Close
Mind homeTudalen gartref Mind CymruStraeon Digidol

Straeon Digidol

Mae straeon digidol yn ffordd wych o herio stigma a chwalu rhwystrau. Mae gan bawb stori i'w rhannu.

Cred Mind Cymru fod straeon pobl yn ffordd bwerus o herio mythau a stigma a dangos bod iechyd meddwl yn effeithio ar 'bobl go iawn'.  Gall darllen paragraff am brofiadau pobl ein helpu i ddeall yr heriau y maent wedi'u hwynebu ond mae gwylio ffilm amdanynt a chlywed eu lleisiau yn ein helpu i gysylltu â nhw.

Gall straeon digidol ddangos sut mae pobl yn goresgyn eu problemau, profi y gallwn wella o broblemau iechyd meddwl a'n helpu i sylweddoli nad yw'n profiad ni yn unigryw.

Gall creu stori ddigidol fod yn broses gathartig, gan helpu pobl wrth iddynt wella a hefyd ddatblygu hunan fynegiant, hyder a hunan barch. Cafodd y bobl a welir yn y straeon digidol hyn gyfle i ddweud eu stori. Bellach mae gennym ffilmiau pwerus ac ysbrydoledig sy'n ffordd o ymgyrchu dros newid drwy symud tuag at ganfyddiad mwy cadarnhaol o iechyd meddwl.

Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am y Straeon Digidol a lansiwyd eleni ar 1 Mawrth 2012

Cliciwch yma i weld Straeon Digidol eleni

You might also like…