Mae Mind Cymru yn ceisio cyfrannu at drawsnewid dealltwriaeth o iechyd meddwl a lles, ac o agweddau tuag at, ac ymatebion i bobl sydd â phrofiad o drallod meddwl.
Mae Mind Cymru felly yn ymrwymedig i wneud cyfranogiad pobl sydd â phrofiad uniongyrchol o drallod meddwl yn ganolog i'n gwaith.
Rydym yn cydnabod ac yn parchu ein bod oll, fel bodau dynol yn profi trallod a phroblemau wrth fyw - er bod ffurf a graddau hyn yn amrywio'n fawr.
I rai ohonom mae ein trallod yn golygu ein bod yn ei chael yn anodd i ymdopi neu hyd yn oed i oroesi o ddydd i ddydd. I rai mae'n arwain at gysylltiad (bwriadol neu fel arall) gyda gwasanaethau iechyd meddwl fel defnyddwyr gwasanaeth. I'r rhai hynny ohonom sydd yn byw mewn tlodi ac yn wynebu gorthrwm a gwahaniaethu ( am ba bynnag reswm) mae'r perygl o brofi problemau iechyd meddwl mawr yn cynyddu'n enbyd.
I nifer ohonom o fewn ein cymdeithas mae ein trallod a'r modd yr ymatebir i hynny, yn cynnwys gwasanaethau iechyd meddwl, yn golygu ein bod weithiau yn cael ein camddeall, ein labelu, yn cael ein troi'n stereoteipiau, yn dioddef gwahaniaethu, yn cael ein tlodi ac yn cael ein heithrio mewn amrediad eang o ffyrdd.
Gall yr eithrio hwn o fewn ein cymunedau ein hunain gael effaith enfawr ar y modd yr ydym yn gweld ein hunain. Gall ein cred ynglŷn â'n gwerth, ein breuddwydion a'n dyheadau ar gyfer ein bywydau, ein synnwyr o'r hyn sydd gennym i'w gynnig i eraill, oll gael eu herydu.
Mae'r eithrio hwn hefyd yn golygu bod ein cymunedau yn cael eu hamddifadu yn aml o'n doniau, profiadau ac arbenigedd
Credwn bod y modd o fanteisio ar gyfleoedd a phrofiadau bywyd cadarnhaol yn ganolog i'n gallu i ymateb i'n trallod ac i allu cyflawni ein potensial.
Mae Mind Cymru felly wedi ymrwymo i hyrwyddo cyfleoedd ar gyfer cynhwysiad i bobl â phroblemau iechyd meddwl. Mae hyn ochr yn ochr gyda'n hymrwymiad i hyrwyddo cydraddoldeb, dathlu amrywiaeth a herio tlodi a gormes.