Close
Mind homeMind CymruNews

Calling all Welsh-speakers - free media training

Posted Wednesday 22 August 2012

We’re delighted to announce that Mind Cymru has been given a grant by Estyn Llaw to increase our number of Welsh-speaking media volunteers. 

Mind Cymru media volunteers are people who have had training in being interviewed for radio or TV.  They talk about their own experiences of mental health problems and the issues involved.  This could mean everyday life, good or bad services, having overcome challenges or faced discrimination.  Media volunteers aren’t asked to speak on behalf of Mind Cymru or about policy issues, just to tell their own stories of what life is like.

When an opportunity to take part in a media story comes up, someone from Mind Cymru contacts our media volunteers to see if they are interested in being involved.  (Mind Cymru never gives people’s contact details to journalists without their agreement.) Being a media volunteer doesn’t mean people have to agree to every request – it’s perfectly fine for people to say no if they’re busy or just don’t feel like it.

Other media volunteers have told us that the media training day itself is interesting and good fun. We’re running one session in Cardiff and another in Wrexham and will pay the travel costs of people taking part. 

Your Welsh doesn’t have to be ‘perfect’ – our friends in media departments tell us that people worry about this far too much.  As long as you’re willing to have a go at talking about issues in Welsh, we’d love to hear from you.

To find out more, please contact Rachel Bowen (Welsh learner) on 029 2034 6588 email: r.bowen@mind.org.uk

logo estyn llaw 300dpi

 








Yn galw ar siaradwyr Cymraeg - hyfforddiant yn y cyfryngau am ddim

Mae'n bleser mawr gennym gyhoeddi bod Mind Cymru wedi cael grant gan Estyn Llaw i gynyddu nifer y gwirfoddolwyr yn y cyfryngau sy'n siarad Cymraeg. 

Mae gwirfoddolwyr yn y cyfryngau Mind Cymru yn bobl sydd wedi cael hyfforddiant gogyfer â chael eu cyfweld ar gyfer y radio neu'r teledu. Maen nhw'n siarad am eu profiadau eu hunain o broblemau iechyd meddwl a materion cysylltiedig. Gallai hyn olygu bywyd bob dydd, gwasanaethau da neu wael, yr heriau a oresgynnwyd neu'r achosion o wahaniaethu a wynebwyd ganddyn nhw. Ni ofynnir i wirfoddolwyr yn y cyfryngau siarad ar ran Mind Cymru nac am faterion polisi, dim ond adrodd eu straeon eu hunain am eu bywyd.

Pan ddaw cyfle i gymryd rhan mewn stori yn y cyfryngau, mae rhywun o Mind Cymru yn cysylltu â'n gwirfoddolwyr yn y cyfryngau i weld a oes diddordeb ganddyn nhw mewn cymryd rhan. (Nid yw Mind Cymru byth yn rhoi manylion cyswllt pobl i newyddiadurwyr heb gael eu caniatâd.) Nid yw bod yn wirfoddolwr yn y cyfryngau yn golygu bod yn rhaid i chi gytuno i bob cais - mae'n berffaith iawn i bobl ddweud na os ydyn nhw'n brysur neu os nad oes awydd ganddyn nhw i gymryd rhan.

Mae gwirfoddolwr eraill yn y cyfryngau wedi dweud wrthym fod y diwrnod hyfforddiant yn y cyfryngau yn ddiddorol ac yn hwyl. Rydym yn cynnal un sesiwn yng Nghaerdydd ac un arall yn Wrecsam a byddwn yn talu costau teithio'r bobl sy'n cymryd rhan.

Nid oes rhaid i'ch Cymraeg fod yn 'berffaith' - mae ein cydweithwyr mewn adrannau'r cyfryngau yn dweud wrthym fod pobl yn poeni llawer gormod am hyn. Felly, os ydych chi'n barod i roi cynnig ar siarad am faterion yn Gymraeg, byddem wrth ein bodd i glywed gennych.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Rachel Bowen (sydd wrthi'n dysgu Cymraeg) ar 029 2034 6588 drwy e-bostio: r.bowen@mind.org.uk

<  Return to news

You might also like…

Filter by category