Anhwylderau personoliaeth
Mae'r adran hon yn egluro anhwylderau personoliaeth, gan gynnwys beth allai achosi hynny a sut gallwch chi gael gafael ar driniaeth a chymorth. Mae'n cynnwys awgrymiadau ar gyfer sut i helpu eich hun, a chanllawiau i ffrindiau a theulu.
Beth ydy anhwylderau personoliaeth?
Casgliad o feddyliau, teimladau ac ymddygiad ydy ein personoliaeth, sy'n gwneud pob un ohonom ni'n unigolion.
Dydyn ni ddim bob amser yn meddwl, yn teimlo ac yn ymddwyn yn yr union un ffordd - mae'n dibynnu ar ein sefyllfa, y bobl sydd gyda ni a nifer o ffactorau cydgysylltiol eraill.
Ond, os ydych chi'n cael anawsterau sylweddol o ran sut berthynas sydd gennych chi â chi'ch hun ac â phobl eraill, ac yn cael problemau ymdopi â bywyd bob dydd, efallai y cewch ddiagnosis o anhwylder personoliaeth.
Mae pawb yn gweiddi arna' i, 'pam wyt ti'n cael popeth mor anodd? Pam na elli di fod yn normal?' ac rydw i'n ceisio egluro fy mod i bob amser ar raff dynn i fyny'n uchel yn yr awyr, ac mae eu traed nhw i gyd ar y ddaear, ond dim ond chwerthin maen nhw.
Beth ydy arwyddion anhwylder personoliaeth?
Efallai y cewch ddiagnosis o anhwylder personoliaeth os ydy pob un o'r rhain yn berthnasol:
- Mae'r ffordd rydych chi'n meddwl, yn teimlo ac yn ymddwyn yn achosi problemau sylweddol i chi neu i bobl eraill o ddydd i ddydd. Er enghraifft, efallai eich bod yn teimlo nad ydych yn gallu ymddiried mewn pobl eraill, neu efallai eich bod yn teimlo'n aml fod pobl wedi eich gadael chi, gan achosi trallod i chi neu i bobl eraill mewn perthnasoedd o ddydd i ddydd.
- Mae sut rydych chi'n meddwl, yn teimlo ac yn ymddwyn yn achosi problemau sylweddol ar draws agweddau gwahanol ar eich bywyd. Er enghraifft, efallai y byddwch yn ei chael hi'n anodd gwneud neu gadw ffrindiau, rheoli eich teimladau a'ch ymddygiad, neu ddod ymlaen â phobl. Mae'n bosib y bydd eich emosiynau'n ddwys, sy'n gwneud iddyn nhw deimlo'n frawychus ac yn llethol weithiau.
- Mae'r problemau hyn yn parhau am amser hir. Mae'n bosib y bydd y patrymau anodd hyn wedi dechrau pan oeddech yn blentyn neu yn eich arddegau, ac mae modd iddyn nhw barhau yn ystod eich bywyd fel oedolyn.
- Dim sylwedd neu gyflwr meddygol yn unig sy'n achosi'r problemau hyn. Er enghraifft, gall defnyddio cyffuriau neu feddyginiaeth wneud i bobl newid, fel y gall effeithiau corfforol profiadau fel trawma i'r pen.
Sut rydw i wedi llwyddo i fyw gydag anhwylder personoliaeth... neu ddau
Dydy [hyn] ddim yn golygu bod rhywbeth o'i le ar fy mhersonoliaeth... Mae'n golygu fy mod i'n meddwl, yn teimlo ac yn ymddwyn yn wahanol i'r rhan fwyaf o bobl.
Y peth pwysig i'w gofio ydy - dydyn ni ddim wedi torri, dim ond ein bod ni'n meddwl yn wahanol a bod ein profiad ni o'r byd yn wahanol... does dim cywilydd mewn gwneud beth bynnag y mae angen i ni ei wneud er mwyn ymdopi â'n hemosiynau mewn ffordd ddiogel a chefnogol.
Pwy all wneud diagnosis o anhwylder personoliaeth i mi?
Dim ond gweithiwr iechyd meddwl proffesiynol sydd â phrofiad o wneud diagnosis a thrin problemau iechyd meddwl all wneud diagnosis o anhwylder personoliaeth i chi. Gall hyn gynnwys seiciatrydd neu seicolegydd - ond dim eich meddyg teulu.
Os byddwch chi'n siarad â'ch meddyg teulu am eich iechyd meddwl, ac os ydy'ch meddyg yn credu bod gennych chi anhwylder personoliaeth, gall eich cyfeirio chi at eich tîm iechyd meddwl cymunedol (CMHT) lleol, a fydd yn gallu eich asesu.
I ddechrau, pan gefais ddiagnosis o BPD, roeddwn i'n gweld hynny'n sarhad, yn feirniadaeth ohonof fi, ond yna dechreuais ddeall mai dim ond diagnosis oedd hynny, ffordd o esbonio pam fy mod i'n teimlo fel rydw i. Yn union fel mewn sefyllfa feddygol, lle byddai cael diagnosis o lid y pendics o ganlyniad i boen yn fy stumog yn golygu fy mod i'n sâl, mae yna reswm dros y boen ac fe alla' i gael triniaeth.
Cyhoeddwyd y wybodaeth hon yn Ionawr 2020. Byddwn yn ei diwygio yn 2023.
Mae cyfeirnodau ar gael. Os dymunwch atgynhyrchu'r wybodaeth hon, ewch i'n tudalen ar ganiatâd a thrwydded.