Cyffuriau gwrthseicotig
Mae’r adran hon yn egluro ar gyfer beth y defnyddir cyffuriau gwrthseicotig, sut mae'r feddyginiaeth yn gweithio, sgil-effeithiau posibl a gwybodaeth am roi'r gorau i feddyginiaeth.
Rhoi'r gorau i gyffuriau gwrthseicotig
Efallai y bydd rhesymau pam eich bod am roi'r gorau i gymryd cyffuriau gwrthseicotig hefyd. Er enghraifft, efallai eich bod yn profi sgil-effeithiau annymunol. Neu efallai y byddwch am roi cynnig ar ffyrdd eraill o ymdopi â'ch iechyd meddwl.
Efallai y bydd rhai meddygon yn awgrymu eich bod yn parhau i gymryd cyffuriau gwrthseicotig am beth amser. Mae hyn fel arfer er mwyn lleihau'r risg y bydd eich symptomau'n dychwelyd. Ond efallai y byddwch chi'n teimlo mai dyma'r dewis anghywir i chi.
Mae'r dudalen hon yn cwmpasu:
- Pa mor hawdd yw rhoi'r gorau i gyffuriau gwrthseicotig?
- Pryd ddylwn i roi'r gorau i gyffuriau gwrthseicotig?
- Pa symptomau diddyfnu y gallaf eu cael?
- A fydd fy symptomau seicotig yn dod yn ôl?
Gweler ein tudalen ar ddewisiadau amgen i gyffuriau gwrthseicotig i gael syniadau ar reoli eich symptomau heb feddyginiaeth. Neu gweler ein tudalennau ar roi'r gorau i feddyginiaeth i gael gwybodaeth am wneud y penderfyniad i roi'r gorau i feddyginiaeth, symptomau diddyfnu a dod o hyd i gymorth.
Rwy'n teimlo gymaint yn well ers rhoi'r gorau iddyn nhw - llai o gyffuriau ac yn fwy byw.
Pa mor hawdd yw rhoi'r gorau i gyffuriau gwrthseicotig?
Efallai y bydd rhai pobl yn gallu rhoi’r gorau i gymryd cyffuriau gwrthseicotig heb broblemau, ond gall eraill ei chael yn anodd iawn. Os ydych chi wedi bod yn eu cymryd ers peth amser, gall fod yn anoddach thoi'r gorau iddynt. Mae hyn yn arbennig o wir os ydych wedi bod yn eu cymryd am flwyddyn neu fwy.
Os ydych chi'n ystyried rhoi’r gorau i gymryd cyffuriau gwrthseicotig, mae’n werth meddwl am y canlynol:
- Mae'n fwy diogel rhoi'r gorau iddynt yn araf ac yn raddol. Dylech wneud hyn drwy leihau eich dos dyddiol dros gyfnod o wythnosau neu fisoedd. Po hiraf yr ydych wedi bod yn cymryd cyffur, yr hiraf y mae'n debygol o'i gymryd i roi'r gorau iddo'n ddiogel.
- Osgoi stopio'n sydyn, os yn bosib. Os byddwch chi'n rhoi'r gorau iddynt yn rhy gyflym rydych chi'n llawer mwy tebygol o gael ail bwl o'ch symptomau seicotig. Gall hefyd gynyddu eich risg o ddatblygu seicosis araf.
- Mynnwch gymorth gan bobl rydych chi'n ymddiried ynddynt. Yn ddelfrydol bydd hyn yn cynnwys eich meddyg neu seiciatrydd. Mae hefyd yn cynnwys cael cymorth gan ffrindiau a theulu. Ac fe allech chi roi cynnig ar gymorth gan gymheiriaid i ddod o hyd i gymorth gan eraill sydd wedi cael profiadau tebyg i'ch un chi.
Yn anffodus, efallai na fydd eich meddyg neu seiciatrydd yn cefnogi eich penderfyniad i roi'r gorau i gyffuriau gwrthseicotig. Gall hyn olygu nad ydynt yn cynnig cymaint o help ag yr hoffech. Mae ein tudalen cymorth ar gyfer rhoi'r gorau i gyffuriau seiciatrig yn cynnwys gwybodaeth am ffyrdd eraill o ddod o hyd i gymorth.
Pum awgrym ar gyfer pryd hoffech roi'r gorau i'ch meddyginiaeth
Mae Kat o dîm gwybodaeth Mind yn rhoi pum awgrym ar gyfer pryd rydych chi am roi'r gorau i'ch meddyginiaeth.
Wnes i roi'r gorau iddyn nhw a gweld y gallwn deimlo emosiynau eto, a oedd yn frawychus, ond yn werth chweil.
Pryd ddylwn i roi'r gorau i gyffuriau gwrthseicotig?
Does dim amser perffaith i roi cynnig ar roi'r gorau i gyffuriau gwrthseicotig. Mae pawb yn wahanol, ac mae yna lawer o ffactorau a allai effeithio ar eich profiad o roi'r gorau iddynt.
Os ydych chi'n ystyried pryd i roi'r gorau i'ch meddyginiaeth, efallai y byddai'n ddefnyddiol meddwl am y canlynol:
- Beth arall sy'n digwydd yn eich bywyd ar hyn o bryd? Os ydych chi dan lawer o straen ychwanegol, a fydd hyn yn effeithio ar eich gallu i ymdopi? Er enghraifft, efallai y byddwch yn teimlo dan fwy o straen nag arfer os ydych yn symud tŷ, yn pryderu am arian neu eich teulu.
- A fyddai'n well gennych chi deimlo wedi ymlacio a heb faich tra byddwch chi'n rhoi'r gorau i'ch meddyginiaeth? Gall hyn eich helpu i dalu sylw manwl i'r ffordd rydych chi'n teimlo o ddydd i ddydd. Neu a fyddech chi'n ei chael hi'n haws bod yn brysur tra byddwch chi'n rhoi'r gorau i'ch meddyginiaeth, fel bod pethau eraill yn tynnu eich sylw?
- Oes gennych chi grŵp cymorth gerllaw neu bobl eraill yn eich bywyd a all gynnig unrhyw help y gallai fod ei angen arnoch?
- Os ydych chi wedi ceisio rhoi'r gorau i'ch meddyginiaeth o'r blaen ond heb allu ei rheoli, pa ffactorau allai fod wedi chwarae rhan bryd hynny? A allwch chi eu hosgoi neu eu lleihau pan fyddwch chi'n ceisio eto?
Pryd bynnag y byddwch yn penderfynu ceisio rhoi'r gorau i'ch meddyginiaeth, mae'n well gwneud hynny'n araf ac yn ddiogel. Efallai y bydd yn cymryd amser hir, neu efallai y byddwch yn dod yn gyfforddus ar ddos is ac yn penderfynu peidio â rhoi'r gorau iddi'n llwyr. Y prif beth yw eich bod chi'n dod o hyd i ffordd o reoli'ch symptomau sy'n gweithio i chi.
Wnes i roi'r gorau iddyn nhw'n rhy gyflym a doeddwn i ddim yn barod yn gorfforol nac yn feddyliol ar gyfer hynny. [Rwy'n meddwl] ei bod yn bwysig iawn gwneud yn siŵr eich bod yn rhoi'r gorau iddi'n araf iawn ac o dan lygad barcud gweithiwr proffesiynol.
Pa symptomau diddyfnu y gallaf eu cael?
Y prif symptomau diddyfnu sy'n gysylltiedig â chyffuriau gwrthseicotig yw:
- teimladau abnormal ar y croen
- cyhyrau poenus
- gorbryder
- dolur rhydd
- pendro a fertigo
- teimlo'n rhy boeth neu'n rhy oer
- teimlo'ch bod yn tynnu'n ôl yn gymdeithasol
- cur pen
- colli archwaeth
- aflonyddwch hwyliau
- cyfog (teimlo’n sâl)
- syndrom malaen niwroleptig
- aflonyddwch, cynnwrf ac anniddigrwydd
- trwyn yn rhedeg
- crynu
- anhunedd (methu cysgu)
- chwysu
- dyscinesia cam-symud araf
- seicosis araf
- chwydu (bod yn sâl).
Yn anffodus, nid oes tystiolaeth o ba mor gyffredin yw'r symptomau diddyfnu hyn, felly nid oes unrhyw ffordd o wybod pa mor debygol ydych chi o gael unrhyw un ohonynt.
Roedd ceisio rhoi'r gorau iddyn nhw'n flinedig - daeth fy hwyliau ansad yn ôl o ddifri. Ro'n i'n teimlo fy mod i wedi colli gafael ar bethau eto.
A fydd fy symptomau seicotig yn dod yn ôl?
Gall meddyginiaeth helpu i sefydlogi eich symptomau, felly mae'n bosibl y bydd eich symptomau seicotig yn dychwelyd os byddwch yn rhoi'r gorau i gymryd y feddyginiaeth. Ond nid yw'n sicr a fydd hyn yn digwydd. Mae yna nifer o ffactorau a all effeithio ar p'un a fyddwch yn mynd yn sâl eto. Er enghraifft:
- Efallai eich bod wedi cael mathau eraill o driniaeth tra oeddech yn cymryd meddyginiaeth, megis triniaethau siarad a therapïau celfyddydol a chreadigol. Efallai bod y rhain wedi eich helpu i ddod o hyd i ffyrdd newydd o ymdopi
- Efallai eich bod wedi llwyddo i wneud newidiadau yn eich bywyd ers eich pwl diwethaf sy'n golygu eich bod yn llai tebygol o fynd yn sâl eto.
- Os byddwch yn ceisio rhoi'r gorau i'ch meddyginiaeth yn rhy gyflym, rydych yn llawer mwy tebygol o gael ail bwl o salwch.
Mae rhai seiciatryddion yn credu bod pobl sydd wedi cael diagnosis o sgitsoffrenia sy'n cymryd cyffuriau gwrthseicotig am nifer o flynyddoedd yn llai tebygol o gael ail bwl o salwch na'r rhai nad ydynt yn cymryd cyffuriau gwrthseicotig. Ond nid yw pob seiciatrydd yn cytuno â'r farn hon. Ac mae llawer o bobl sydd wedi cael diagnosis o sgitsoffrenia hefyd yn anghytuno â'r farn hon.
Roeddwn i ar ddos isel iawn felly roeddwn i'n ei chael hi'n hawdd rhoi'r gorau iddi - dim sgil-effeithiau. Mae fy lefelau egni yn ôl, ond dwi wedi sylwi nad ydw i'n cysgu cymaint a dwi braidd yn bigog, felly dwi'n monitro fy hun yn agos gan ddefnyddio dyddiadur i nodi patrymau cysgu a fy hwyliau.
Cyhoeddwyd y wybodaeth hon ym mis Medi 2020.
This page is currently under review. All content was accurate when published.
References and bibliography available on request.
If you want to reproduce this content, see our permissions and licensing page.