Mae'r wybodaeth hon i unrhyw un sy'n gweithio yn y gwasanaeth ambiwlans, p'un a ydych chi'n rheoli tîm, yn helpu pobl drwy ymateb i alwadau, yn gweithio gartref neu mewn swyddfa, neu'n barafeddyg.
20 munud i'w ddarllen
View this information as a PDF (new window)
Ar y dudalen hon:
Rydyn ni'n gwybod nad yw'r pandemig drosodd. Ond mae rhannau o gymdeithas yn dechrau dychwelyd i fel ag yr oedden nhw.
Fel ymatebwr yn y gwasanaeth ambiwlans, efallai y byddwch chi wedi sylwi nad yw rhai pethau yn y gwaith, neu gartref, wedi dychwelyd fel ag yr oedden nhw.
Efallai bod rheolau newydd i'w dilyn yn ystod eich sifft, neu fwy o alwadau i ymateb iddyn nhw na chyn y pandemig. Efallai eich bod chi'n teimlo'n wahanol am eich rôl o gymharu ag o'r blaen. Ac mae'n bosibl na fyddwch chi am i rai pethau ddychwelyd fel ag yr oedden nhw o'r blaen.
Gallai'r wybodaeth hon eich helpu i wneud synnwyr o'r hyn rydych chi wedi'i weld ac wedi'i brofi yn ystod y coronafeirws (COVID-19). Ni ddylech chi ei defnyddio yn lle triniaeth a chymorth iechyd meddwl. Ond gall awgrymu dulliau i'ch helpu i ddeall sut rydych chi'n teimlo, a rhoi cyngor ar sut i ymdopi â'r teimladau hyn.
Rydyn ni'n profi llawer o wahanol deimladau bob dydd. Gall teimladau helpu i ddangos sut i ymateb i'r sefyllfaoedd sy'n ein hwynebu. Ond yn aml, dydyn ni ddim yn gallu rhoi enw i bob teimlad rydyn ni'n ei gael, pan fyddwn ni'n ei gael.
Yn ystod y pandemig, efallai y byddwch chi wedi delio â llawer o bethau anodd, ac na fyddwch chi wedi cael amser i feddwl amdanyn nhw'n iawn. Efallai eich bod chi'n cael teimladau nawr, o ganlyniad i rywbeth a ddigwyddodd beth amser yn ôl.
Gallai nodi rhai o'r teimladau rydych chi'n eu cael nawr eich helpu chi i ddeall beth allai fod wedi'u hachosi. Ac unwaith y byddwch chi'n gwybod beth wnaeth eu hachosi, efallai y byddwch chi'n teimlo'n fwy parod i ddelio â'r teimladau hyn.
Gallai cydnabod sut rydych chi'n teimlo eich helpu i ddeall pam y gwnaethoch chi ymateb yn y fath fodd i rai sefyllfaoedd penodol yn y gorffennol. Er enghraifft, efallai eich bod chi wedi ei chael hi'n anodd cysgu ryw noson, ond na wnaethoch chi gysylltu hynny â'r galwadau anodd y gwnaethoch chi ymateb iddyn nhw y diwrnod hwnnw. Efallai eich bod chi wedi cweryla â rhywun sy'n bwysig i chi, heb wybod yn union pam.
Gallai rhoi eich teimladau mewn geiriau eich helpu chi i ddeall yr emosiynau rydych chi'n eu cael. Gallwch chi wneud hyn mewn sawl ffordd, a bydd pawb yn wahanol. Dyma rai awgrymiadau:
“Rydych chi'n ceisio cadw popeth rydych chi'n ei wneud mewn adrannau ar wahân – rydych chi'n ymateb i alwadau cas ac yn ceisio anghofio amdanynt. Ond rydych chi'n delio â'ch pryderon personol ar ben hynny, eich iechyd meddwl chi eich hun – mae'n gwneud y gwaith yn anodd iawn.” – David, parafeddyg
Isod rydyn ni wedi nodi rhai o'r pethau y mae aelodau'r gwasanaeth ambiwlans wedi dweud wrthyn ni eu bod wedi bod yn eu teimlo drwy gydol y pandemig. Efallai eich bod chi'n profi rhai ohonyn nhw, ac efallai hefyd eich bod chi'n profi teimladau nad ydyn nhw wedi'u rhestru yma.
Pan fyddwn ni'n dweud pethau fel "mae hwn yn achosi straen" neu "dwi'n teimlo straen", mae'n bosibl ein bod ni'n golygu'r canlynol:
Os ydych chi'n profi straen, efallai y byddwch chi'n teimlo:
“Gall derbyn galwadau 999 fod yn debyg i hyn yn aml: ‘COVID’, ‘Iechyd meddwl’, ‘COVID’, ‘Iechyd meddwl’, ‘COVID’.” – Ben, swyddog galwadau brys
Gorbryder yw'r hyn rydyn ni'n ei deimlo pan fyddwn ni'n poeni, ar bigau'r drain neu'n ofnus, yn benodol am bethau sydd ar fin digwydd, neu bethau rydyn ni'n meddwl a allai ddigwydd yn y dyfodol.
Gall gorbryder effeithio ar y canlynol:
Mae anaf moesol yn disgrifio set o deimladau y gallech chi eu cael os bu'n rhaid i chi wneud pethau, neu weld pethau, sy'n mynd yn erbyn eich gwerthoedd a'ch credoau.
Yn ystod y pandemig, gallech chi fod wedi cael eich gorfodi i wneud penderfyniadau anodd am helpu cleifion. Er enghraifft, gallech chi fod wedi gorfod gofalu am un claf, gan wybod bod yna gleifion eraill yr oedd angen eich help arnyn nhw hefyd. Gallai hyn achosi gwrthdaro i chi, neu wneud i chi deimlo y gallech chi fod wedi gwneud mwy.
Os byddwch chi'n profi anaf moesol, efallai y byddwch chi'n teimlo:
“Yn aml, byddwn i'n eistedd yn yr unfan, ddim yn gwneud dim byd mewn gwirionedd ond meddwl am y gwaith, a meddwl a oedd yna unrhyw beth arall y gallwn i fod wedi'i wneud.” – Dan, gwasanaeth ambiwlans
Pan fyddwch chi'n gofalu am bobl mewn amgylchiadau gofidus neu anodd yn gyson, gall eich blino'n lân yn gorfforol ac yn feddyliol. Gallwch chi ddod i deimlo nad ydych chi'n poeni am bobl cymaint ag o'r blaen. Caiff y teimlad hwn ei alw'n syrffed ar ddangos trugaredd.
Gallai syrffed ar ddangos trugaredd wneud i chi deimlo:
Weithiau, caiff y broses o fynd drwy ddigwyddiadau llawn straen, digwyddiadau dychrynllyd neu ddigwyddiadau gofidus ei galw'n drawma. Mae pawb yn ymateb yn wahanol i drawma. Efallai y byddwch chi'n sylwi ar yr effeithiau'n gyflym. Neu efallai na fyddwch chi'n sylwi arnyn nhw am gyfnod hir wedyn.
Gallai digwyddiad trawmatig wneud i chi deimlo:
“Mae'n anodd iawn rhagweld beth fydd ar y llinell pan fyddwch chi'n clywed y bîp, ac yn ystod bloc o dri diwrnod, roeddwn i'n ddigon anffodus i gael cyfres ddiddiwedd o alwadau trawmatig.” – Daniel, swyddog galwadau meddygol brys
Mae lludded a blinder meddyliol yn fwy na theimladau o fod wedi blino. Gall blinder meddyliol ddigwydd os byddwch chi o dan bwysau cyson o ganlyniad i'ch gwaith. Gall wneud i chi deimlo:
“Rydych chi'n claddu eich teimladau'n ddwfn, ac weithiau mae'n rhaid i chi wneud hynny er mwyn delio â'r gwaith. Rydych chi'n bwrw ati beth bynnag, ac mae'n cyrraedd pwynt critigol lle mae eich ymennydd a'ch corff yn dweud "dim rhagor". Mae'n rhaid i rywbeth ildio, a'r person sy'n gwneud hynny bob tro, nid y gwaith.”
Mae llawer o bobl yn y gwasanaeth ambiwlans wedi bod o dan bwysau ychwanegol yn ystod y pandemig. Os ydych chi'n ei chael hi'n anodd ac yn teimlo bod angen seibiant arnoch, mae'n bwysig i chi roi gwybod.
Ond efallai eich bod chi'n teimlo'n euog yn gofyn am gymorth ychwanegol, yn enwedig o wybod bod cynifer o'ch cydweithwyr yn ei chael hi'n anodd hefyd. Efallai eich bod chi'n poeni hefyd am siomi'r cyhoedd. Ceisiwch gofio bod eich llesiant chi yr un mor bwysig â'r bobl rydych chi'n eu helpu. Mae rhagor o wybodaeth ar gael am ble i gael cymorth.
Efallai eich bod chi wedi bod yn teimlo'n fwy dig yn ystod y pandemig. Er enghraifft, efallai eich bod chi wedi teimlo'n ddig â phobl sydd wedi torri rheolau'r cyfyngiadau symud, gan eich bod chi wedi bod yn gweithio mor galed. Efallai eich bod chi wedi teimlo'n ddig ag anwyliaid neu'r cyhoedd, os byddan nhw wedi gwadu bod y coronafeirws yn bodoli.
Gallai hyn fod wedi teimlo'n fwy anodd byth os bu'n rhaid i chi drin cleifion na wnaethon nhw ddilyn y rheolau. Gallai fod wedi bwrw eich cymhelliant, neu wneud i chi deimlo fel petaech chi'n mwynhau eich gwaith llai.
Mae rhai pobl yn ei chael hi'n anodd nodi sut maen nhw'n teimlo, yn enwedig os byddan nhw wedi bod drwy brofiad trawmatig. Caiff hyn ei alw weithiau'n ddatgysylltiad.
Os byddwch chi'n datgysylltu, efallai y byddwch chi'n teimlo eich bod chi wedi datgysylltu wrthoch chi'ch hun a'r byd o'ch cwmpas. Er enghraifft, efallai y byddwch chi'n teimlo nad ydych chi'n rhan o'ch corff neu'n teimlo fel petai'r byd o'ch cwmpas yn afreal. Mae datgysylltu yn un ffordd i'r meddwl ymdopi â gormod o straen, fel yn ystod digwyddiad trawmatig.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael am ddatgysylltiad, gan gynnwys cyngor ar sut i ofalu amdanoch chi'ch hun pan fyddwch chi'n datgysylltu.
Unwaith y byddwch chi'n deall beth rydych chi'n ei deimlo, gallwch chi ddechrau meddwl beth allai fod wedi achosi rhai o'r teimladau hyn. Efallai y bydd hyn yn gwneud i chi deimlo'n fwy parod i ddelio â nhw.
Gallai rhai o'r pethau yn y rhestr hon fod yn cyfrannu at sut rydych chi'n teimlo nawr. Efallai y byddwch chi hefyd wedi cael profiadau nad ydyn nhw wedi'u cynnwys yma.
Darllenwch ein gwybodaeth am brofedigaeth.
“Yn y gwaith, rydyn ni'n gwneud penderfyniadau sy'n newid bywydau mewn sefyllfaoedd mwy anodd nag erioed o'r blaen. Dyma'r penderfyniadau sy'n ein dilyn pan fyddwn ni'n mynd adref.” – Ben, swyddog galwadau brys
I lawer ohonon ni, roedd y pandemig yn golygu bod pethau roedden ni'n gobeithio y bydden nhw'n digwydd, neu'n edrych ymlaen atyn nhw, yn sydyn yn teimlo'n llai tebygol. Ac efallai y daeth y pethau roedden ni'n eu hofni i deimlo'n agosach at ddod yn wir. Er enghraifft:
Does dim rhaid i chi deimlo'n uchel eich cymhelliant drwy'r amser, ac mae llawer ohonon ni'n cael diwrnodau lle mae ein cymhelliant yn is yn y gwaith a gartref. Ond os ydych chi'n teimlo bod y coronafeirws wedi cipio rhywfaint o'r cariad a'r mwynhad a oedd gennych chi o'r blaen tuag at eich gwaith, efallai y bydd yr awgrymiadau hyn yn ddefnyddiol.
Darllenwch fwy o awgrymiadau ar ofalu amdanoch chi eich hun pan fyddwch chi'n mynd i'r gwaith yn ystod y coronafeirws.
Mae gan y GIG ragor o wybodaeth am sut i ddelio â newid ac ansicrwydd yn ystod y coronafeirws.
“Y peth pwysicaf yw gofalu amdanoch chi'ch hun yn ogystal ag eraill, a sicrhau bod rhywun y gallwch chi drafod eich teimladau ag ef os byddwch chi'n teimlo bod angen i chi wneud hynny.” – Amanda, swyddog cymorth cymheiriaid yn y gwasanaeth ambiwlans
Darllenwch ragor o wybodaeth am sicrhau meddwl iach yn y gwaith, gan gynnwys awgrymiadau ar sut i ymdopi â straen
“Weithiau, pan fydd gormod yn fy mhen, dyw cerddoriaeth ddim yn gweithio. Dwi'n gorfod gorwedd ar fy ngwely a gofyn i Alexa chwarae cerddoriaeth myfyrio. Gall dim ond canolbwyntio ar eich anadlu â'ch llygaid ar gau wir helpu.” – Ben, swyddog galwadau brys
Mae'n anghyffredin iawn i unigolion deimlo'n gadarnhaol drwy'r amser, a bydd y rhan fwyaf ohonon ni'n cael cyfnodau o deimlo'n well neu'n waeth. Ond efallai bod gweithio yn ystod y pandemig wedi gwneud i chi deimlo'n waeth amdanoch chi'ch hun, am eich gwaith, neu am gymdeithas yn gyffredinol. Gallai'r pethau canlynol eich helpu i deimlo'n fwy cadarnhaol.
“Os ydw i'n teimlo wedi fy llethu, dwi'n cymryd cam yn ôl. Mae'n fy helpu i ffocysu eto ac i fagu nerth newydd. Dwi'n ceisio peidio â bod yn rhy galed arnaf fi fy hun os bydda i'n cael diwrnod gwael, neu os bydda i'n teimlo na wnes i ymdopi cystal ag y dylwn i fod wedi ei wneud.”
Dydyn ni ddim yn gwybod beth allai ddigwydd yn y dyfodol. Yn y gwaith, efallai bod rhai pethau yn dychwelyd i'r ffordd yr oedden nhw o'r blaen. Os oeddech chi'n gweithio gartref, efallai eich bod chi'n dychwelyd i'ch gweithle arferol, ac yn gweld cydweithwyr eto. Os ydych chi'n gweithio gyda chleifion, efallai eich bod chi'n gweld llai o gleifion â'r coronafeirws.
Ac efallai bod rhai pethau'n teimlo'n wahanol o hyd. Efallai bod mesurau hylendid caeth ar waith o hyd. Efallai nad yw eich llwyth achosion wedi dychwelyd i'r lefelau cyn y pandemig.
Efallai y byddai'n ddefnyddiol i chi roi strategaethau ar waith i ymdopi â'r dyfodol, ac unrhyw deimladau o ansicrwydd neu bryder a allai fod gennych chi. Gallai'r pethau canlynol fod yn ddefnyddiol:
“Mae siarad gyda fy nghymheiriaid hefyd wedi bod yn help mawr iawn. Mae'n fy helpu i sylweddoli bod yr hyn rwy'n ei brofi yn normal, a bod llawer o bobl yn profi pethau tebyg o bryd i'w gilydd.” – Dan, gwasanaeth ambiwlans
Efallai eich bod chi wedi profi llawer o newidiadau mawr i'ch bywyd yn ystod y pandemig. Efallai eich bod chi wedi colli anwyliaid, neu wedi colli allan ar ddigwyddiadau pwysig. A phan fydd y dyddiadau pwysig hyn yn codi eto, efallai y byddwch chi'n profi teimladau anodd.
Gall fod yn ddefnyddiol cymryd amser i feddwl am y digwyddiadau sydd wedi cael effaith fawr ar eich bywyd. Os ydych chi am wneud hynny, gallech chi gynllunio rhywbeth i nodi'r dyddiad hwnnw. Gallech chi gyfarfod â phobl eraill y bu effaith arnyn nhw hefyd. Neu, efallai y byddai hi'n well gennych chi dreulio amser yn meddwl ar eich pen eich hun. Efallai y bydd y tudalennau hyn yn ddefnyddiol i chi:
Gofynnwch i'ch goruchwyliwr, rheolwr llinell neu gydweithwyr a allwch chi gael gafael ar gymorth arbenigol. Gallai rhai o'r pethau canlynol fod yn ddefnyddiol:
Os ydych chi'n barafeddyg dan hyfforddiant, efallai y bydd cymorth ychwanegol ar gael i chi drwy ddarparwr eich cwrs. Mae ein hwb iechyd meddwl i fyfyrwyr yn cynnwys mwy o awgrymiadau ac adnoddau i unrhyw un sy'n astudio.
Rydyn ni'n gwybod y gall fod yn anodd gofyn am help yn y gwaith, yn enwedig gan eich bod yn treulio cymaint o amser yn helpu eraill. Gall deimlo bod stigma yn y gwasanaeth ambiwlans, lle rydych chi'n teimlo bod yn rhaid i chi fod yn ddewr ac na ddylech chi gyfaddef eich bod yn ei chael hi'n anodd.
Mae bob amser yn iawn gofyn am help. Gallai gofyn am help eich helpu i gael y cymorth sydd ei angen arnoch chi er mwyn gwneud i chi deimlo'n well. Ac os nad ydych chi'n teimlo'n gyfforddus yn siarad â rhywun yn y gwaith, mae yna sefydliadau eraill a allai helpu.
Os ydych chi'n rheolwr llinell, meddyliwch sut allech chi annog aelodau eich tîm i ddod atoch chi os oes angen siarad arnyn nhw. Gallai fod yn ddefnyddiol i chi ddarllen ein hadnoddau ar ofalu am eich staff. Mae'n cynnwys gwybodaeth am sut i helpu aelodau eich tîm, a sut i greu gweithle sy'n annog meddwl iach.
“Yn y gwasanaeth ambiwlans, rydyn ni'n hoffi'r teimlad y gallwn ni ymdopi â phopeth, ac weithiau bydd cyfaddef bod rhywbeth o'i le yn codi cywilydd arnoch chi. Ond pobl ydyn ni, nid robotiaid.”
116 123 (freephone)
[email protected]
Freepost SAMARITANS LETTERS
samaritans.org
Samaritans are open 24/7 for anyone who needs to talk. You can visit some Samaritans branches in person. Samaritans also have a Welsh Language Line on 0808 164 0123 (7pm–11pm every day).
Pan fyddwch chi'n ei chael hi'n anodd ymdopi ac nad yw hunanofal yn ddigon, gall cymorth gan weithiwr proffesiynol wneud gwahaniaeth. Gallai hyn gynnwys:
“Fwy na thebyg bod siarad â'm cydweithiwr wedi achub fy mywyd. Cael y cyfle i drafod fy nheimladau â rhywun oedd dechrau proses a arweiniodd at gael diagnosis cywir a thriniaeth ar gyfer y broblem iechyd meddwl a oedd yn effeithio arna i.” – Neil, gwasanaeth ambiwlans
Cyhoeddwyd y wybodaeth hon fis Hydref 2021. Byddwn yn ei diwygio yn 2022.
References are available on request. If you would like to reproduce any of this information, see our page on permissions and licensing.