Close
Mind homeTudalen gartref Mind CymruTîm gwirfoddoli

Tîm gwirfoddoli

Mae gan Mind Cymru dîm bychan o wirfoddolwyr. Mae gan pob gwirfoddolwr ei brofiad ei hun o anhwylder meddyliol.

Mae gwirfoddolwyr yn cymryd rhan am amrywiol resymau, adeiladu hyder, profiad o weithle swyddfa mewn amgylchedd diogel, dysgu sgiliau defnyddiol, helpu Mind Cymru i ddatblygu pob agwedd o'i waith yn cynnwys digwyddiadau, hyfforddiant, ymgyrchu a gweinyddu. Mae Mind Cymru yn gwerthfawrogi ei dîm o wirfoddolwyr. Dywed Steve sydd wedi bod yn gwirfoddoli ers Awst 2008, 'mae bod yn wirfoddolwr yma yn gwneud i mi deimlo'n dda; heddiw mae gennyf rywbeth i'w wneud; mae fel ennill bingo!'

Os oes diddordeb gennych mewn gwirfoddoli yn Mind Cymru anfonwch e-bost gyda'ch enw a'ch manylion cyswllt a disgrifiad byr o'r math o waith gwirfoddoli yr hoffech ei wneud.

Storiau Gwirfoddolwyr
Geoff | Katherine | Marina