Mind home › Mind Cymru › Digwyddiadau

Digwyddiadau

Mae Mind Cymru yn cynnal digwyddiadau ledled Cymru lle rydym yn gwrando ar bobl â phroblemau iechyd meddwl er mwyn cael gwybod beth yw'r materion presennol yn y maes. Mae barn ffrindiau ac aelodau o'r teulu yn bwysig i ni hefyd.

Yma cewch wybodaeth am ddigwyddiadau sydd i ddod; cynadleddau, arddangosfeydd, grwpiau ffocws a mwy.

Ynghyd â rhestrau o holl ddigwyddiadau diweddaraf Mind Cymru, gallwch gael gwybod am y digwyddiadau yn eich ardal a all fod yn berthnasol i chi.

Yn Dod Yn Fuan

Tachwedd 2011

Sgyrsiau Gwrando am wasanaethau iechyd meddwl yn eich ardal a'ch profiadau o fyw yno.

Rydym am wybod beth sy'n digwydd i'ch gwasanaethau lleol, beth sy'n dda, beth sy'n wael a beth sydd ar goll.

Rydym yn clywed cryn dipyn am Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2011 - sef menter newydd gan y Llywodraeth a fydd yn ymwneud â gwasanaethau ychwanegol newydd ledled Cymru.

Byddwn yn cynnal wyth digwyddiad ledled Cymru ym mis Tachwedd er mwyn rhoi'r cyfle i chi fynegi eich barn. Am ragor o wybodaeth ac i gael ffurflen archebu, ewch i'r dudalen Sgyrsiau Gwrando.

Share |
Back to top ↑