A hoffech chi fod yn rhan o dîm deinamig a fydd yn llunio dyfodol Mind Cymru ac yn gwella bywydau pobl â thrallod meddwl?
Mae pwyllgor llywodraethu Mind Cymru, Pwyllgor Cymru, yn cynnal etholiadau sy'n dechrau ym mis Mehefin 2011. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ffurflenni etholiad yw 5pm ddydd Gwener 2 Medi 2011.
Rydym yn chwilio am bobl sydd yn:
Croesawn yn arbennig aelodau o gefndiroedd amrywiol a chyda phrofiad o drallod meddwl. Mae'n ofynnol i 50% o aelodau Pwyllgor Cymru o leiaf fod wedi cael profiad o drallod meddwl. Hoffem annog pawb sydd â diddordeb i wneud cais ac yn arbennig os ydych o dan 29 oed neu os oes gennych ddiddordeb yn yr iaith Gymraeg.
Yn gyfnewid am hynny bydd Mind Cymru yn rhoi'r canlynol i chi:
Cyfnod ymsefydlu a ffolder ymsefydlu.
Os oes gennych ddiddordeb mewn enwebu eich hun neu rywun arall ar gyfer yr etholiad anfonwch e-bost i a.parker@mind.org.uk a byddwn yn anfon pecyn etholiad atoch. Nodwch fod yn rhaid i chi gael caniatâd rhywun yn gyntaf cyn ei enwebu. Os oes gennych unrhyw ymholiadau am yr etholiad anfonwch hwy i'r un cyfeiriad e-bost.