na fyddwch chi'n sylwi arnyn nhw am gyfnod hir wedyn.
Gallai digwyddiad trawmatig wneud i chi deimlo:
“Rwy'n cofio ar un achlysur roedden ni'n delio â marwolaeth ddifrifol. Gwnaeth y digwyddiad cyfan aros yn fy meddwl.” – Nick, arweinydd tîm chwilio ac achub
Mae lludded a blinder meddyliol yn fwy na theimladau o fod wedi blino. Gall blinder meddyliol ddigwydd os byddwch chi o dan bwysau cyson o ganlyniad i'ch gwaith. Gall wneud i chi deimlo:
“Roeddwn i wedi bod yn gweithio i ffwrdd am gyfnodau hir, yn gweithio oriau hir ac roeddwn i wedi blino'n lân. Doeddwn i ddim wedi sylweddoli bod fy mod i'n llai gwydn nes i mi ddelio â digwyddiad difrifol.”
Mae rhai pobl yn ei chael hi'n anodd nodi sut maen nhw'n teimlo, yn enwedig os byddan nhw wedi bod drwy brofiad trawmatig. Caiff hyn ei alw weithiau'n ddatgysylltiad.
Os byddwch chi'n datgysylltu, efallai y byddwch chi'n teimlo eich bod chi wedi datgysylltu wrthoch chi'ch hun a'r byd o'ch cwmpas. Er enghraifft, efallai y byddwch chi'n teimlo nad ydych chi'n rhan o'ch corff neu'n teimlo fel petai'r byd o'ch cwmpas yn afreal. Mae datgysylltu yn un ffordd i'r meddwl ymdopi â gormod o straen, fel yn ystod digwyddiad trawmatig.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael am ddatgysylltiad, gan gynnwys cyngor ar sut i ofalu amdanoch chi'ch hun pan fyddwch chi'n datgysylltu
Unwaith y byddwch chi'n deall beth rydych chi'n ei deimlo, gallwch chi ddechrau meddwl beth allai fod wedi achosi rhai o'r teimladau hyn. Efallai y bydd hyn yn gwneud i chi deimlo'n fwy parod i ddelio â nhw.
Gallai rhai o'r pethau yn y rhestr hon fod yn cyfrannu at sut rydych chi'n teimlo nawr. Efallai y byddwch chi hefyd wedi cael profiadau nad ydyn nhw wedi'u cynnwys yma.
“Gall bod yn y tîm achub mynydd fod yn llawn straen ar adegau. Rydyn ni'n delio â sefyllfaoedd anodd gan gynnwys achosion o hunanladdiad.” – Izzy, gwasanaeth achub mynydd
“Pan ymunais i â'r tîm ar ddechrau'r nawdegau, roedden ni'n achub tua 60 o bobl y flwyddyn. Nawr rydyn ni'n achub 100-120 o bobl y flwyddyn yn rheolaidd.” – Nick, arweinydd tîm chwilio ac achub
Darllenwch ein gwybodaeth am brofedigaeth.
“Gall delio â'r galwadau a'r digwyddiadau o ddydd i ddydd yn ogystal â'r broses o redeg gwasanaeth brys o ddydd i ddydd achosi'r un faint o straen â digwyddiad ei hun, os nad mwy.” – Simon, gwirfoddolwr yn y gwasanaeth chwilio ac achub
I lawer ohonon ni, roedd y pandemig yn golygu bod pethau roedden ni'n gobeithio y bydden nhw'n digwydd, neu'n edrych ymlaen atyn nhw, yn sydyn yn teimlo'n llai tebygol. Ac efallai y daeth y pethau roedden ni'n eu hofni i deimlo'n agosach at ddod yn wir. Er enghraifft:
Does dim rhaid i chi deimlo'n uchel eich cymhelliant drwy'r amser, ac mae llawer ohonon ni'n cael diwrnodau lle mae ein cymhelliant yn is yn y gwaith a gartref. Ond os ydych chi'n teimlo bod y coronafeirws wedi cipio rhywfaint o'r cariad a'r mwynhad a oedd gennych chi o'r blaen tuag at eich gwaith, efallai y bydd yr awgrymiadau hyn yn ddefnyddiol.
Darllenwch fwy o awgrymiadau ar ofalu amdanoch chi eich hun pan fyddwch chi'n mynd i'r gwaith yn ystod y coronafeirws. Os ydych chi'n wirfoddolwr, efallai y bydd yr awgrymiadau hyn yn ddefnyddiol i chi hefyd.
“Mae fy nghydweithwyr achub wedi bod yn gefnogol dros ben. Gall hyd yn oed yr ymdrech lleiaf olygu cymaint – gwahoddiadau i fynd i ddringo, gwahoddiadau i gael paned o goffi, rhywun yn galw heibio am sgwrs.” – Nick, arweinydd tîm chwilio ac achub
Mae gan y GIG ragor o wybodaeth am sut i ddelio â newid ac ansicrwydd yn ystod y coronafeirws.
Darllenwch ragor o wybodaeth am sicrhau meddwl iach yn y gwaith, gan gynnwys awgrymiadau ar sut i ymdopi â straen.
“Mae cynifer o bobl sydd wedi profi pethau tebyg. Felly mae'n bwysig gwybod nad ydych chi ar eich pen eich hun yn teimlo fel hyn.” – Nick, arweinydd tîm chwilio ac achub
Mae'n anghyffredin iawn i unigolion deimlo'n gadarnhaol drwy'r amser, a bydd y rhan fwyaf ohonon ni'n cael cyfnodau o deimlo'n well neu'n waeth. Ond efallai bod gweithio yn ystod y pandemig wedi gwneud i chi deimlo'n waeth amdanoch chi'ch hun, am eich gwaith, neu am gymdeithas yn gyffredinol. Gallai'r pethau canlynol eich helpu i deimlo'n fwy cadarnhaol.
Dydyn ni ddim yn gwybod beth allai ddigwydd yn y dyfodol. Yn ystod eich sifftiau, efallai bod rhai pethau yn dychwelyd i'r ffordd yr oedden nhw o'r blaen. Os oeddech chi'n gweithio gartref, efallai eich bod chi'n dychwelyd i'ch gweithle arferol, ac yn gweld cydweithwyr eto. Os ydych chi'n gwirfoddoli allan ar alwadau, efallai bod y galwadau rydych chi'n ymateb iddynt yn debycach i sut oedden nhw cyn y pandemig.
Ac efallai bod rhai pethau'n teimlo'n wahanol o hyd. Efallai bod mesurau hylendid caeth ar waith o hyd. Efallai nad yw eich llwyth achosion wedi dychwelyd i'r lefelau cyn y pandemig.
Efallai y byddai'n ddefnyddiol i chi roi strategaethau ar waith i ymdopi â'r dyfodol, ac unrhyw deimladau o ansicrwydd neu bryder a allai fod gennych chi. Gallai'r pethau canlynol fod yn ddefnyddiol:
Efallai eich bod chi wedi profi llawer o newidiadau mawr i'ch bywyd yn ystod y pandemig. Efallai eich bod chi wedi colli anwyliaid, neu wedi colli allan ar ddigwyddiadau pwysig. A phan fydd y dyddiadau pwysig hyn yn codi eto, efallai y byddwch chi'n profi teimladau anodd.
Gall fod yn ddefnyddiol cymryd amser i feddwl am y digwyddiadau sydd wedi cael effaith fawr ar eich bywyd. Os ydych chi am wneud hynny, gallech chi gynllunio rhywbeth i nodi'r dyddiad hwnnw. Gallech chi gyfarfod â phobl eraill y bu effaith arnyn nhw hefyd. Neu, efallai y byddai hi'n well gennych chi dreulio amser yn meddwl ar eich pen eich hun. Efallai y bydd y tudalennau hyn yn ddefnyddiol i chi:
Gofynnwch i'ch goruchwyliwr, rheolwr llinell neu gydweithwyr a allwch chi gael gafael ar gymorth arbenigol, fel:
Os ydych chi'n fyfyriwr, efallai y bydd cymorth ychwanegol ar gael i chi drwy ddarparwr eich cwrs. Mae ein hwb iechyd meddwl i fyfyrwyr yn cynnwys mwy o awgrymiadau ac adnoddau i unrhyw un sy'n astudio.
“Cael rhywun i siarad ag ef pan roedd ei angen arnaf oedd yr help mwyaf siŵr o fod. Roedd gallu defnyddio'r Rhaglen Cymorth i Weithwyr yn ddefnyddiol iawn. Wnaethon nhw ddim beirniadu na rhoi barn – gwnaethon nhw adael i mi siarad am y problemau a'r teimladau roedd gen i.” – Ross, swyddog achub gwylwyr y glannau
Rydyn ni'n gwybod y gall fod yn anodd gofyn am help, yn enwedig gan fyddwch chi'n treulio cymaint o amser yn helpu eraill. Gall deimlo bod stigma yn y gwasanaeth chwilio ac achub, lle rydych chi'n teimlo bod yn rhaid i chi fod yn ddewr ac na ddylech chi gyfaddef eich bod yn ei chael hi'n anodd.
Mae bob amser yn iawn gofyn am help. Gall gofyn am help olygu eich bod chi'n cael y cymorth sydd ei angen arnoch chi i deimlo'n well. Ac os nad ydych chi'n teimlo'n gyfforddus yn siarad â rhywun yn y gwaith, mae yna sefydliadau eraill a allai helpu.
Os ydych chi'n rheolwr llinell, meddyliwch sut allech chi annog aelodau eich tîm i ddod atoch chi os oes angen siarad arnyn nhw. Gallai fod yn ddefnyddiol i chi ddarllen ein hadnoddau ar ofalu am eich staff. Mae'n cynnwys gwybodaeth am sut i helpu aelodau eich tîm, a sut i greu gweithle sy'n annog meddwl iach.
“Gofynnodd i mi beth oedd mor ofnadwy am gyfaddef efallai bod gen i iselder dros dro. Cytunais i fod hynny'n bosibl ac nad oedd unrhyw beth gwael am gyfaddef hyn. Dangosodd hyn i mi pa mor ddwfn gall y stigma fod.”
Pan fyddwch chi'n ei chael hi'n anodd ymdopi ac nad yw hunanofal yn ddigon, gall cymorth gan weithiwr proffesiynol wneud gwahaniaeth. Gallai hyn gynnwys:
“Y tro cyntaf i mi weld cwnselydd, dechreuais grio. Roedd gallu siarad â rhywun anfeirniadol yn help mawr. Yn fwy nag unrhyw beth arall, mae wedi rhoi'r gallu i mi sylweddoli os bydda i'n dechrau dioddef eto.”
“Rydyn ni'n un teulu 999 mawr yn y gwasanaethau brys. Gofalwch am eich ffrindiau a'ch cydweithwyr a rhowch gymorth iddyn nhw pan fydd ei angen arnyn nhw. Torrwch y stigma sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl yn ein rôl.” – Andy, parafeddyg chwilio ac achub
Cyhoeddwyd y wybodaeth hon fis Hydref 2021. Byddwn yn ei diwygio yn 2022.
References are available on request. If you would like to reproduce any of this information, see our page on permissions and licensing.
View this information as a PDF (new window)