Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Sut rwy’n delio gyda fy ngorbryder a fy iselder yn ystod y cyfnod ynysu

Dydd Llun, 27 Ebrill 2020 Chloe

Dyma flog gan Chloe o Ferthyr Tudful, sy'n sôn am y modd mae hi'n ymdopi gyda'r straen ar ei hiechyd meddwl yn ystod argyfwng y coronafeirws

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Gymraeg. This link will take you to a Welsh translation of this page.

Mae'n anodd canolbwyntio ar unrhyw beth heblaw am orbryder ar adeg fel hon. Mae pob ymgais i ddatgysylltu neu gymryd egwyl o'r panig a'r gorbryder yn teimlo fel naid yn ddyfnach fyth i'r entrychion. Ar rai diwrnodau, rwy'n gallu ymdopi. Rwy'n treulio fy niwrnod yn gwylio ffilm rwy' bob amser wedi eisiau gwylio, neu ddarllen llyfr newydd, neu hyd yn oed wrando ar gerddoriaeth. Mae'r diwrnodau hynny'n rhai iawn - dydy diwrnodau 'da' ddim wir yn bosib ar hyn o bryd. Ar y diwrnodau gorau hyd yn oed, mae byw gydag iselder a gorbryder yn fy ngadael i â phoenau yn fy mrest wrth i fi boeni am fynd allan. Felly ar hyn o bryd, mae popeth yn teimlo fel her.

Bob nos, rwy' wedi dweud wrth fy hun "Fe af i am dro yfory, i glirio fy mhen", ond wedyn mae'r dydd yn dod ac rwy'n teimlo wal o emosiynau o fy mlaen - rwy'n teimlo euogrwydd am fynd allan pan ddylai pawb fod yn aros i mewn, yn ogystal ag am fynd allan pan ddylwn i fod yn y gwaith. Rwy'n teimlo'n ofnus ynghylch beth fyddai'n ei weld - beth ydw i'n mynd i wneud os ydw i'n gweld grŵp o bedwar neu bum person gyda'i gilydd wrth i fi fynd am dro? Cyn hyn, byddai gweld pedwar neu bum person gyda'i gilydd yn gwneud i fi bryderu y bydden nhw'n chwerthin arnaf i ac yn cadarnhau'r ddelwedd sydd gen i o fy hun - rhyw ffug berson mewn gwisg o grys-t a leggins, yn gwisgo gormod o golur i fynd allan am dro am hanner awr. Ond bellach, mae hyn wedi newid i rywbeth newydd, estron. Y pryder newydd yw nad ydyn nhw'n dilyn y canllawiau, nad oes ots gyda nhw beth fydd canlyniadau eu gweithredoedd, a'u bod nhw'n teimlo'r un peth amdanaf i. Mae'n anodd peidio ceisio brysio tra fy mod i allan am dro, ond wedyn rwy'n colli'r nod oedd gen i o glirio fy mhen, gan fy mod i'n cerdded yn gyflym i osgoi pawb a phopeth, a'r holl bryderon sy'n dod gyda hynny.

Mae fy nhaith siopa wythnosol yn brofiad tebyg. Mae'r pryderon sydd gen i wrth fynd allan wedi cynyddu, ac rwy'n teimlo fy hun yn mynd yn grac gyda phobl am beidio dilyn y canllawiau a'r rheolau cyfredol. Pan ddaeth dyn i stop yn sydyn o fy mlaen i edrych ar dun o bys, llenwais gyda dicter. Rhag ei gywilydd yn rhoi fy mywyd i mewn perygl, mor sydyn, mewn ffordd mor hunanol! Rydw i wedi gadael pob siop yn llawn dagrau, gan drio fy ngorau i esbonio wrth fy nghariad nad yw rhai pobl yn poeni am bobl eraill a'u diogelwch. Mae fy ngorbryder wedi cyrraedd lefelau newydd, o achos rhywbeth sydd allan o'n dwylo ni. 

Ar hyn o bryd, mae fy iechyd meddwl yn gwneud y gwrthwyneb i'r hyn mae pawb yn ei wneud.

Ar hyn o bryd, mae fy iechyd meddwl yn gwneud y gwrthwyneb i'r hyn mae pawb yn ei wneud. Dydy e ddim yn hunan-ynysu, na'n gweithio'n dawel o adref. Mae'n gweiddi, yn cicio drysau i lawr, yn crwydro allan yn rhydd. Ar rai diwrnodau, bydd yn eistedd yn dawel am gyfnod cyn dychwelyd wrth i fi wylio'r newyddion a chlywed am gyfanswm y marwolaethau, ond ar ddiwrnodau eraill mae'n hollbresennol. Rwy'n dihuno ac yn dechrau poeni, yn teimlo'n wag ac yna'n gwastraffu'r diwrnod sydd o fy mlaen, heb gynnal unrhyw rwtîn. 

Ond rwy' wedi bod yn ceisio brwydro hyn, un dydd ar y tro. Rwy'n ceisio anadlu'n ddwfn ac atgoffa fy hun fy mod i'n gwneud pethau fel y dylwn i, a fy mod i'n dilyn y canllawiau. Wrth fynd am dro, neu i'r siop, yr unig beth alla' i wneud yw atgoffa fy hun fy mod i'n gwneud fy ngorau. 

Bob bore rwy'n dweud wrth fy hun 'rwy'n mynd i wneud hyn heddiw

Pan fyddaf gartref, rwy'n ceisio rheoli fy iechyd meddwl yn ddyddiol. Mae fy nghariad yn gweithio gartref, ac rwy'n ceisio cynllunio fy niwrnod mewn ffordd debyg i'w un e. Rwy'n gwneud cynllun bras heb osod amseroedd penodol i'r tasgau, gan fyddai hyn yn ormod, ond bob bore rwy'n dweud wrth fy hun 'rwy'n mynd i wneud hyn heddiw'. Mae'n frawddeg fer, ond yn llawn posibiliadau. 

"Heddiw, rwy'n mynd i wisgo dillad sy'n fy ngwneud i'n hapus, a gwneud i fi deimlo'n rhydd."

"Heddiw, rwy'n mynd i ddechrau gwylio'r rhaglen rwy' bob amser wedi eisiau gwylio, a pheidio teimlo'n euog am wastraffu amser."

"Heddiw, rwy'n mynd i fwynhau'r amser rwy' mynd i'w dreulio yn y byd newydd hwn."

"Heddiw, rwy'n mynd i ailwrando ar gerddoriaeth rwy'n ei mwynhau, neu ddod o hyd i rywbeth newydd."

"Heddiw, rwy'n mynd i eistedd yn yr ardd, ac yn lle mynd yn grac bod y gwynt yn chwythu fy ngwallt yn fy wyneb, rwy'n mynd i werthfawrogi bod y byd yn dal i droi, er gwaethaf sefyllfa'r rhan fwyaf ohonom ni ar hyn o bryd."

"Heddiw, rwy'n mynd i ymgeisio am swyddi, achos efallai bod eistedd adref yn amser da i ddarganfod beth yw fy nghryfderau."

"Heddiw, rwy'n mynd i beidio â bod yn galed ar fy hun am beidio mynd allan - weithiau, dydw i ddim yn gallu helpu'r peth."

"Heddiw, rwy'n mynd i fwynhau fy nghoffi, a gadael fy hun i chwerthin ar y jôcs twp mae fy nghariad yn eu dweud, gan ei fod e'n trio gwneud i fi wenu."

"Heddiw, dydw i ddim yn mynd i deimlo'n euog dros bobl eraill, neu am fy newisiadau, gan fy mod i'n gwneud y rhai cywir i fi."

"Heddiw, dydw i ddim yn mynd i gosbi fy hun am rywbeth sy'n helpu achub bywydau."

Wrth i ni barhau trwy'r cyfnod cyfnewidiol a phryderus hwn, rwy'n ceisio canolbwyntio ar bob un dydd ar y tro, a'r hyn y gallaf ei gyflawni mewn diwrnod. Gall fod mor syml a phwerus â chodi yn y bore, agor y llenni, ymolchi, ac wedyn mynd yn ôl i'r gwely'n syth i wylio fy hoff raglenni, darllen llyfr newydd neu gadw mewn cysylltiad gyda phobl ar lein. Dim ond trwy fynd o ddiwrnod i ddiwrnod y gallaf i weithio trwy'r cyfnod hwn o'n bywydau, gan wneud dewisiadau dros fy hun a'u rhoi ar waith. Rwy'n gobeithio y byddwch chi hefyd yn gwneud hyn dros eich hunain heddiw.

 

Mae Chloe'n byw yng Nghaerdydd ac yn treulio'r rhan fwyaf o'i hamser gyda chath dew ei chariad. Enw'r gath yw Macy Gray. Mae'n hoff o wylio gormod o ffilmiau o lawer, gwrando ar bodlediadau ar drosedd, ac ennill cwisiau mewn tafarndai gyda'i holl wybodaeth sy'n dda i ddim byd arall!  

For more information on coping with the coronavirus crisis take a look at our info page.

 

Share your story with others

Blogs and stories can show that people with mental health problems are cared about, understood and listened to. We can use it to challenge the status quo and change attitudes.

arrow_upwardYn ôl i'r brig