Ydych chi'n gwybod sut deimlad yw deffro yn y bore a meddwl 'mae'n rhaid i mi fwyta' ac yna teimlo'n sâl wrth feddwl am fwyta er nad ydych wedi bwyta ers 5 diwrnod. Rydych eisiau mynd i'r toiled sydd drws nesaf i'r ystafell wely, ond mae fel pe bai filltiroedd i ffwrdd pan fydd
wch yn y diwedd yn mynd yn ôl i'r gwely yn chwil ac wedi ymladd. Mae eich partner yn eich caru ond mae'n ddryslyd; mae'n eich caru ond dydy ef/hi ddim yn eich deall. Mae eich meddyg teulu yn poeni ond mae'n edrych yn gyson ar y cloc. Mae eich ffrindiau yn dweud wrthych am 'hel eich hun at eich gilydd'. Rydych eisiau sgrechian - 'pe taswn i'n gallu fe faswn i'.
Dyna'r cyflwr yr oeddwn i ynddo pan ddechreuais wirfoddoli i Mind Cymru' Roeddent yn fy anfon i gynadleddau a chyrsiau a sylweddolais nad fi oedd yr unig berson yn y byd oedd yn cael profiadau fel hyn. Roedd eraill yn cydymdeimlo â fi. Doedd gen i ddim cywilydd o siarad am fy mhroblemau- salwch ydy o. Mae pobl yn fy stopio ar y stryd ac yn siarad gyda fi oherwydd eu bod wedi clywed fy mod yn ymwneud â iechyd meddwl. Mae cymaint o bobl sydd yn ofni siarad ond oherwydd fy mod yn wirfoddolwr yn Mind Cymru mae nhw'n siarad gyda mi. Mae'n bosib fy mod yn ased i Mind Cymru erbyn hyn ond yr unig beth dwi'n ei wneud ydy ad-dalu'r cariad, caredigrwydd a'r amynedd y gwnaeth Mind Cymru eu dangos i mi pan oeddwn ei angen.