Close
Mind homeTudalen gartref Mind CymruAm Mind Cymru

Am Mind Cymru

Mae pobl sydd wedi profi blinder meddwl yn hysbysu pawb am y math o waith sy’n cael ei wneud gan Mind Cymru. Rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth a sicrhau bod cynhwysiad yn rhan annatod o’n gwaith.

Mae gwaith Mind yng Nghymru yn cael ei rheoli a’i weinyddu gan Mind Cymru. Mae gennym swyddogion yng Nghaerdydd yn ogystal â staff yng nghanolbarth, gogledd a de Cymru.

Mae cymdeithasau Mind lleol yn darparu gwasanaethau hanfodol ac uniongyrchol tu fewn i gymunedau lleol. Mae Mind Cymru yn cynnig cefnogaeth i gymdeithasau lleol ar faterion fel ariannu, safonau o ansawdd, ymarfer da ac effeithiolrwydd cyfundrefnol.

Ers 1973 mae Mind Cymru wedi sefydlu ei hun fel sylwebydd dylanwadol ar, a phartner yn natblygiad iechyd meddwl a pholisi gofal yn y gymuned yng Nghymru. Gwnaethpwyd hyn drwy weithio yn agos gyda Llywodraeth y Cynulliad Cenedlaethol, Asiantaethau Statudol a Gwirfoddol, ynghyd ag unedau Polisi, Cyfreithiol a Seneddol Mind. 

Gwasanaethau iechyd meddwl

Nid yw Mind Cymru'n darparu unrhyw wasanaethau iechyd meddwl uniongyrchol i'r cyhoedd. Darperir y rhain gan y 20 o gymdeithasau Mind lleol yng Nghymru sydd yn darparu gwasanaethau i bobl sydd yn dioddef pob math o anhwylderau meddyliol. Mae Mind Cymru'n cefnogi cymdeithasau Mind lleol gyda'u gwaith o ddydd i ddydd yn cynnwys cyllido, safonau ansawdd, ymarfer da ac effeithlonrwydd trefnyddol.

Gweithio i wneud gwahaniaeth

Rydym yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth y Cynulliad, Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac asiantaethau gwirfoddol a statudol eraill yn cynnwys Cynghrair Iechyd Meddwl Cymru i ddatblygu polisi iechyd meddwl, gofal yn y gymuned a pholisi perthynol yng Nghymru fel bod polisi yn cwrdd ag anghenion pobl sydd yn byw yng Nghymru.

Digwyddiadau

Gallwn eich cyfarfod mewn digwyddiadau allweddol trwy gydol y flwyddyn er mwyn i chi ddweud wrthym sut yr ydych eisiau i wasanaethau iechyd meddwl ddatblygu yn y dyfodol. Dewch i ymweld â'n stondinau a sgwrsio gyda'n staff yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac yn y Sioe Amaethyddol neu dewch i gymryd rhan yn ein cynhadledd neu ddigwyddiadau eraill.

Ymyrraeth hunan laddiad

Mae ein rhaglen atal hunan laddiad cenedlaethol yn seiliedig ar sgiliau - Hyfforddiant Sgiliau Ymyrraeth Hunan Laddiad (ASIST) sydd yn rhan o'r Prosiect Dewisiadau Cadarnhaol yn dod â phwnc hunan laddiad a sut i ymyrryd gyda pherson hunanladdol i'n cymunedau yng Nghymru. Mae nifer o bobl eisoes wedi derbyn hyfforddiant, beth amdanoch chi?

Cliciwch ar y ddolen ganlynol, a fydd yn mynd â chi ar wefan Dewisiadau Positif, a rhestr o ddyddiadau cyrsiau ASIST.

Cyrsiau ASIST yng Nghymru 2010

Cysylltwch a ni

Mind Cymru
Llawr 3
Tŷ Quebec
Pont-y-Castell
Heol Ddwyrain y bontfaen
Caerdydd
CF11 9AB
T: 029 2039 5123
F: 029 2034 6585
e: contactwales@mind.org.uk