Close
Mind homeTudalen gartref Mind CymruAmser i Newid Cymru

Amser i Newid Cymru yw ymgyrch gynhwysfawr gyntaf Cymru gyfan i herio'r stigma a'r gwahaniaethu y gall pobl â phroblemau iechyd meddwl eu hwynebu.

Gan adeiladu ar sylfeini Time To Change (Lloegr), ariannwyd yr ymgyrch am dair blynedd gan y Gronfa Loteri Fawr, Comic Relief a Llywodraeth Cymru. Mae'n bleser mawr gan Mind Cymru gydweithio â Hafal a Gofal fel y tair elusen sy'n llywio Amser i Newid Cymru.

Gallwch gael gwybod llawer mwy am lansio ymgyrch Amser i Newid Cymru yn y papur briffio a gynhyrchwyd gennym, sydd ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Gallwch hefyd gael gwybod mwy am ymgyrch Amser i Newid Cymru ar wefan Amser i Newid Cymru.