Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Sut mae Monitro Gweithredol wedi fy helpu i daclo fy mhryder

Dydd Mawrth, 25 Mai 2021 Chetan

Mae Chetan, o Hwlffordd, yn egluro sut roedd y gwasanaeth Monitro Gweithredol wedi ei helpu i ymdopi gyda stres a phryder.

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Gymraeg. This link will take you to a Welsh translation of this page.

Rwy’ wastad wedi meddwl amdanaf i fy hun fel dyn hyderus iawn. Doeddwn i erioed wedi cael problemau iechyd meddwl o'r blaen, nes i syniadau pryderus ddechrau ymyrryd â'm bywyd y llynedd. Roedd yn deimlad anghyfarwydd iawn i mi, dioddef gyda hwyliau gwael a chael fy llethu'n llwyr gan gymaint o bethau oedd yn achosi stres i mi.
Mae yna, yn bendant, stigma’n dal ynghylch iechyd meddwl, yn enwedig i ddynion. Mae’n anos bod yn agored, ac mae yna lawer iawn llai o gyfleoedd i ni gydnabod ein teimladau.

Fel rhan o’m hyfforddiant i ddod yn feddyg teulu, roeddwn i’n aml yn argymell Monitro Gweithredol i’m cleifion oedd yn dod i mewn gyda phroblemau iechyd meddwl ysgafn i gymedrol, felly, un diwrnod, dyma fi’n penderfynu rhoi tro arno fy hunan.
Rhaglen hunan gymorth o dan arweiniad yw Monitro Gweithredol sy'n gallu helpu pobl i ddygymod gyda llawer o wahanol broblemau iechyd meddwl, gan gynnwys stres, galar a cholled, iselder a mwy. Mae’n eich galluogi i reoli eich teimladau ac rydych chi’n cael help bob wythnos gan eich ymarferwr Mind lleol.

Roedd fy argraffiadau'n rhai da. Roeddwn i’n falch fod fy ymarferydd wedi cael ei hyfforddi cystal – roedd hi’n canolbwyntio ar gynllun strategol i ni weithio gyda’n gilydd, ac fe benderfynon ni weithio ar y rhan o’r rhaglen sy’n canolbwyntio ar bryder i helpu gyda sut roeddwn i'n teimlo fy mod wedi cael fy llethu cymaint. Roedd hi mor wybodus a chymwynasgar, ac roedd hi'n wych cael rhywun yna i wrando. Fe ddechreuais i deimlo’n wahanol bron ar unwaith.

Y newid mwyaf oedd pan oeddwn i’n cydnabod fy mhryder, roedd yn hawdd gweld sut yn union roedd wedi effeithio arnaf i.


Roedd hynny'n fy ngalluogi i a’m hymarferwr i ganfod ymyriadau a fyddai’n gweithio i mi. I mi, roedd ymwybyddiaeth yn help enfawr i mi allu dygymod â'm pryder o ddydd i ddydd.
O'r blaen, roedd fy meddyliau pryderus yn gwneud popeth mor anodd. Roeddwn i’n gwybod fy mod i’n dda wrth fy ngwaith, ond roedd hynny'n yn llawer mwy anodd pan oedd yn rhaid i mi, yr un pryd, geisio gael trefn ar y teimladau hynny.

Pan ddechreuais i ar Monitro Gweithredol, roedd fel cael rhyddhad sydyn – roeddwn i’n gallu anadlu’n haws, ac roeddwn i’n gallu rheoli fy nyddiau'n well.

Fe fyddwn i, yn bendant, yn argymell Monitro Gweithredol i unrhyw un arall sy’n dioddef gyda theimladau o bryder neu stres fel roeddwn i.
Rwy’n meddwl y dylai gwasanaeth fel hwn fod ar gael i bawb – gyda gorfod aros yn hir am gefnogaeth iechyd meddwl, byddai’n wych pe byddai pawb yn cael ymarferwr wedi’i hyfforddi wrth law i drafod unrhyw broblem iechyd meddwl allai fod ganddyn nhw. Rwy’ hefyd wedi cael ymateb gwych gan y cleifion rydw i wedi argymell Monitro Gweithredol iddyn nhw, oedd yn wych i'w weld. Y peth pwysicaf yw ei fod yn helpu i ymladd yn erbyn y stigma o broblemau iechyd meddwl – rwy’n falch fy mod i wedi gofyn am gymorth yr adeg hynny.

Mae Chetan yn byw yn Hwlffordd ac yn hyfforddi i fod yn feddyg teulu.

Os ydych chi'n byw yng Nghymru a thros 18 oed, gall Monitro Gweithredol eich helpu chi i reoli a chael trefn ar eich teimladau. Mae’r cwrs hunan gymorth gydag arweiniad yn gallu helpu gydag unrhyw un o’r canlynol:

  • Pryder
  • Iselder / Teimlo’n isel
  • Hunan-barch
  • Stres
  • Teimlo’n unig
  • Rheoli dicter
  •  Galar a cholled

 

Pob wythnos, bydd Ymarferydd Monitro Gweithredol yn anfon gwybodaeth a gweithlyfrau ac yn ffonio i gynnig cefnogaeth ac arweiniad.

Cofrestrwch ar gyfer Monitro Gweithredol heddiw.

Information and support

When you’re living with a mental health problem, or supporting someone who is, having access to the right information - about a condition, treatment options, or practical issues - is vital. Visit our information pages to find out more.

 

Share your story with others

Blogs and stories can show that people with mental health problems are cared about, understood and listened to. We can use it to challenge the status quo and change attitudes.

arrow_upwardYn ôl i'r brig