Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd
Bydd Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd 2023 yn cael ei gynnal ar 10 Hydref. Mae’n ddiwrnod i godi ymwybyddiaeth o broblemau iechyd meddwl.
Ond mae mwy a mwy ohonom ni’n ymwybodol o iechyd meddwl. A dydy llawer ohonom ni’n dal ddim yn cael y cymorth iawn.
Dim ond dechrau'r daith yw ymwybyddiaeth. Nawr mae'n bryd gweithredu.
Gweithredwch
Dywedwch wrth lywodraeth y DU am gyhoeddi’r Ddeddf Iechyd Meddwl
Mae ysbytai iechyd meddwl ar eu gliniau. Mae’r adeiladau’n dirywio. Mae’r wardiau’n aml yn foel, yn oer ac mewn cyflwr gwael. Ac mae lleisiau pobl yn cael eu hanwybyddu.
Ar ben hynny, rydym yn dal i aros i lywodraeth y DU ddiwygio’r Ddeddf Iechyd Meddwl, a gyflwynwyd 40 mlynedd yn ôl, er mwyn i bobl gael mwy o lais yn eu triniaeth ac er mwyn cryfhau eu hawliau pan fyddan nhw yn yr ysbyty.
Rhaid i lywodraeth y DU gyflwyno Deddf Iechyd Meddwl ddiwygiedig cyn yr etholiad nesaf.
Gweithredwch, ac ychwanegwch eich llais chi at yr ymgyrch heddiw.
Cael cymorth
Rydyn ni yma i chi. Ar Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd eleni, gweithredwch drwy roi eich hun yn gyntaf. Gofynnwch am help.
Cyfrannu neu godi arian
Ar Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd eleni, mae'n bryd gweithredu. Cyfrannwch heddiw am y cyfle i gael rhywbeth arbennig o'n casgliad Mind.
Gallwch lwytho i lawr ddeunyddiau Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd
Gallwch lwytho i lawr graffeg ar gyfer cyfryngau cymdeithasol, posteri a chefndiroedd Zoom. Helpwch ni i godi ymwybyddiaeth. A gofynnwch i bobl weithredu.
Siaradwch â ni
Eisiau cymorth ar gyfer iechyd meddwl? Ffoniwch ein llinell wybodaeth gyfrinachol i siarad ag ymgynghorydd cyfeillgar, neu edrychwch ar ein tudalennau gwybodaeth.
Ein cymuned ar-lein
Mae Side by Side yn gymuned ar-lein gefnogol lle gallwch chi gysylltu â phobl eraill sy’n deall beth rydych chi’n mynd drwyddo.
Cymorth lleol
Mae gwasanaethau lleol Mind yn elusennau annibynnol sy’n gweithio ledled Cymru a Lloegr. Maen nhw’n darparu gwasanaethau sydd wedi’u teilwra i’w cymuned leol.
"Fe wnes i geisio delio â'r sefyllfa ar fy mhen fy hun, a methu. Dw i eisiau i bobl wybod bod Mind yno i’w helpu, ac os gallan nhw wynebu eu problemau’n gynnar, efallai na fyddan nhw’n dioddef am gymaint o amser â fi."
Mae Jasmine yn blogio am y ffordd mae Mind wedi ei helpu hi a’i mam gyda’u hiechyd meddwl.