Pwyllgor Cymru
Mae Pwyllgor Cymru yn grŵp bywiog sydd yn arwain Mind Cymru trwy lywodraethu arloesol. Mae'r grŵp sydd yn cyfarfod 4 gwaith y flwyddyn ar gyfer cyfarfodydd busnes ac unwaith y flwyddyn ar gyfer datblygu, yn cynnwys 8 aelod; daw hanner ohonynt o leiaf o gymdeithasau Mind lleol a'r gweddill o rwydweithiau Mind yng Nghymru. Gyda phedwar lle cyfetholedig arall mae Pwyllgor Cymru yn bwerus iawn!
Os ydych yn teimlo bod gennych yr angerdd, yr ymroddiad a'r ymrwymiad i nodau Mind yn ogystal â gwybodaeth o iechyd meddwl a gallu i feddwl yn strategol, ymunwch â Phwyllgor Cymru a chynorthwyo Mind Cymru i ddatblygu'r gwaith o wneud gwahaniaeth i iechyd meddwl yng Nghymru.
Cyswllt: a.parker@mind.org.uk