Mind for better mental health
 
Information

Deall salwch meddwl


Copyright note: professionals are not permitted to print off copies for distribution to colleagues or clients. For more information see Mind's copyright guidelines.

This booklet can also be purchased from the online shop.

Mae salwch meddwl yn beth cyffredin iawn. Canfuwyd bod oddeutu chwe miliwn o bobl ym Mhrydain yn dioddef ohono. Er hynny, mae salwch meddwl yn bwnc dadleuol iawn, beth yw e, beth sy’n ei achosi, a sut mae modd helpu pobl i wella ohono.

Beth yw salwch meddwl?

Yn y bôn, mae pobl y canfuwyd eu bod yn dioddef o salwch meddwl yn teimlo neu’n ymddwyn mewn ffyrdd sy’n annerbyniol yn eu barn nhw neu ym marn eraill.

Mae’r rhan fwyaf ohonynt yn cael eu trin gyda chyffuriau seicotropig - cyffuriau sy’n effeithio ar y meddwl neu ar yr ymennydd - megis cyffuriau tawelu a chyffuriau gwrthiselder. Mae mwy na 300,000 o bobl yn cael eu derbyn i unedau seiciatrig bob blwyddyn.

Mae cyffuriau a thriniaethau meddygol eraill yn helpu rhai pobl ond nid pawb. I rai pobl, dim ond un elfen o’r hyn sy’n eu helpu i wella yw’r driniaeth ac nid, o anghenraid, yr elfen bwysicaf. Mae llawer o’r rhai sydd wedi cael eu diagnosio o fod yn dioddef salwch meddwl yn dweud fod cael eu labelu a’u trin yn y ffordd yma wedi achosi llawer o galedi iddyn nhw.

Oherwydd hyn, mae’n well gan Mind sôn am loes emosiynol neu feddyliol, yn hytrach na salwch meddwl. Mae ystyried problemau pobl gyda theimladau neu ymddygiad fel salwch sydd angen triniaeth feddygol yn ffordd rhy gul o lawer o ystyried y sefyllfa. Nid yw yn ein hannog i feddwl am y llu o ddylanwadau sydd ar fywyd person a allai fod yn gyfrifol am achosi loes o’r fath. Mae’n ein rhwystro hefyd rhag archwilio’r opsiynau, ar wahân i opsiynau meddygol, sydd ar gael i helpu pobl oresgyn eu problemau.

Teimladau

Mae gennym deimladau positif, fel hapusrwydd, cariad neu foddhad, ac mae gennym deimladau negyddol, fel ofn, casineb neu euogrwydd. Weithiau, nid oes gennym deimladau o gwbl: gwacter neu fferdod. Fel cymdeithas, mae gennym rywfaint o ragdybiaethau cyffredin ynghylch yr emosiynau y dylem ni eu teimlo.

Rydym yn disgwyl i fam garu ei baban newydd-anedig. Os yw rhywun sy’n agos atom ni’n marw, mae disgwyl i ni deimlo’n drist. Weithiau, ni fydd ein teimladau yn rhai y byddem yn disgwyl eu cael. Mae’n bosib i ddyn ddweud, ‘Rwy’n caru fy nheulu, ‘rwy’n llwyddiannus yn fy ngwaith, ond dydw i ddim yn hapus. Rwy’n teimlo’n wag y tu mewn.’ Neu, nid oes gennym y teimladau y mae eraill yn eu disgwyl. Mae’n bosib i berson ifanc yn ei harddegau deimlo anobaith llwyr ynghylch holl drasiedïau’r byd. Mae hi’n gallu cyfiawnhau ei theimladau ond, ym marn ei rhieni, fe allai ei theimladau fod y tu hwnt i bob rheswm. Mae’r rhan fwyaf o ffurfiau ar loes meddwl (os nad pob un ohonynt) yn fersiynau eithafol o deimladau ac ymddygiad sy’n gyffredin i’r rhan fwyaf ohonom.

Efallai eich bod chi wedi deffro yng nghanol breuddwyd rhywdro ac, am rai eiliadau, yn ansicr a oeddech chi’n effro neu ynghwsg. Dychmygwch nad ydych yn gallu rhoi’r gorau freuddwydio ar ôl i chi ddeffro. Mae hynny’n rhoi ryw fath o amcan i chi sut beth yw profiad o seicosis: cyflwr meddwl lle nad yw pobl yn gallu gwahaniaethu rhwng beth sy’n real a beth sy’n eu dychymyg. Yn aml iawn, mae’r hyn y maen nhw’n ei ddychmygu yn frawychus ac yn gwneud iddyn nhw ymddwyn mewn ffyrdd dieithr.

Pan fo’n teimladau yn rhai ysgytwol ac yn rhai sy’n annerbyniol i ni, gellid dweud ein bod mewn loes meddwl.

Ymddygiad

Mae gennym hefyd rai rhagdybiaethau cyffredin ynghylch sut y dylem ni ymddwyn. Yn wir, mae ein cymdeithas yn seiliedig ar set gymhleth o reolau a chonfensiynau yr ydym yn eu dysgu wrth i ni dyfu. Er enghraifft, mae disgwyl i ni allu cerdded i mewn i siop, dewis beth sydd ei angen arnom, a chiwio i dalu amdano. Rydym yn disgwyl i bobl gerdded ar y palmant ac nid ar ffordd brysur.

Weithiau, mae ein hymddygiad yn gallu bod yn wahanol iawn i’r hyn yr ydym ni, ac eraill, yn ei ddisgwyl. Gall person sydd, fel arfer, yn gymdeithasol iawn, yn fwyaf sydyn, roi’r gorau i fynd allan a gwrthod mynd i ateb y drws i bobl sy’n galw draw. Fe all gweithiwr a fu’n ddibynadwy erioed droi’n ansicr iawn yn y gwaith a gwneud llawer o gamgymeriadau trychinebus.

Os yw ymddygiad pobl yn newid fel hyn, mae’n bosib y byddan nhw’n penderfynu drostynt eu hunain eu bod mewn loes meddwl, neu mae’n bosib y bydd eraill yn awgrymu hynny wrthynt.

Ond nid yw pawb sy’n ymddwyn mewn ffordd annerbyniol mewn loes meddwl. Ystyriwch, er enghraifft, bobl sy’n torri’r gyfraith. Cânt eu trin fel pobl mewn loes meddwl dim ond os ystyrir nad ydyn nhw’n gyfrifol am yr hyn y maen nhw’n ei wneud. Mae’n bosib y cânt eu rhoi dan glo er hynny, ond mewn ysbyty meddwl yn hytrach na mewn carchar.

Mae perthynas agos rhwng teimladau ac ymddygiad. Mae’n siwr eich bod yn gwybod sut beth yw teimlo’n nerfus, cyn i rywbeth pwysig ddigwydd, er enghraifft. Hyd at bwynt, fe all fod yn fuddiol, gan wneud i chi deimlo eich bod ar flaenau’ch traed. Y tu hwnt i hynny, mae’r nerfusrwydd yn cael effaith negyddol. Mae’n bosib na fyddwch yn gallu cysgu’n dda oherwydd bod eich meddwl yn rhy effro, neu y byddwch yn cael cur pen neu’n methu â‚ meddwl yn glir. Felly y mae rhywun sy’n dioddef o niwrosis pryder yn teimlo y rhan fwyaf o’r amser. Gall gweithgareddau cyffredin fel mynd i siopa neu wneud galwad ffôn eu gyrru i banig llwyr.

Fodd bynnag, nid ydym i gyd yn rhannu’r un rhagdybiaethau ynghylch teimladau ac ymddygiad. Mae’n bosib y bydd barn dynion a menywod, a phobl o wahanol ddosbarthiadau cymdeithasol neu wahanol gymunedau ethnig, yn amrywio ynghylch beth sy’n dderbyniol ac yn annerbyniol. Mae credoau rhai unigolion yn wahanol iawn i gredoau’r bobl o’u hamgylch. Gall hynny arwain at anghysondeb barn ynghylch pwy yn union sydd mewn loes meddwl.

Beth am ddiagnosisau?

Mae seiciatryddion wedi dosbarthu loes meddwl i wahanol gategorïau, neu ddiagnosisau. Mae gwneud diagnosis yn helpu’r meddyg i asesu pa driniaeth sydd ei hangen, a rhagweld beth sy’n debyg o ddigwydd. Gall fod yn rhyddhad hefyd i’r sawl sy’n dioddef allu rhoi enw i’r hyn sydd o’i le. Ond yn aml iawn, mae diagnosis yn troi’n ‘label’, fel petai’n diffinio neu’n mesur y person.

Mae ambell i ddiagnosis yn eiriau cyfarwydd a glywn bob dydd, er enghraifft iselder neu bryder. Oherwydd hynny, maen nhw’n haws eu deall, er nad yw pobl, oherwydd bod y geiriau mor gyfarwydd, yn sylweddoli weithiau pa mor ddifrifol a chaethiwus yw cyflyrau o’r fath. Mae ffobiâu yn gwneud i bobl fod ofn pethau neu sefyllfaoedd y gall y rhan fwyaf eu hwynebu heb unrhyw bryder o gwbl: ofn mannau caeedig yw clawstroffobia ac ofn mynd o ddiogelwch y cartref yw agoraffobia. Gallai cynnwrf dramatig ym meddyliau a theimladau person, ynghyd ag ymddygiad sy’n ymddangos yn od i eraill, arwain at ddiagnosis o sgitsoffrenia. Nodweddir iselder gorffwyll gan gyfnodau o iselder eithafol a chyfnodau o ymddygiad cynhyrfus iawn. Mae cyfres Mind o lyfrynnau Deall yn ymdrin ‚â’r prif ffurfiau o loes meddwl (Rhagor o ddeunydd darllen ar dudalen 11).

Mae gan pob diagnosis ei gyfyngiadau, fodd bynnag. Mae pawb yn unigryw ac mae profiad pob unigolyn o loes meddwl yn unigryw hefyd. Mae’n bosib i feddyg gamddarllen y loes y mae rhywun ynddo’n feddyliol, yn enwedig os oes rhwystr diwylliannol. Mae’n bosib y bydd gwahanol feddygon yn diagnosio yr un person mewn gwahanol ffyrdd. Gallai mynd ati, yn syml iawn, i ddiagnosio symptomau, olygu nad oes digon o sylw yn cael i roi i’r person cyflawn a’i sefyllfa. Mae’n bosib i berson ganfod ystyr i’w brofiad a theimlo nad yw diagnosis meddygol yn rhoi chwarae teg i hynny. Unwaith y bydd diagnosis wedi’i wneud, mae’n bosib y gwneir penderfyniadau am driniaeth a gofal sy’n gwbl amherthnasol i’ch achos chi.

Problem arall yw pan fo diagnosis yn troi’n label. Er enghraifft, yn lle cael eich ystyried fel rhiant, awdur, peiriannydd, myfyriwr, at ati, sydd wedi ei ddiagnosio â sgitsoffrenia, mae’n bosib y cewch eich ystyried fel ‘sgitsoffreniad’, fel pa bai dim byd arall yn werth ei ddweud amdanoch chi. Mae’n bwysig cofio nad oes raid i ddiagnosis benderfynu i ba gyfeiriad yr ewch chi yn eich bywyd, ac mae’n bosib, un diwrnod, mai dim ond rhan fechan iawn ohonoch chi ac o’ch hanes y bydd y diagnosis hwnnw.

Mae’n bosib gwella’n llwyr o loes meddwl ac mae llawer yn llwyddo i wneud hynny. Efallai y byddan nhw’n teimlo’n gryfach ac yn ddoethach, hyd yn oed, ar ôl y profiad. Mae eraill yn dod trwy’r gwaethaf ond yn parhau i fod yn fregus ac yn ailddioddef y loes o bryd i’w gilydd. Nid yw eraill yn gwella o gwbl ac yn parhau i gymryd meddyginiaeth hirdymor. Nid oes modd i seiciatryddion wybod yn iawn beth yw’r rhagolygon ar gyfer un person penodol. Mae modd gwella o bob math o loes. Yn anffodus, mae rhai pobl yn cael gwybod na wnân nhw fyth wella. Gall datganiadau o’r fath fod yn hunangyflawnol gan eu bod yn ychwanegu at yr ymdeimlad o anobaith. Mae’n bwysig eich bod yn parhau i fod yn obeithiol, beth bynnag sy’n cael ei ddweud wrthych.

Beth sy’n achosi loes meddwl?

Mae’r farn gyffredinol ynghylch yr hyn sy’n achosi loes meddwl yn amrywio’n fawr, ond prin iawn yw’r ffeithiau sydd wedi’u profi. Mae’r drafodaeth ynghylch yr achosion yn rhan o drafodaeth ehangach, sef yr hyn sy’n gwneud i ni, fel pobl, fod fel ag yr ydym. Ai etifeddu nodweddion gan ein rhieni a wnawn ynteu a yw ein personoliaethau’n datblygu yn ystod ein bywydau? Mae yna gwestiwn arall i’w ystyried hefyd - beth yw’r berthynas rhwng y meddwl a’r corff?

Mae barn pobl ynghylch achosion loes meddwl yn cael ei llunio gan eu profiad o fywyd, credoau crefyddol neu wleidyddol, neu hyfforddiant. Dyma rai achosion posibl:

Cefndir teuluol anodd

Teimlo nad oes neb yn malio amdanoch, tyfu i fyny i fod ofn rhiant, cael eich cam-drin yn rhywiol - os na chawsoch chi ddechrau da yn eich bywyd, mae’n bosib y tyfwch chi i fyny i deimlo’n ansicr ac yn fwy agored i ddioddef loes meddwl.

Celu teimladau

Fel y byddwn yn tyfu, cawn ein hannog, yn aml iawn, i beidio â dangos ein teimladau; mae’n bosib y cawn ni ein cosbi, hyd yn oed, am fynd yn ddig, am grio neu am chwerthin yn iach. Ond fe all teimladau sy’n cael eu celu achosi tensiynau sy’n amharu ar ein hiechyd corfforol a meddyliol.

Adegau o straen

Mae’n bosib i’r rhain fod yn ddigwyddiadau trawmatig, fel marwolaeth ffrind agos, neu frwydrau hirdymor fel cael eich harasio’n barhaus oherwydd eich tarddiad hiliol, neu fathau eraill o ormes.

Biocemeg

Mae cemegau yn ein cyrff yn effeithio ar ein meddyliau. Er enghraifft, os ydym ni’n ofni rhywbeth, rydym yn cynhyrchu hormon o’r enw adrenalin. Mae hwnnw yn ein paratoi i ymladd neu i redeg i ffwrdd. Os nad yw’n cael ei ddefnyddio yn gorfforol, mae’n gadael ein meddyliau mewn cyflwr gorfywiog a’n cyrff yn llawn tensiwn.

Genynnau

Dyma sut y mae rhieni yn trosglwyddo nodweddion corfforol, megis lliw gwallt, i’w plant. Mae’n bosib, hefyd, fod ein cyfansoddiad genetig yn effeithio ar ein personoliaeth. Mae’n bosib fod yna rhai genynnau sy’n achosi rhai mathau o loes meddwl. Mae miliynau o bunnoedd wedi’u gwario ar waith ymchwil, ond nid oes dim wedi’i brofi eto.

Mae’n bosib i loes meddwl fod yn ganlyniad i unrhyw un o’r ffactorau uchod neu gyfuniad ohonynt, a mwy.

Sut y mae’r system iechyd meddwl yn helpu?

Y ddelwedd fwyaf grymus o’r system iechyd meddwl yw’r ysbyty seiciatrig ar gyrion y dref lle mae pobl yn diflannu i mewn iddi a byth yn cael eu gweld eto. Mae’r ddelwedd hon yn prysur cael ei disodli ym meddwl y cyhoedd gan ddelweddau o drais a geir mewn adroddiadau newyddion am ddynladdiadau a gyflawnir gan bobl a chanddynt broblemau iechyd meddwl ‘yn y gymuned’. Mae’r naill ddelwedd a’r llall yn gamarweiniol. Nid yw’r mwyafrif helaeth o bobl sy’n cael eu diagnosio o fod yn dioddef salwch meddwl yn cyflawni trais. Mae’r sefydliadau Fictoraidd yn cael eu cau lawr yn raddol oherwydd ei bod yn annerbyniol, bellach, carcharu pobl sy’n dioddef o broblemau iechyd meddwl gan eu hynysu oddi wrth eu cymunedau. Mae llywodraethau olynol wedi bod yn annog gofal yn y gymuned a chynlluniau i alluogi pobl mewn loes meddwl i barhau i fyw yn eu cartrefi eu hunain. I’r rhai sydd dal i fod angen gofal mewn ysbyty, mae wardiau seiciatrig mewn ysbytai cyffredinol yn disodli’r hen ysbytai meddwl.

Cyffuriau

Y driniaeth fwyaf cyffredin, o bell ffordd, yw cyffuriau seicotropig, sydd i’w cael trwy bresgripsiwn gan Feddyg Teulu. Mae yna wahanol fathau o gyffuriau: rhai i’ch tawelu, i’ch helpu i gysgu, i godi’ch ysbryd neu i’ch atal rhag cael meddyliau annymunol. Mae yna lu o fanteision ond llawer o anfanteision hefyd. Mantais fawr y cyffuriau hyn yw eu bod yn gallu eich helpu i ddal ati. Mae miliynau o bobl yn mynd i’w gwaith bob dydd, neu’n gofalu am eu plant, tra’n cymryd y cyffuriau. Hebddynt, mae’n bosib iddyn nhw golli eu swyddi neu gael eu gwahanu oddi wrth eu teuluoedd, ac mae hynny’n achosi hyd yn oed fwy o loes meddwl.

Nid yw’r cyffuriau hyn, fodd bynnag, yn “gwella” y loes meddwl. Os ydyn nhw’n llwyddiannus, maen nhw’n lleihau’r symptomau ond mae’r broblem sylfaenol yn parhau. Yn aml iawn, maent yn effeithio ar bobl mewn ffyrdd sy’n gwneud iddyn nhw deimlo’n waeth yn hytrach nag yn well. Ac mae yna broblemau eraill hefyd. Gall pobl sy’n cymryd cyffuriau tawelu ysgafn - a gaiff eu rhoi’n aml ar gyfer pryder a diffyg cwsg - ganfod eu bod wedi mynd yn gaeth iddynt. Gall cyffuriau tawelu trwm (cyffuriau gwrthseicotig) - sy’n cael eu rhoi’n aml i bobl a gaiff eu diagnosio o fod yn dioddef o sgitsoffrenia - achosi niwed parhaol i system nerfol y corff (gweler llyfryn Mind Making Sense of treatments and drugs: major tranquillizers. Rhagor o ddeunydd darllen ar dudalen 11).

Triniaethau siarad a dulliau eraill o drin

Cyffuriau yw’r driniaeth iechyd meddwl mwyaf cyffredin ond mae yna hefyd therapïau siarad ynghyd â diddordeb cynyddol mewn therapïau cyflenwol. Mae triniaethau siarad yn cynnwys cwnsela tymor byr ynghylch materion penodol megis profedigaeth, therapi gwybyddol i helpu pobl oresgyn iselder yn y ffordd y maen nhw’n meddwl neu ffobiâu a seicotherapi hirdymor sy’n edrych ar ystyriaethau personol sylfaenol (gweler taflen gynghori Mind Understanding talking treatments ac A-Z of Complementary and Alternative Therapies. Rhagor o ddeunydd darllen ar dudalen 11).

Gwasanaethau gofal yn y gymuned

Mewn nifer fechan ond cynyddol o ardaloedd, mae modd cael eich cefnogi trwy argyfwng sylweddol naill ai yn eich cartref eich hun neu mewn canolfan argyfwng breswyl, yn hytrach na mynd i mewn i ysbyty. Fodd bynnag, mae’r rhan fwyaf o’r hyn sy’n cael ei alw’n ofal cymunedol yn ymwneud â helpu pobl sy’n dioddef o broblemau iechyd meddwl hirdymor i fyw o ddydd i ddydd. Mae’n gallu cynnwys canolfannau dydd, tai gyda gofal a chefnogaeth, help gyda sgiliau gweithio, grwpiau cefnogi, eirioli, clybiau cymdeithasol, cynlluniau cyfeillio a chynghori ynghylch hawliau lles. Mae rhai gwasanaethau yn cydnabod anghenion grwpiau penodol megis menywod neu gymunedau ethnig du a lleiafrifol, ac yn ymateb iddynt.

Derbyn triniaeth mewn ysbyty

Mae ysbyty yn gallu bod yn ‘noddfa’ sy’n cynnig diogelwch a gwarchodaeth. Mae’n rhoi cyfle, hefyd, i’r staff asesu eich anghenion a cheisio canfod y ffordd orau o’ch helpu. Yn anffodus, mae aros mewn ysbyty, yn aml iawn, yn gallu bod yn brofiad annymunol. Gall y wardiau fod yn ddi-liw heb fawr o breifatrwydd a gall bod yng nghwmni pobl eraill sy’n ymddwyn mewn ffordd aflonydd fod yn beth brawychus. Hefyd, mae’n bosib na fydd llawer o gyfle i siarad gyda’r staff. Mae’r rhan fwyaf o bobl yn mynd i mewn i ysbyty o’u gwirfodd. Fodd bynnag, mae yna tua 27,500 yn cael eu derbyn trwy orfodaeth bob blwyddyn dan amodau Deddf Iechyd Meddwl 1983. Os ydych chi’n y sefyllfa honno, mae’n bwysig eich bod yn ymwybodol o’ch hawliau (gweler cyfres Rights Guides Mind. Rhagor o ddeunydd darllen ar dudalen 11).

Yn ystod yr ychydig flynyddoedd a aeth heibio mae’r bobl sy’n defnyddio’r gwasanaethau wedi bod yn cyfarfod i drafod beth maen nhw ei eisiau gan y system iechyd meddwl. Yn anad dim, maen nhw eisiau mwy o lais o ran y driniaeth sy’n cael ei dewis ar eu cyfer. Mae hyn yn golygu cael gwybodaeth iawn am effeithiau annymunol y cyffuriau, er enghraifft. Mae hefyd yn golygu cael dewis: triniaethau siarad yn hytrach na chyffuriau, a chanolfannau argyfwng preswyl yn hytrach nag ysbytai. Maen nhw eisiau cael eu hystyried fel pobl, nid dim ond fel ‘achosion’.

Beth yw’r ffordd orau i mi fyw gyda – a thu hwnt i – loes meddwl?

Mae llawer o bobl yn dioddef o loes meddwl ar adegau trwy gydol eu hoes, ond yn meithrin ffyrdd o ymdopi fel y dôn nhw i ddysgu beth sy’n eu helpu i deimlo’n iawn neu i ddod trwy’r adegau caled. Mae llawer o bobl a chanddyn nhw broblemau iechyd meddwl yn byw bywydau cyffredin neu lawn iawn, hyd yn oed. Mae camwahaniaethu yn gallu bod yn broblem fawr.

Yn sgîl y symudiad tuag at sicrhau hawliau sifil i bobl ag anableddau, daeth cydnabyddiaeth gynyddol fod camwahaniaethu yn beth cwbl annerbyniol. Dylai pobl ag anableddau allu manteisio ar gyflogaeth, addysg, hamdden, gwasanaethau ariannol ac ati, fel y mae unrhyw ddinasyddion eraill yn gallu ei wneud, a defnyddio eu galluoedd i’r eithaf. Fel yn achos unrhyw berson anabl arall, mae rhywun sy’n dioddef o loes meddwl yn anabl oherwydd y cyfyngiadau sydd arno a’r byd gelyniaethus sydd o’i gwmpas (sydd weithiau’n or-warchodol). Mae’r bobl sydd wedi cael eu diagnosio o fod yn dioddef salwch meddwl, erbyn hyn, yn derbyn rhywfaint o warchodaeth rhag cael eu trin mewn ffordd annheg o dan y Ddeddf Camwahaniaethu ar sail Anabledd.

Sut gall ffrindiau a pherthnasau helpu?

Os oes rhywun sy’n agos atoch chi yn dechrau dioddef yn feddyliol, mae hynny’n debyg o ennyn teimladau cryf ynoch. Gall eu gweld yn dioddef eich brifo ac mae’n bosib y byddwch yn teimlo’n ddig os nad oes llawer o help ar gael. Gall hefyd fod yn beth brawychus bod yng nghwmni person sy’n teimlo anobaith neu’n ymddwyn mewn ffordd od. Gall darfu’n llwyr ar eich bywyd ac mae’n bosib i chi gael eich hun mewn rôl o ofalu, heb i chi ddewis gwneud hynny.

Ond mae yna ochr bositif hefyd. Mae argyfwng yn gallu dod â phobl yn nes at ei gilydd. Mae’n bosib y byddwch yn mynegi mwy o gariad tuag at eich gilydd nag o’r blaen. Y gobaith yw y byddwch yn cael boddhad o weld eich ffrind neu’ch perthynas yn gwella. Bydd yn haws eu cefnogi os bydd pobl eraill yn rhannu’r dasg o ofalu amdanynt. Mae’n help hefyd dod o hyd i rywun i wrando ar eich teimladau chi am y sefyllfa (gweler taflen gynghori Mind How to cope as a carer Rhagor o ddeunydd darllen ar dudalen 11).

Beth yw agweddau pobl tuag at loes meddwl?

Os oes un gair i grynhoi’r agwedd gyffredinol tuag at ein loes meddwl ein hunain, ofn yw’r gair hwnnw. Rydym yn ofni teimlo emosiynau poenus, yn ofni colli rheolaeth neu’n ofni colli popeth sydd gennym. Mae’n bosib hefyd i ni ofni cyffuriau neu gael ein caethiwo mewn ysbyty meddwl.

Ar y cyfan, felly, rydym yn teimlo ofn, neu ddiffyg cydymdeimlad, tuag at eraill sy’n dioddef loes meddwl. Dyma rai o’r ffyrdd y daw’r drwgdeimlad neu’r diffyg dealltwriaeth hwnnw yn amlwg iddyn nhw.

Diffyg cydymdeimlad a dealltwriaeth

Maen nhw’n clywed y geiriau ‘Callia!’ neu ‘Gwna ymdrech!’ yn aml, fel pe baen nhw’n ymddwyn felly yn fwriadol.

Triniaethau aneffeithiol

Gallwn roi dyn ar y lleuad a chyflawni triniaethau llawfeddygol i drawsblannu calonnau, ond nid ydym wedi llwyddo’n dda iawn i helpu pobl i oresgyn eu loes meddwl.

Camwahaniaethu

Mae cyflogwyr, yn aml iawn, yn gyndyn o gynnig gwaith i unrhyw un sydd wedi dioddef problemau iechyd meddwl. Mae’r math yma o sefyllfa yn ei gwneud yn anoddach fyth i bobl wella o’u loes meddwl. Mae ofn hefyd yn ein rhwystro ni i gyd rhag meddwl yn iawn sut y gallem ni wella ein hiechyd meddwl, oherwydd y byddai’n well gennym beidio â meddwl am y peth o gwbl. Ond mae yna gamau positif y gallwn ni eu cymryd, ac mae hynny’n beth gwerth ei wneud.

Sut galla i wella fy iechyd meddwl?

Rydym wedi arfer cael ein hannog i edrych ar ôl ein hiechyd corfforol, trwy fod dan bwysau i roi’r gorau i ysmygu, efallai, neu i ymarfer corff yn rheolaidd, neu i fwyta llai o fraster. Trwy ddilyn y cyngor hwn, nid dim ond osgoi salwch difrifol sy’n bosib, ond hefyd gwella ein hymdeimlad cyffredinol o fod yn gorfforol iach.

Yn yr un modd, gallwn gymryd camau i wella ein hiechyd meddyliol. Trwy wneud hynny, rydym ni hefyd yn gwneud ein hunain yn llai tebygol o ddioddef loes meddwl. Gallai’r canlynol fod yn fuddiol.

Dysgu ymlacio

Mae hon yn sgil y dylem ni oll ei meithrin. Mae yna lawer o lyfrau a thapiau casét ar gael, ac mae dosbarthiadau yn cael eu trefnu gan sefydliadau addysg oedolion. Gall ioga, myfyrio a thylino’r corff oll eich helpu i ymlacio.

Dysgu delio gyda sefyllfaoedd anodd

Dywedwch eich bod yn cael eich cam-drin gan rywun. Pa mor hawdd ydych chi’n ei chael hi i sefyll i fyny drosoch eich hun? Mae’n bosib ei bod hi’n haws cadw’n dawel ond, wedyn, mae’r dicter yn cronni ynoch chi, gan achosi tensiwn a phryder. Gall dosbarthiadau hyfforddiant pendantrwydd eich helpu chi i wella eich gallu i drin sefyllfaoedd o’r fath.

Gosod targedau

Meddyliwch sut y byddech chi’n hoffi gwella eich bywyd. Sut carech chi i bethau fod ymhen deng mlynedd? Pa newidiadau bychain ellwch chi ddechrau eu gwneud rwan? Mae hi’n bosib cymryd camau i wneud eich bywyd yn well, pa mor anodd bynnag y bo hynny’n teimlo.

Mynegi teimladau

Gall mynegi teimladau yn uniongyrchol ein helpu ni i wella ar ôl profiadau poenus (bod yn ddig, crio, gwaeddi).

Wynebu problemau

Mae’n bosib eich bod yn gwybod fod rhywbeth wedi mynd o’i le - efallai eich bod yn yfed gormod neu fod problemau gyda’ch priodas - ond mae hi’n teimlo’n haws anwybyddu’r broblem gan obeithio y bydd yn diflannu ohoni’i hun. Y tebyg yw na wnaiff hi. Fel arfer, s.gorau po gyntaf y byddwch chi’n dechrau delio gyda phroblem oherwydd y bydd hi, wedyn, yn llawer haws ei datrys.

Dod o hyd i rywun i siarad â chi

Mae’r rhan fwyaf o’r cyngor a gewch yma yn haws ei ddilyn os oes gennych chi rywun y gellwch chi siarad yn agored ac yn onest gyda nhw. Gallai’r person hwnnw fod yn ffrind neu mae’n bosib y byddwch yn ei chael yn fuddiol cyfarfod gyda phobl sy’n rhannu problemau tebyg, mewn grwp hunan-gymorth. Mae cwnselwyr a seicotherapyddion wedi cael eu hyfforddi’n arbennig i helpu pobl i ddeall eu hunain yn well a goresgyn problemau yn eu bywydau. Mae’r daflen gynghori Understanding talking treatments (Rhagor o ddeunydd darllen ar dudalen 11) yn cyflwyno gwybodaeth am grwpiau hunan-gymorth, cwnsela a seicotherapi.

Mater o Farn

Mae yna sawl ffordd o geisio deall loes meddwl. Mae’r daflen hon wedi canolbwyntio ar y meddylfryd presennol mewn mannau fel Ewrop ac UDA. Yn achos gwledydd a diwylliannau lle mae crefydd yn bwysicach, gall yr agweddau fod yn dra gwahanol.

Byddai gallu sicrhau rhagor o ffeithiau ynghylch loes meddwl yn beth calonogol iawn. Gan nad oes digon o ffeithiau ar gael, rhaid i bob un ohonom feddwl drosom ein hunain, trwy roi ystyriaeth i’n profiadau ein hunain, gwrando ar eraill a chadw meddwl agored.

Efallai y gallem ni gytuno, er hynny, bod yna filiynau o bobl sy’n byw bywyd llwm iawn oherwydd eu loes meddwl, a bod yn rhaid i ni ddod o hyd i well ffyrdd o atal loes meddwl a helpu’r bobl sy’n dioddef ohono i helpu eu hunain.

Mudiadau Defnyddiol

Mae yna lawer o fudiadau sy’n gallu cynnig cymorth a chyngor i bobl sy’n dioddef loes meddwl, yn ogystal ag i’w teuluoedd a’r bobl sy’n gofalu amdanynt. Trwy ffonio Llinell Gwybodaeth Mind (MindinfoLine), sef llinell gymorth Mind, mae’n bosib i chi dderbyn gwybodaeth am amrywiaeth o ystyriaethau iechyd meddwl, a chael eich cyfeirio at fudiadau a grwpiau lleol a chenedlaethol eraill. MindinfoLine 0181 522 1728 yn Llundain ei hun, 0345 660163 y tu allan i Lundain. Llun-Gwe 9.15 am-4.45 pm.

Rhagor o ddeunydd darllen

A-Z of Complementary and Alternative Therapies (Mind 1995) £2.50
Making Sense of treatments and drugs: major tranquillizers (Mind 1995) £2.50
Making Sense of treatments and drugs: minor tranquillizers (Mind 1998) £2.50
Making Sense of treatments and drugs: lithium (Mind 1995) £2.50
Making Sense of treatments and drugs: antidepressants (Mind 1998) £2.50
Rights Guides (Mind) £1 each or £2.70 for a set of 6
Rights Guide 1: Civil Admission to Hospital (Mind 1995) £1
Rights Guide 2: Mental Health and the Police (Mind 1995) £1
Rights Guide 3: Consent to Medical Treatment (Mind 1995) £1
Rights Guide 4: Discharge from Hospital (Mind 1995) £1
Rights Guide 5: Mental Health and the Courts (Mind 1995) £1
Rights Guide 6: Supervised Discharge and Supervision Registers Hospital (Mind 1997) £1
Understanding depression (Mind 1998) £1
Understanding manic depression (Mind 1998) £1
Understanding schizophrenia (Mind 1998) £1
Understanding talking treatments (Mind 1998) £1

Neu, os carech chi dderbyn catalog cyflawn o’r cyhoeddiadau sydd ar gael gan Mind,
anfonwch amlen A4 barod a stamp i
Mind Mail Order, 15-19 Broadway, Llundain E15 4 BQ
ffôn: 0181 519 2122 estyniad 223, ffacs 0181 534 6399.

Diweddarwyd y llyfryn hwn gan Alison Cobb
ISBN 1 874690 78 2 Cyhoeddwyd gyntaf gan Mind 1993. Ail argraffiad (Mind 1998)
Dim atgynhyrchu heb ganiatâd
Mae Mind yn elusen gofrestredig Rhif. 219830


......................................................................................
Registered Charity No. 219830
Registered No. 424348 England
© 2008 Mind (National Association for Mental Health)
All Rights Reserved

Design by Robson Crome Design, developed by GlobusMedia

Related Topics
 
 
 
Mind info line 0845 766 0163 open Monday to Friday 9.15am to 5.15pm