Gwybodaeth am lenwi ffurflenni, asesiadau budd-daliadau a ble i gael gwybod mwy.
Rydyn ni'n gwybod ei bod hi'n anodd cael gafael ar fudd-daliadau. Yn aml, mae'r cyfryngau, neu farn pobl eraill, yn gwneud i bobl deimlo fel petai stigma yn gysylltiedig â budd-daliadau. Mae gan rai pobl gamdybiaethau am pam y mae angen budd-daliadau arnom, ac ar gyfer beth y mae'n nhw'n cael eu defnyddio.
I lawer ohonom sydd â phroblemau iechyd meddwl, gall deimlo fel nad yw'r holl system budd-daliadau wedi'i chynllunio i ddiwallu ein hanghenion.
Ond mae'n bwysig gwybod bod budd-daliadau yno i'ch cefnogi. Mae gennych hawl i'w hawlio os byddwch chi'n cael trafferth ymdopi neu os bydd angen ychydig o gymorth arnoch.
Ac er bod y system yn anodd i'w defnyddio, mae llawer o fannau lle y gallwch chi gael cymorth a gwybodaeth i'ch helpu gyda'ch hawliad. Efallai y bydd y wybodaeth ar y dudalen hon yn eich helpu i ddechrau arni.
"Mae'n iawn hawlio budd-daliadau a gwario arian arnoch chi eich hun. Peidiwch byth â bod ofn ceisio cyngor neu help."
Mae'n bosibl y byddwch chi'n gallu hawlio nifer o fudd-daliadau os oes gennych broblem iechyd meddwl. Gall budd-daliadau eich helpu i dalu am gostau o ddydd i ddydd, fel bwyd, rhent a gofal plant. A gallwch chi hawlio rhai budd-daliadau hyd yn oed os ydych chi'n gweithio. Dysgwch pa fudd-daliadau y gallech chi eu hawlio drwy:
Gwyliwch Laura, Paul a Hameed yn siarad am wneud cais am fudd-daliadau pan oedden nhw'n brwydro â'u hiechyd meddwl. Maen nhw'n siarad am beth wnaeth iddyn nhw benderfynu gwneud cais, sut beth oedd y broses, a beth fydden nhw wedi hoffi ei wybod cyn gwneud cais.
Gwnaeth Hameed, Laura a Paul gais am fudd-daliadau pan oedden nhw'n brwydro â'u hiechyd meddwl.
Gwnaethon nhw eistedd i lawr gyda'i gilydd i drafod y broses.
Laura: A wnaeth unrhyw beth eich dal chi nôl rhag gwneud cais am fudd-daliadau?
Laura: Y stereoteip sydd gan bobl am hawlwyr budd-daliadau, dwi'n meddwl, sef eu bod nhw i gyd, chi'n gwybod, yn lloffwyr, ac yn ddiog, ac roedd ofn arna i y byddai pobl yn meddwl hynny amdana i. Ond mae budd-daliadau yno i helpu pobl pan fyddan nhw mewn angen.
Laura, 31, o Birmingham.
Gwnaeth Laura gais am Daliad Annibyniaeth Personol a Chredyd Cynhwysol.
Laura: Gadawais fy swydd ym mis Mawrth 2020, yn union cyn y pandemig, a gadawais gan fy mod yn dioddef o broblemau iechyd meddwl gwael iawn. Roeddwn i wedi cael diagnosis o anhwylder deubegynol yn ddiweddar. Doedd dim ffordd y byddwn i'n cael swydd yn fuan.
Oherwydd bod gen i orbryder, gwnaeth effeithio ar y broses. Mae'n broses frawychus iawn, yn enwedig os nad ydych chi wedi bod drwyddi o'r blaen. Mae'n teimlo fel petaech chi ar brawf am rywbeth sydd mor ddifrifol i chi, ac mae gorfod ei brofi i rywun arall er mwyn cael budd-dal, mae'n eithaf, mae'n hynod dorcalonnus.
Byddai pobl yn dweud, siarada am sut wyt ti ar dy ddiwrnod gwaethaf, ac roedd hynny'n ddarn defnyddiol iawn iawn o gyngor.
Hameed: Pa mor bwysig oedd cymorth gan gymheiriaid i chi pan oeddech chi'n gwneud cais am fudd-daliadau?
Paul: Rwy'n meddwl mai'r person pwysicaf i fi ar y dechrau oedd fy meddyg teulu siŵr o fod. Hi oedd y cyntaf i ddweud, wyt ti wedi edrych ar fudd-daliadau a phethau tebyg?
Paul, 42, o Swydd Bedford
Gwnaeth Paul gais am Lwfans Cyflogaeth a Chymorth a Thaliad Annibyniaeth Personol.
Paul: Dechreuais drwy gael pyliau o banig, ond roedden nhw'n eithaf difrifol, ac roeddwn i'n eu cael nhw hefyd tra fy mod yn y gwaith. Ceisiais i godi a mynd i'r gwaith un bore a dyna ni, doeddwn i ddim yn gallu. Yn llythrennol, gwnaeth fy nghorff fy stopio. Dywedodd, os nad wyt ti'n gwrando, dwi'n mynd i weithredu ar dy ran. Roeddwn i'n teimlo fel baich ar fy ngwraig gan mai hi oedd yr unig un a oedd yn ennill cyflog, felly roeddwn i'n teimlo'n ofnadwy.
Mae'n broses sy'n achosi straen. Er bod yr Adran Gwaith a Phensiynau, drwy hysbysebion, a phethau fel 'na, yn dweud eu bod nhw yno i helpu, a'u bod nhw yno i'ch cefnogi, dydyn nhw ddim. Maen nhw yno i'ch prosesu chi.
Laura: Beth fyddech chi wedi hoffi ei wybod cyn i chi wneud cais am fudd-daliadau?
Hameed: Beth fydden i'n ei ddweud yw, nid yw pawb nad ydyn nhw'n gweithio yn ddiog. Weithiau gall amgylchiadau atal pobl rhag gweithio. Felly doeddwn i byth yn gallu dychmygu yn fy mhen y bydden i'n ddi-waith.
Hameed, 44, o Fanceinion.
Gwnaeth Hameed gais am Gredyd Cynhwysol a Lwfans Gofalwr.
Hameed: Doeddwn i ddim yn gallu ymdopi â gofalu am fy mam a gweithio'n llawn amser. Roeddwn i'n trio rhannu fy hun yn ddau, ac roeddwn i'n profi rhai anawsterau iechyd meddwl fy hun hefyd. Roeddwn i'n teimlo fy mod i wedi colli fy holl hunaniaeth, sy'n arwain at lefel isel iawn o hunan-barch, sydd yna'n effeithio arnoch chi, yn eich gwneud hyd yn oed yn fwy isel, gan nad oes gennych chi unrhyw reswm dros deimlo'n dda.
Mae'r sgiliau sydd gen i fel gofalwr yr un mor bwysig â chael swydd llawn amser, ac mae'r gwaith yr un mor galed â swydd llawn amser. Felly dwi wedi dechrau croesawu fy nheitl newydd.
Laura: Pa gyngor fyddech chi'n ei roi i rywun sy'n meddwl gwneud cais am fudd-daliadau?
Laura: Ewch amdani. Ewch amdani. Maen nhw yno i'ch helpu chi.
Hameed: Peidiwch â theimlo'n wael am hawlio budd-daliadau y mae gennych hawl iddyn nhw.
Paul: Gwnewch eich gwaith cartref. Gall sefydliadau fel Cyngor Ar Bopeth eistedd i lawr gyda chi ac esbonio'r camau.
Yn Mind, rydyn ni o'r farn y dylai'r system budd-daliadau weithio'n well i bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl.
Ar gyfer y rhan fwyaf o fudd-daliadau, rhaid i chi lenwi ffurflen cyn y gallwch chi gael unrhyw arian.
Gall hyn fod y frawychus, a gallai fod yn anodd gwybod ble i ddechrau. Dyma rai awgrymiadau ar gyfer llenwi ffurflenni:
Dysgwch sut i lenwi'r ffurflen ar gyfer:
"Mae'r ffurflen gais yn achosi cymaint o straen. Roedd wir yn anodd i mi ei llenwi, felly es i i'r ganolfan gwaith a diolch byth gwnaeth y staff fy helpu."
Ar gyfer rhai budd-daliadau, bydd rhaid i chi fynd i asesiad i wneud yn siŵr eich bod chi'n bodloni'r meini prawf i gael y budd-dal hwnnw.
Efallai y byddwch chi'n poeni am yr asesiad, ac mae hynny'n ddealladwy. Mae llawer o bobl wedi dweud wrthym y gall fod yn anodd gwybod beth i'w ddisgwyl yn yr asesiad, neu wybod sut i ateb y cwestiynau.
Dysgwch fwy am beth sy'n digwydd yn yr asesiad ar gyfer:
Darllenwch ein gwybodaeth am sut i reoli straen a gorbryder am asesiadau.
"Po fwyaf yr oeddwn i'n poeni am arian, y mwyaf sâl oeddwn i'n mynd."
Efallai eich bod wedi gwneud cais am fudd-daliadau ac wedi bod yn aflwyddiannus. Gall hyn fod yn rhwystredig, yn enwedig os nad ydych chi'n siŵr pam nad oeddech chi'n gymwys.
Fodd bynnag, gallwch chi apelio yn erbyn penderfyniad os oedd yn anghywir yn eich barn chi. Hyd yn oed os bydd yn teimlo'n annymunol, neu os byddwch chi'n poeni am gael eich gwrthod yr eildro, gall fod yn werthfawr rhoi cynnig arni. Cofiwch, mae hawl gennych i apelio yn erbyn penderfyniad sy'n anghywir yn eich barn chi.
Mae gan y wefan Cyngor Iechyd Meddwl ac Arian fwy o wybodaeth am sut i apelio yn erbyn penderfyniad budd-daliadau.
"Does dim arian gen i. Eto. Mae fy mhen i'n dechrau troi."
Cyhoeddwyd y wybodaeth hon fis Rhagfyr 2021. Byddwn yn ei diwygio yn 2024.
References and bibliography available on request.
If you want to reproduce this content, see our permissions and licensing page.