Close
Mind homeTudalen gartref Mind CymruTîm gwirfoddoliStori Marina

Dwi wedi bod yn gwirfoddoli yn Mind Cymru am tua dwy flynedd a dwi wedi mwynhau'r profiad gwaith a'r awyrgylch hyfryd gyda staff cyfeillgar.

Mae wedi fy helpu i gymdeithasu eto ac mae wedi cynyddu fy hyder, oedd yn isel iawn.

Dwi wedi derbyn hyfforddiant i ddod yn hyfforddwr mewn Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl a dwi bellach yn teimlo mod i'n gallu dychwelyd i'r gwaith ar ôl cyfnod hir o salwch.

Roeddwn yn falch iawn o glywed fy mod wedi cael y swydd o Gydlynydd Rhanbarthol Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl (MHFA) gan gynorthwyo gyda hyrwyddo, datblygu a chydlynu'r rhaglen MHFA ar draws De Cymru. O'r diwedd dwi'n ôl yn y gwaith ar ôl cyfnod anodd iawn o salwch a barhaodd am rai blynyddoedd.