Close
Mind homeTudalen gartref Mind CymruGwybodaeth amdanom ni

Gwybodaeth amdanom ni

Mae popeth yr ydym yn ei wneud yn Mind Cymru yn deillio o brofiad pobl sydd wedi dioddef o bryder meddwl. Rydym yn rhoi gwerth ar amrywiaeth, ac yn sicrhau bod cynhwysiant yn rhan hanfodol o’n gwaith.

Mind Cymru yw swyddfa Mind yng Nghymru. Swyddfa Mind Cymru sy’n gyfrifol am gynnal ymgyrchoedd dros hawliau pobl sy’n dioddef bryder meddwl ym mhob rhan o Gymru.

Bydd Mind Cymru yn cynnig cynhaliaeth a chyngor i gymdeithasau lleol Mind ar faterion megis cyllido, safonau ansawdd, arferion da ac effeithiolrwydd trefniadol.

Ers 1973 bu Mind Cymru yn bartner ac yn sylwebydd dylanwadol ar ddatblygu polisi iechyd meddwl a gofal cymunedol yng Nghymru. Bu’n gweithio’n agos gyda Chynulliad Cymru, asiantaethau gwirfoddol a statudol eraill, ac Unedau Polisi, Cyfreithiol a Seneddol Mind.

Sut i gysylltu â ni

Mind Cymru
Llawr 3, Tŷ Quebec
Pont-y-Castell
Heol Ddwyrain y bontfaen
Caerdydd CF11 9AB
T: 02920 395 123
F: 02920 346 585
e: contactwales@mind.org.uk