Hyfforddi "porthorion" mewn atal hunanladdiad
Prosiect mawr 5 mlynedd i godi ymwybyddiaeth o hunanladdiad a hyfforddi gwasanaethau rheng flaen a phorthorion yn y gymuned mewn sgiliau ymyriad cynnar.
Busnes pawb: Dull o atal hunanladdiad ar sail poblogaeth
Faint ohonon ni a fyddai’n cerdded heibio i rywun sy’n cael trafferth mewn afon, gan ddweud nad ydy hynny ddim yn fusnes iddynt? Ond pan ddaw rhywun i feddwl am hunanladdiad, gall pobl fod yn amharod i ymyrryd. Gall hyn fod oherwydd ofn gwneud pethau’n waeth, methu gwybod beth i’w wneud, teimlo mai cyfrifoldeb rhywun arall yw hyn, hyd yn oed y gred gyfeiliornus y byddai’n wastraff amser ymyrryd am fod rhywun yn benderfynol o farw.
Dengys ymchwil fod dull o atal hunanladdiad ar sail poblogaeth gyda “phorthorion” hyfforddedig mewn gwasanaethau rheng flaen ac yn y gymuned yn meddu ar botensial ymyriad cynnar ac effeithiol. Roedd y dull hwn yn ganolog i’r Cynllun Gweithredu Cenedlaethol Lleihau Hunanladdiad a Hunan-niwed i Gymru.
Nodau
Ein nod yw lleihau cyfraddau hunanladdiad ar draws Cymru a hybu iechyd meddwl trwy leddfu’r gofid meddwl a brofir gan bobl sy’n meddwl am hunanladdiad.
- Trwy ymgyrchoedd estyn allan byddwn yn cynyddu gwybodaeth am ble i droi am help.
- Trwy herio gwarth a chodi ymwybyddiaeth byddwn yn ei gwneud yn haws i bobl siarad yn agored am hunanladdiad a cheisio help.
- Trwy ddarparu rhaglenni hyfforddi mewn cymunedau byddwn yn goresgyn rhwystrau ac yn ychwanegu at nifer y bobl sydd â’r sgiliau a’r hyder i helpu pobl mewn gofid.
ASIST (Hyfforddiant Uwch Sgiliau mewn Ymyrraeth Hunanladdiad)
Y gweithdy
Gweithdy 2 ddiwrnod yw Hyfforddiant Uwch Sgiliau mewn Ymyrraeth Hunanladdiad sy’n cynnig hyfforddiant dwys i weithwyr rheng flaen ac aelodau o’r gymuned. Mae’r pwyslais ar ddysgu cymorth cyntaf hunanladdiad er nwyn helpu rhywun dan risg i fod yn ddiogel a cheisio help pellach os oes angen. Mae ASIST yn darparu hyfforddiant ymarferol i gynhalwyr sydd am atal risg hunanladdiad yn y tymor byr.
Hyfforddwyr
Mae gennym dîm cenedlaethol o hyfforddwyr tra phrofiadol. Mae pob rhaglen yn cael ei monitro’n drylwyr er mwyn sicrhau bod safonau’r hyfforddiant mor uchel â phosibl. Mae’r adborth gan rai sydd wedi cymryd rhan wedi bod yn ffafriol dros ben - gyda thros 90% yn sôn am gynnydd sylweddol yn eu hyder o ganlyniad i’r hyfforddiant a ddilynwyd.
Mae pobl sy’n cymryd rhan yn aml yn cynnwys:
- pobl sy’n pryderu am deulu a ffrindiau
- rhai sy’n helpu a chynghori’n naturiol
- gweithwyr gwasanaethau brys
- cynghorwyr, athrawon a gweinidogion
- ymarferwyr iechyd meddwl
- gweithwyr mewn iechyd, lles a chyfiawnder
- gwirfoddolwyr cymunedol.
Gan weithio’n bennaf mewn grwpiau bychain sy’n cynnwys un hyfforddwr/wraig a dim mwy o 15 o raid yn derbyn hyfforddiant, mae ASIST yn defnyddio llawer o wahanol brosesau dysgu i greu profiad dysgu rhyngweithiol ar sail ymarfer.
Dysgwch y canlynol:
- adnabod gwahoddiadau am help
- estyn allan a chynnig cefnogaeth
- arolygu risg hunanladdiad
- defnyddio model ymyriad mewn hunanladdiad
- cysylltu pobl ag adnabod yn y gymuned.
Barn pobl am ein gweithdai ASIST
- ‘Strwythur ymarferol a chefnogol iawn.'
- 'Cymorth cyntaf pwysig iawn i’w gael yn bersonol ac yn broffesiynol.'
- 'Roedd y cyflwyniad yn broffesiynol ac yn cael ei drafod yn sensitif. Hynod o drylwyr a llawn gwybodaeth.'
- ‘gweithdy wedi’i gyflwyno’n dda a llawer o feddwl wedi mynd iddo.'
Sut mae dilyn y cwrs?
Mind Cymru a’n partneriaeth ym Mhrosiect Dewisiadau cadarnhau a noddir gan Gronfa’r Loteri Fawr yn unig sy’n gyfrifol am ddarparu’r rhaglen ASIST yng Nghymru.
- Ewch i weld ein gweithdai a lleoliadau diweddaraf
Faint yw’r gost a faint yw’r ffi?
Cost gweithdy dau ddiwrnod yw £185 y pen. Y ffi ostyngol (i rai digyflog) yw £50. Gallwch dalu trwy siec neu ofyn am anfoneb wrth gadw lle.
Mae eich ffi’n cynnwys:
- llyfr/deunyddiau hyfforddiant
- Llawlyfr Ymyrraeth Hunanladdiad
- lluniaeth a chinio bob dydd
- tystysgrif presenoldeb
Mae’r cwrs ASIST yn rhedeg am ddau ddiwrnod a bydd fel arfer yn cychwyn yn brydlon am 9.00am ac yn dod i ben am 5.00pm ar y ddau ddiwrnod. Oherwydd natur y cwrs mae’n hanfodol ichi allu mynychu am yr oriau llawn bob dydd. Os cyrhaeddwch chi’n hwyr ar unrhyw ddiwrnod nei os oes rhaid ichi adael yn gynnar mae’n bosibl y bydd yn rhaid ichi ddilyn y cwrs eto i ennill eich tystysgrif.
Sylwer:
Oherwydd natur emosiynol yr hyfforddiant hwn nid argymhellir y cwrs hwn i rai sydd wedi cael profedigaeth yn ddiweddar.
Angen help?
Os ydych chi’n meddwl am hunanladdiad, neu’n poeni am rywun arall, dylech siarad â rhywun. Gallai fod yn ffrind, yn aelod o’r teulu, eich meddyg - y peth pwysig yw siarad â rhywun. Os nad ydych chi’n teimlo y gallwch sôn wrth rywun rydych chi’n ei adnabod, gallwch ddefnyddio un o’r llinellau cymorth isod, ond gofynnwn ichi chwilio am help cyn gynted â phosibl.
Mae pob math o lyfrynnau defnyddiol a rhestr o adnoddau a sefydliadau ledled Cymru y gellir eu gweld ar y wefan hon trwy glicio ar y dolenni ar ymyl y tudalen.
Ble i gael help:
Samariaid
Llinell gymorth 24 awr sy’n cynnig cefnogaeth emosiynol
Llinell gymorth: 08457 90 90 90
Y We: www.samaritans.org
Call (Llinell Gyngor a Gwrando Gymunedol)
Cymorth emosiynol a gwybodaeth am iechyd meddwl i bobl Cymru
Llinell gymorth: 0800 132 132
Y We: www.callLlinell gymorth.org.uk
Llinell Plant
Llinell gymorth 24 awr i blant a phobl ifanc mewn gofid neu berygl
Llinell gymorth: 0800 11 11
Y We: www.childline.org.uk
Calm
Ymgyrch yn erbyn bywydau digalon, cyngor i ddynion ifanc
Llinell gymorth: 0800 58 58 58
Y We: www.thecalmzone.net
Papyrus
Cyngor i bobl ifanc sy’n wynebu perygl hunanladdiad
Llinell gymorth: 08000 68 41 41
Y We: www.papyrus-uk.org
Cruse (Gofal mewn profedigaeth)
Llinell gymorth a chyngor i rai a effeithiwyd gan farwolaeth
Llinell gymorth: 0844 477 4900
Y We: www.crusebereavementcare.org.uk
Survivors of Bereavement by Suicide (SOBS)
Cymorth emosiynol ac ymarferol a grwpiau lleol
Llinell gymorth: 0844 561 6855
Y We: www.uk-sobs.org.uk
Farm Crisis Network
Llinell gymorth i deuluoedd a busnesau amaeth sy’n dioddef gan ofid
Llinell gymorth: 0845 367 9990
Y We: http://www.farmcrisisnetwork.co.uk/
Comisynydd Plant Cymru
Cyngor a chefnogaeth i blant a phobl ifanc
Llinell gymorth: 0808 801 1000
Y We: http://www.childcomwales.org.uk/
Nodau
Ein nod yw lleihau cyfraddau hunanladdiad ar draws Cymru a hybu iechyd meddwl trwy leddfu’r gofid meddwl a brofir gan bobl sy’n meddwl am hunanladdiad.
- Trwy ymgyrchoedd estyn allan byddwn yn cynyddu gwybodaeth am ble i droi am help.
- Trwy herio gwarth a chodi ymwybyddiaeth byddwn yn ei gwneud yn haws i bobl siarad yn agored am hunanladdiad a cheisio help.
- Trwy ddarparu rhaglenni hyfforddi mewn cymunedau byddwn yn goresgyn rhwystrau ac yn ychwanegu at nifer y bobl sydd â’r sgiliau a’r hyder i helpu pobl mewn gofid.
Yr her
Bob blwyddyn yng Nghymru mae tua dwywaith nifer y bobl yn marw trwy hunanladdiad ag sy’n marw mewn damweiniau ffordd. Am bobl hunanladdiad, gall fod hyd at 100 eto a anafir gan ymddygiad hunanladdiad nad yw’n llwyddo. Hunanladdiad yw prif achos marw ymhlith pobl ifanc sy’n byw yng Nghymru. Ond dim ond dechrau’r broblem yw hyn:
Bob blwyddyn, amcangyfrifir bod 5% o’r boblogaeth yn meddwl o ddifrif am hunanladdiad. (Samariaid)
Eleni bydd hyd at 150,000 o bobl yng Nghymru’n meddwl am hunanladdiad. Ni fydd llawer o’r rhain yn mynd ymlaen i roi cynnig ar hunanladdiad, ond mae meddwl am hunanladdiad yn arwain at ofid emosiynol a meddyliol dwys.
Y Cyfle
Mae’r rhan fwyaf o bobl sy’n ystyried hunanladdiad yn rhannu eu gofid a’u bwriad. Gall hyfforddiant ein helpu i weld y gwahoddiadau hyn i helpu ac ymateb iddynt. Gall eich gwneud yn ddigon hyderus i holi am hunanladdiad os ydych yn pryderu am ddiogelwch rhywun. Gall roi'r offer ichi i osgoi risg hunanladdiad yn y lle cyntaf.
Mae’r Cynllun Gweithredu Cenedlaethol Lleihau Hunanladdiad a Hunan-niwed i Gymru yn pwysleisio pwysigrwydd ymyriad cynnar, a’r rhan y dylai gwasanaethau rheng flaen ei chwarae o ran ymateb i bobl sydd mewn angen wrth iddynt ofyn am help. Mae’r ymateb cynnar hwn o help i leihau unigedd y sawl sy’n wynebu risg, mae’n lleddfu gofid ac mae’n gwella’r cyfle i wasanaethau gydweithio’n effeithiol i gynorthwyo’r unigolyn.
Egwyddorion gweithredu effeithiol
Sylfaen y cynllun gweithredu yw’r angen i newid ymddygiad y cyhoedd a’r asiantaethau sy’n gyfrifol am gysylltu mewn ffordd gadarnhaol â’r cyhoedd. Mae’n tynnu sylw at yr angen i godi ymwybyddiaeth o hunanladdiad a hunan-niwed; darparu hyfforddiant i’r asiantaethau hynny sy’n gweithio gyda’r cyhoedd a gwella’r ymateb i unigolion sydd mewn gofid wrth i’r gofid hwnnw gael ei adnabod.
Ystyr ymyriad cynnar yw bod gwasanaethau’n ymateb i anghenion unigolion wrth iddynt ofyn am help. Mae’r ymateb cynnar hwn o help i leihau unigedd y sawl sy’n wynebu risg, mae’n lleddfu gofid ac mae’n gwella’r cyfle i wasanaethau gydweithio’n effeithiol i gynorthwyo’r unigolyn. Er bod cyfeiriad at wasanaethau iechyd meddwl yn aml yn rhan annatod o’r ymateb hwn, fel arfer bydd ar bobl sy’n meddwl am hunanladdiad angen ystod o ymyriadau, gan gynnwys help gyda materion sy’n ymwneud â thai, dyled, defnyddio alcohol/cyffuriau ayb a chymorth gan deulu, ffrindiau a grwpiau yn y gymuned. Fel arfer y gwasanaeth lle mae rhywun wedi gofyn am help yn y lle cyntaf yw’r man gorau i’w helpu i gael hyd i’r help a’r cymorth hwn.
Gall agweddau meddwl megis gwarth, ofn a phesimistiaeth fod yn rhwystrau, gan wneud i rai feddwl mai rhywbeth i arbenigwyr mewn iechyd meddwl yn unig yw hunanladdiad, a gall hyn arwain at ddiffyg gweithredu gan wasanaethau rheng flaen a’r cyhoedd. Cyhyd ag y bydd pobl yn meddwl am hunanladdiad fel rhywbeth neilltuol i wasanaethau iechyd meddwl arbenigol, collir cyfleoedd i ymyrryd. Er nad yw ond 25% o rai sy’n marw trwy hunanladdiad yn hysbys i wasanaethau iechyd meddwl arbenigol, bydd y rhan fwyaf o’r 75% sydd weddill mewn cysylltiad â gwasanaethau rheng flaen.
"Oes modd helpu hwn neu hon i fod yn ddiogel?"
Ceir tystiolaeth bod hyd yn oed pobl sydd â meddyliau dwys iawn am hunanladdiad yn rhwng dau feddwl ynglŷn â marw ond eu bod mewn cymaint o ofid nes eu bod yn methu meddwl am ddewis arall heblaw marw; trwy roi cyfle iddynt siarad, gellir lleihau’r gofid hwn i’r fath raddau nes eu bod am aros yn ddiogel a gwella eu gallu i dderbyn y cymorth sydd ar gael. Mae’r posibilrwydd y bydd rhywun sy’n meddwl am hunanladdiad yn dod o hyd i rywun i wrando a lleddfu’r gofid yn well os oes pobl hyfforddedig yn y gymuned sy’n barod i ymyrryd ac sy’n gwybod sut i wneud hynny.
Cysylltu â ni
I wybod rhagor am y prosoect neu i gael gwybod sut y galwch helpu cysylltwch ag Alan Briscoe
Ffôn: 01654 703487
Symudol: 07525 933815
I wybod rhagor am gyrsiau neu i archebu lle
yn y De Ddwyrain cysylltwch â:
Ffôn: 07775 870321
Canolfan Lles Mind Torfaen
24 Stryd Siôr
Pontypwl
Torfaen
NP4 6BY
yn y Canolbarth a’r De Orllewin cysylltwch â:
Ffôn: 07775 872704
Mind Aberystwyth
Y Felin
Riverside Terrace
Dan Dre
Aberystwyth
Ceredigion
SY23 1JB
yn y Gogledd cysylltwch â:
Ffôn: 07775 873342
Mind Dyffryn Clwyd
4 Lôn Rosmari
Dinbych
LL16 3TT