Mind Cymru looks forward to new mental health strategy for Wales
Posted Friday 19 October 2012
The Welsh Government’s new ten year strategy for mental health in Wales – ‘Together for Mental Health’ – will be launched on Monday 22 October 2012.
Unlike previous strategies which addressed mental illness, ‘Together for Mental Health’ will focus on improving the mental health and wellbeing of everyone in Wales. It also recognises that mental health and wellbeing impact on all areas of people’s lives including education and training, housing, and finance. For this reason, the strategy will work across Welsh Government departments. The strategy covers people of all ages, from children to people of working age to older people.
Lindsay Foyster, Director of Mind Cymru, said:
Discussions around the development of the new Welsh Government strategy have been positive. Mind Cymru has been involved in helping to develop aspects of it. We were pleased with the draft strategy’s emphasis on ‘outcomes’, trying to make sure that this strategy changes real people’s lives for the better.
Mental health problems can happen to anyone. One in four people will experience a mental health problem in any one year. For this reason, we welcome the planned focus on the wellbeing of everyone in Wales where people will be better informed about mental health and how to get help if they need it.
We also hope to see services that are better able to respond to the diverse needs of different groups of people across Wales, including Welsh-speaking communities and BME communities.
Mind Cymru yn edrych ymlaen at strategaeth iechyd meddwl newydd i Gymru
Caiff strategaeth deng mlynedd newydd Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd meddwl yng Nghymru - 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl' - ei lansio ddydd Llun 22 Hydref 2012.
Yn wahanol i strategaethau blaenorol, a oedd yn ymdrin â salwch meddwl, bydd 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl' yn canolbwyntio ar wella iechyd meddwl a lles pawb yng Nghymru. Mae hefyd yn cydnabod bod iechyd meddwl a lles yn effeithio ar bob maes o fywyd pobl gan gynnwys addysg a hyfforddiant, tai a chyllid. I'r perwyl hwn, bydd y strategaeth yn gweithio ar draws adrannau Llywodraeth Cymru. Mae'r strategaeth yn berthnasol i bobl o bob oedran, o blant i bobl o oedran gweithio i bobl hŷn.
Dywedodd Lindsay Foyster, Cyfarwyddwr Mind Cymru:
Bu'r trafodaethau ynghylch datblygu strategaeth newydd Llywodraeth Cymru yn gadarnhaol. Mae Mind Cymru wedi bod yn ymwneud â helpu i ddatblygu agweddau arni. Roeddem yn falch o weld pwyslais y strategaeth ddrafft ar 'ganlyniadau', gan geisio sicrhau bod y strategaeth hon yn newid bywydau pobl go iawn er gwell.
Gall problemau iechyd meddwl ddigwydd i unrhyw un. Bydd un o bob pedwar unigolyn yn cael problem iechyd meddwl yn ystod unrhyw flwyddyn benodol. I'r perwyl hwn, rydym yn croesawu'r ffocws arfaethedig ar les pawb yng Nghymru lle y bydd pobl yn cael mwy o wybodaeth am iechyd meddwl a sut i gael help os bydd ei angen arnynt.
Rydym hefyd yn gobeithio gweld gwasanaethau sydd mewn gwell sefyllfa i ymateb i anghenion amrywiol grwpiau gwahanol o bobl ledled Cymru, gan gynnwys cymunedau Cymraeg eu hiaith a chymunedau o bobl dduon a lleiafrifoedd ethnig.