Close
Mind homeTudalen gartref Mind CymruAm Mind CymruPwyllgor CymruPwyllgor Cymru yn etholiadau 2012

Hoffech lywio dyfodol Mind Cymru a gwella bywydau pobl â phroblemau iechyd meddwl?

Os ydych yn aelod o Mind a bod gennych chi'r brwdfrydedd a'r ymrwymiad sydd ei angen i ymuno â Phwyllgor Cymru - hoffem glywed gennych.

Fel aelod o'r pwyllgor llywodraethu, bydd angen i chi feddu ar wybodaeth am iechyd meddwl a bod â diddordeb ynddo. Dylech ddeall a gwerthfawrogi'r egwyddorion sy'n sail i gynnwys defnyddwyr a'r broses o wneud hynny.

Hefyd bydd angen i chi:

  • feddwl yn strategol ac yn greadigol
  • cyfathrebu mewn ffordd glir a sensitif mewn grwpiau trafod mawr
  • arddel barn annibynnol i wneud penderfyniadau ar ran y sefydliad
  • bodloni'r meini prawf a nodir yn y fanyleb person

Rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth ac yn croesawu diddordeb gan bobl o bob cefndir sydd â phrofiad uniongyrchol neu anuniongyrchol o broblemau iechyd meddwl.

Cynhelir cyfarfodydd Pwyllgor Cymru yng Nghaerdydd a rhaid bod yn bresennol mewn pedwar i ddeg cyfarfod y flwyddyn. Ni chewch eich talu am fod yn aelod, ond gallwch hawlio costau teithio i gyfarfodydd.

Cynhelir etholiadau Pwyllgor Cymru rhwng 1 Mehefin a 3 Medi 2012. Am ragor o wybodaeth neu ffurflen gais, cysylltwch ag Amanda Parker a.parker@mind.org.uk neu ffoniwch 029 2034 6572.  

You might also like…