Mind Cymru wedi’i ddewis fel Elusen y Flwyddyn gan Glybiau Ffermwyr Ifanc Cymru
Mae Mind a Chlybiau Ffermwyr Ifanc Cymru’n gweithio gyda’i gilydd i godi ymwybyddiaeth a gwella dealltwriaeth o drallod meddwl ymhlith pobl ifanc mewn cymunedau gwledig.
Mae Mind Cymru yn hynod falch o gyhoeddi inni gael ein dewis fel Elusen y Flwyddyn am 2010/2011 gan Glybiau Ffermwyr Ifanc Cymru. Mudiad gwirfoddol i bobl ifanc yw Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru sy’n gweithio gyda phobl ifanc o bob cefndir mewn cymunedau gwledig yng Nghymru. Ar hyn o bryd mae’n cynrychioli 6,000 o bobl ifanc rhwng 10 a 26 oed.
Dros y flwyddyn nesaf, bydd Mind a Chlybiau Ffermwyr Ifanc Cymru yn gweithio mewn partneriaeth i godi ymwybyddiaeth a gwella dealltwriaeth o drallod meddwl ymhlith pobl ifanc mewn cymunedau gwledig. Bydd Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru hefyd yn helpu i godi arian sydd taer ei angen ar Mind.
Meddai Cyfarwyddwr Cymru Mind, Lindsay Foyster:
Mae Mind Cymru wrth eu boddau eu bod wedi cael eu dewis fel elusen y flwyddyn gan Glybiau Ffermwyr Ifanc Cymru. Rydym yn edrych ymlaen at weithio mewn partneriaeth gyda Chlybiau Ffermwyr Ifanc Cymru a Chymorth i Gefn Gwlad Cymru i godi ymwybyddiaeth a gwella dealltwriaeth o drallod meddwl mewn cymunedau gwledig.
Yn Mind Cymru, mae gennym hanes ers tro byd o hybu iechyd meddwl da a herio stigma mewn cymunedau gwledig ar lefel genedlaethol a lleol, drwy’r gwaith ymgyrchu yr ydym yn ei wneud a gwaith y cymdeithasau Mind lleol yn y gymuned. Mae’r bartneriaeth hon yn dangos ein hymrwymiad parhaus i gymunedau gwledig yng Nghymru.
Meddai Enfys Evans, Cadeirydd Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru:
Gobeithio y gallwn annog pobl ifanc i ddweud am y pethau sy’n eu poeni a thynnu eu sylw at y gwasanaethau sydd ar gael iddynt er mwyn osgoi gweld y problemau’n gwaethygu. Dylai unrhyw un sy’n poeni am ffrindiau neu sydd am gael cyngor fynd at wefan Cymorth i Gefn Gwlad Cymru yn www.ruralsupportwales.org.uk neu ffonio MindInfoline ar 08457 660 163. Rwyf yn gobeithio y bydd Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru a’i aelodau hefyd yn helpu i godi arian ar gyfer Mind Cymru, un o’r elusennau iechyd meddwl mwyaf blaenllaw yng Nghymru.
I ddechrau’r bartneriaeth sydd wedi para blwyddyn, mynychodd staff Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru gwrs deuddydd ar Gymorth Cyntaf ar Iechyd Meddwl Pobl Ifanc (YMHFA) a ddarparwyd gan Mind Cymru. Nod cyrsiau Cymorth Cyntaf ar Iechyd Meddwl Pobl Ifanc yw codi ymwybyddiaeth a gwella dealltwriaeth o broblemau iechyd meddwl mewn pobl ifanc, gan roi cyngor ar sut i adnabod yr arwyddion o drallod meddwl a sut i ddelio gyda nhw’n effeithiol. Roedd y problemau a ddeliwyd gyda nhw ar y cwrs yn cynnwys iselder, gor‑bryderu, hunan-niwed, camddefnyddio sylweddau ac anhwylderau bwyta.
Bu Enfys Evans yn cymryd rhan yn yr hyfforddiant:
Mae’r cwrs Cymorth Cyntaf ar Iechyd Meddwl Pobl Ifanc, er yn bur anodd ar adegau, wedi helpu ein staff i ddeall trallod meddwl mewn pobl ifanc yn well. Dysgom sut i ddelio gydag unigolion yn bersonol cyn eu cyfeirio ymlaen at gymorth proffesiynol. Hoffwn ddiolch i Mind Cymru am ddarparu’r cwrs fel rhan o’n partneriaeth a fydd yn datblygu gydol y flwyddyn.
Meddai Gareth Jones, Swyddog Cyfiawnder Cymdeithasol a Materion Gwledig Mind Cymru:
Rydym yn falch iawn ein bod wedi gallu darparu’r hyfforddiant yma i staff Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru. Mae clybiau CFfI Cymru yn rhoi amryw byd o gyfleoedd i bobl ifanc yng nghefn gwlad Cymru i gadw’n gorfforol a meddyliol iach ac yn eu helpu i sefydlu a chymryd rhan mewn rhwydweithiau cymdeithasol. Credwn fod gwaith Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru yn hollbwysig i ddiogelu a aros mewn iechyd meddwl da. Mae cymuned CFfI Cymru yn ffordd y gall pobl ifanc helpu a gofalu am ei gilydd drwy siarad ac adnabod unrhyw broblemau posibl yn ddigon buan fel y gellir dod o hyd i gymorth addas lle bo angen.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch gyda Gareth Jones, Swyddog Cyfiawnder Cymdeithasol a Materion Gwledig gyda Mind Cymru:
e: gareth.jones@mind.org.uk
Mae Mind Cymru’n arwain ar iechyd meddwl mewn canllawiau yn y gweithle
Yn cydweithio gyda’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ar ganllawiau polisi newydd pwysig ar iechyd meddwl yn y gweithle.
Mae Mind Cymru wedi bod yn gweithio gyda’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru ar gynhyrchu ffilm fer a dogfennau canllaw i ddatblygu polisi iechyd meddwl yn y gweithle.
Mae’r ffilm a’r dogfennau cefnogi yn cynnwys astudiaeth achos yn amlinellu’r anghenion busnes dros gael canllaw polisi o’r fat hi undebau llafur. Mae’r deunyddiau’n cynnwys cyfeiriadau at hyfforddiant MHFA yng Nghymru.
Gweler gwefan CCHD am wybodaeth fanwl ar yr Ymgyrch Mae Iechyd Meddwl yn Fusnes i Chi.
Lansio Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl i Ieuenctid yng Nghymru
Lansiwyd dull newydd arloesol o gefnogi pobl ifanc yng Nghymru ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont yr wythnos hon.
Mae’r rhaglen hyfforddi Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl i Ieuenctid yn ychwanegiad pwysig i’r rhaglen Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl (MHFA) a gydlynir ar hyn o bryd gan Mind Cymru.
Mae’r datganiad i’r wasg llawn ar gael yma.
Stondin Mind Cymru yn y Sioe Amaethyddol Frenhinol yn canolbwyntio ar Bobl Ifanc ac Iechyd Meddwl
Eleni roeddwn eisiau ymgysylltu gyda phobl ifanc (14-18 oed) – yn enwedig y rhai o gefndir gwledig i helpu i ddatblygu eu hymwybyddiaeth o broblemau iechyd meddwl a ble i fynd am help.
I wneud hyn fe wnaethon greu “tudalen Gweplyfr” wag gyda chwestiynau yn hytrach na’r adrannau “gweithgareddau, cerddoriaeth, diddordebau” etc. a fyddai fel rheol ar dudalen Gweplyfr a gofyn i’r bobl ifanc oedd yn cymryd rhan i greu tudalen Gweplyfr ar gyfer person hapus (gan ddefnyddio ‘post its’ ac ateb cwestiynau ar fwrdd Gweplyfr). Unwaith yr oeddent wedi cwblhau’r bwrdd gallant gymryd rhan mewn raffl lle roedd pawb yn ennill gwobr ar y pryd yn amrywio o bêl i babell.
Roeddem yn falch iawn gyda’r ymateb a gawsom, nid yn unig o ran y nifer o bobl ifanc a gymrodd ran ond hefyd pa mor ddifrifol yr aethant ati i wneud yr ymarferiad a faint o ymdrech a meddwl a wnaethant ei roi iddo.
Dydy ni ddim eto wedi cael cyfle i ddadansoddi’r wybodaeth a gasglwyd o’r digwyddiad ond mae rhai pwyntiau allweddol ac arsylwadau diddorol eisoes yn amlwg.
1. Roedd mwyafrif sylweddol o’r rhai a gymrodd ran yn tybio’n syth bod unrhyw beth gyda’r gwaith ‘meddwl’ yn ymwneud â gallu meddyliol yn hytrach na thrallod meddwl ac felly yr ymateb nodweddiadol i’r cwestiwn “beth fyddech chi yn ei wneud i wella’ch iechyd meddwl’ fyddai croeseiriau, ymarferion hyfforddi’r ymennydd etc.
2. Roedd bron pawb a gymrodd ran yn amlwg yn gwybod beth y gallant/dylent ei wneud i gynnal iechyd corfforol a meddyliol da.
3. Doedd dim teimlad o fod yn anghyfforddus ymysg y rhai a gymrodd ran yn yr ymarferiad ynglŷn â thrafod problemau iechyd meddwl gyda’u rhieni ac roedd gan y rhieni ddiddordeb mawr yn yr ymarferiad.
4. Roedd cryn dipyn o ddiddordeb ymysg brodyr a chwiorydd iau y rhai a gymrodd ran a gellid fod wedi ymestyn yr ymarferiad yn hawdd i blant iau.
Os hoffech wybod rhagor am hyn cysylltwch os gwelwch yn dda gyda Janina Kuczys