Dysgwch sut i reoli eich lles eich hun wrth ofalu am rywun arall. Cewch wybodaeth ac awgrymiadau ar ofalu am eich iechyd meddwl a dod o hyd i gymorth.
Efallai eich bod chi'n gofalu am rywun sydd â phroblem iechyd corfforol, problem iechyd meddwl, neu'r ddau beth. Ar gyfer problemau iechyd meddwl, efallai y byddwch chi'n wynebu heriau ychydig yn wahanol neu heriau ychwanegol.
Mae'r dudalen hon yn rhestru rhai o'r rhain, ynghyd â chyngor ac awgrymiadau sydd wedi helpu pobl eraill.
Efallai y byddwch chi'n cael meddyliau anodd fel:
Efallai fod gennych chi bryderon, fel teimlo:
Efallai y byddwch chi'n wynebu heriau fel:
"Mae gofalu am rywun sydd â chyflwr iechyd meddwl yn anodd. Gall y ffaith nad ydych chi'n gallu gweld y salwch wneud i chi deimlo nad ydych chi'n ofalwr ‘go iawn’. Wir i chi: rydych chi yn ofalwr. Ac rydych chi'n gwneud gwahaniaeth enfawr i fywyd rhywun."
Os nad ydych chi'n cyflawni llawer o dasgau corfforol, efallai nad ydych chi'n ystyried eich hun yn ofalwr. Ond mae llawer o ffyrdd eraill y gallech chi gefnogi rhywun. Er enghraifft, efallai eich bod chi'n:
Efallai y byddwch chi'n gweld nad yw pobl eraill, fel teulu a ffrindiau, yn ystyried eich bod chi'n ofalwr chwaith. Gall helpu i ddangos y wybodaeth hon iddyn nhw.
"Roeddwn i am i bobl eraill wybod bod gofalu yn waith unig a blinedig ond bod help ar gael."
Efallai eich bod chi'n teimlo'n rhwystredig na allwch chi wneud i rywun deimlo'n well, neu nad ydych chi'n ‘ddigon’ i'w wneud yn hapus. Ond fel cyflyrau iechyd corfforol, gall problemau iechyd meddwl effeithio ar bawb. Ni all neb atal rhywun arall rhag cael problem iechyd meddwl.
Mae'n debygol eich bod chi'n helpu llawer mwy nag ydych chi'n ei feddwl. Os yw'n bosibl, ceisiwch siarad ag ef am y ffordd rydych chi eisoes yn helpu. Ceisiwch ddatblygu syniad clir ynghylch yr hyn y gallwch chi ei wneud. Derbyniwch rannau na allwch chi eu gwneud ar eich pen eich hun neu bethau na allwch chi eu newid. Gallai deall yr hyn sy'n bosibl a bod yn ymwybodol o'ch terfynau wneud i chi deimlo'n llai anobeithiol.
Os nad ydych chi wedi cael problem iechyd meddwl, gall fod yn anodd deall sut beth ydyw. Gofynnwch iddo geisio esbonio – ond cofiwch nad yw bob amser yn hawdd disgrifio. Gallech chi edrych ar ein gwybodaeth am iechyd meddwl, blogiau a fideos byr. Gallai'r adnoddau hyn ei helpu i ddod o hyd i rywbeth sy'n ei gyfleu yn y geiriau cywir.
Gallai dysgu am broblem iechyd meddwl a chlywed gan bobl eraill fod yn ddefnyddiol i chi. Gall eich helpu i ddeall beth mae'r person yn ei wynebu a sut y gallwch chi helpu.
"Doedd gen i ddim syniad y gallai fod yn salwch sy'n codi dro ar ôl tro – yn broblem sy'n para am byth."
Mae'n anodd gwybod faint o ofal i'w roi neu beth sydd orau i'w wneud. Efallai y byddwch chi'n poeni y bydd yn mynd yn rhy ddibynnol arnoch chi. Neu efallai eich bod chi'n teimlo nad yw'r pethau rydych chi'n eu gwneud yn ddefnyddiol yn yr hirdymor.
Ni fydd rhai pobl yn teimlo eu bod yn fodlon nac yn gallu dweud wrthych chi pan fydd eu hwyliau wedi newid a beth sydd ei angen arnyn nhw. Gall hyn ei gwneud hi'n anodd iawn i chi. Mae'n ddealladwy os byddwch chi'n cael pethau'n anghywir weithiau. Dros amser, efallai y gallwch chi ddehongli ei deimladau a'i anghenion o'i ystumiau a'i ymddygiad.
Efallai na fydd bob amser yn gallu esbonio beth fyddai'n helpu ar y pryd. Bydd rhai pobl yn gweld ei bod yn ddefnyddiol sefydlu systemau bach ar gyfer cyfathrebu. Er enghraifft, gallech chi siarad am liwiau fel anghenion gwahanol:
Pan fydd rhywun yn teimlo'n sâl, gall fod yn haws weithiau dweud ‘rwy'n teimlo'n oren’ na cheisio dod o hyd i'r geiriau. Bydd pethau gwahanol yn gweithio i bobl wahanol – ceisiwch ddod o hyd i rywbeth sy'n addas i'r ddau ohonoch chi.
Mae ein hadnoddau ar broblemau iechyd meddwl yn cynnwys adran ar gyfer teulu a ffrindiau, a all fod yn ddefnyddiol i chi. Efallai y bydd hefyd yn ddefnyddiol i chi ddod o hyd i gymorth iechyd meddwl ar-lein. Daw cymorth ar-lein gan bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl, neu sy'n cefnogi eraill. Gallech chi ymuno â chymuned Mind Ochr yn Ochr.
Efallai y byddwch chi'n poeni y gall niweidio ei hun neu eraill. Mae gennym wybodaeth fanwl am helpu rhywun sy'n hunan-niweidio a'r hyn y gallwch chi ei wneud mewn argyfwng.
Gall poeni am ddiogelwch rhywun rydych chi'n ei garu fod yn flinedig iawn yn emosiynol. Mae'n bwysig sicrhau eich bod chi'n cefnogi chi eich hun hefyd. Mae ein tudalennau ar hunan-ofal a chymorth i ofalwyr yn rhestru rhai syniadau y gallwch chi roi cynnig arnyn nhw.
Efallai eich bod chi'n poeni am sut y bydd pobl eraill yn ei drin – neu sut y byddan nhw'n eich trin chi fel gofalwr.
Gall stigma a chamddealltwriaeth fod yn anodd. Yn enwedig os yw hynny'n dod gan deulu neu ffrindiau, cydweithwyr neu weithwyr gofal iechyd proffesiynol. Gall olygu ei bod yn anodd siarad am broblemau iechyd meddwl. Ond mae'n bwysig cofio nad ydych chi ar eich pen eich hun.
Os ydych chi'n poeni am beth mae pobl eraill yn ei feddwl, gallech chi roi cynnig ar y canlynol:
"Rwyf am i ofalwyr eraill wybod nad ydyn nhw ar eu pen eu hunain. Cymerwch yr holl gymorth sydd ar gael, darllenwch yr erthyglau ar Mind a cheisiwch ddeall yr hyn rydych chi, eich teulu a'ch anwyliaid yn ei wynebu."
Gall problemau iechyd meddwl effeithio ar hwyliau, emosiynau ac ymddygiadau. Efallai y byddwch chi'n teimlo bod ei bersonoliaeth yn newid a'i fod yn wahanol i'r person yr oedd yn arfer bod. Gall hyn effeithio ar eich perthynas. Efallai y bydd eich perthynas yn teimlo'n anghytbwys, neu fel petaech chi ond yn gwneud pethau ‘gofalu’ gyda'ch gilydd.
Gall helpu i geisio ystyried y broblem iechyd meddwl fel rhywbeth ar wahân i'r ddau ohonoch chi. Ceisiwch feddwl amdani fel her allanol i ymdopi â hi gyda'ch gilydd. Edrychwch ar ein hadran ar ochr gadarnhaol gofalu am rywun.
"Rydyn ni wedi sefydlu ein hunain fel tîm, i ymdopi â phethau gyda'n gilydd."
Gall fod angen help, ond nid yw'n gallu neu nid yw'n fodlon gofyn am help. Neu efallai y bydd yn gwrthod derbyn unrhyw help y byddwch chi'n ei gynnig. Os felly, mae'n ddealladwy y gallech chi deimlo'n rhwystredig, yn ofidus ac yn ddi-rym.
Weithiau, efallai y byddwch chi'n gallu adnabod yr arwyddion sy'n dangos ei bod yn mynd yn sâl. Gallech chi geisio paratoi ar gyfer hyn drwy lunio rhestr o arwyddion gyda'ch gilydd pan fydd hi'n iach. Gall hyn olygu ei bod yn haws siarad am bethau pan fyddwch chi'n sylwi bod pethau'n newid. Efallai y bydd angen i chi benderfynu gyda'ch gilydd sut y bydd hi am i chi ei helpu os bydd hi'n mynd yn sâl eto.
Mae'n bwysig cydnabod bod cyfyngiadau ar y cymorth y gallwch chi ei gynnig. Mae ein tudalen ar helpu rhywun i geisio help yn esbonio mwy am yr hyn y gallwch chi ei wneud a'r hyn na allwch chi ei wneud.
Mae Lucy o Mind yn ateb un o'r cwestiynau anoddaf a gawn ar ein llinell gymorth – allwch chi wneud i rywun gael help?
Efallai y byddwch chi'n gweld ei fod yn dweud neu'n gwneud pethau sy'n eich brifo chi weithiau, fel pan fydd yn sâl. Bydd pobl yn dueddol o fynegi teimladau anodd i'r rheini sydd agosaf atyn nhw. Efallai y bydd:
Mae'n ddealladwy y gall hyn fod yn anodd ac y gall eich brifo chi. Ceisiwch wneud y canlynol:
Mae eich iechyd meddwl chi yn bwysig hefyd. Mae angen i chi benderfynu faint o gymorth y gallwch chi ei gynnig a phryd i roi eich anghenion chi yn gyntaf.
Gwyliwch Chloe, Ally a Kate yn siarad am sut beth yw gofalu am rywun sydd â phroblem iechyd meddwl a sut maen nhw'n gofalu amdanyn nhw eu hunain.
Mae'r system iechyd meddwl yn gymhleth. Weithiau, gall fod yn anodd cael gafael ar y gwasanaethau sydd eu hangen arnon ni. Efallai y byddwch chi'n gweld y bydd yn rhaid i chi frwydro i gael y cymorth cywir.
Gall ein gwybodaeth am gefnogi rhywun arall i geisio help fod yn ddefnyddiol. Efallai y bydd hefyd yn ddefnyddiol i chi edrych ar ein gwybodaeth am eiriolaeth.
"Er fy mod yn ei helpu gyda'r pethau pob dydd oedd yn ormod iddo, fi, yn feddyliol, oedd ei ofalwr hefyd. Roeddwn i'n brwydro yn erbyn ei feddyliau negyddol bob diwrnod, gan geisio ei berswadio i ddal ati."
Gall gofalu am berson ifanc sydd â phroblem iechyd meddwl greu straen a phryderon ychwanegol. Efallai y byddwch chi'n:
Mae'n gyffredin meddwl, fel rhiant, y dylech fod yn gallu ymdopi. Ond does dim rhaid i chi wneud hyn ar eich pen eich hun ac mae help ar gael. Siaradwch â phobl o'ch cwmpas a gofynnwch am eu help. Os nad oes gennych chi deulu, ffrindiau neu gymuned y gallwch chi droi atyn nhw i gael cymorth, mae opsiynau eraill:
Cyhoeddwyd y wybodaeth hon ym mis Mai 2021. Byddwn yn ei diwygio yn 2024.
References and bibliography available on request.
If you want to reproduce this content, see our permissions and licensing page.