|
Llais y defnyddiwr yng Nghymru
English version
Mae Mind Cymru yn annog ac yn cefnogi pobl sy'n dioddef gofid meddyliol i gymryd rhan weithredol ym mhob agwedd ar wasanaethau iechyd meddyliol, yn y cymunedau lleol a thrwy weithgareddau cymdeithasau lleol Mind.
Mae llawer o bobl yn cymryd rhan oherwydd y cysylltiadau cryf sydd gennym gyda Mind Link Cymru - sef rhwydwaith Mind Cymru o ddefnyddwyr y gwasanaeth a phobl sydd wedi llwyddo i oresgyn eu problemau.
Mae gan Mind Link Cymru dros dri chant o aelodau yng Nghymru. Sefydlwyd panel cynghori Mind Link Cymru, er mwyn sicrhau bod gan aelodau Mind Link ddylanwad uniongyrchol ar waith a gweithgareddau Mind Cymru ei hun.
Mae hyn yn golygu bod polisïau a gweithgareddau ymgyrchu Mind Cymru yn cael eu datblygu mewn ymgynghoriad â rhwydwaith Mind Link Cymru a’r sefydliadau cysylltiol. Gwneir hyn dan arweiniad y defnyddwyr gwasanaeth a phobl sydd wedi llwyddo i oresgyn eu problemau.
Hefyd mae Tîm Cyfranogiad a Chynhwysiant Defnyddwyr Mind Cymru yn cymryd rhan weithredol trwy alw am ofalu bod defnyddwyr o bob rhan o Gymru yn cael eu cynnwys yn llawn ym mhob gweithgarwch. Mae hyn yn cynnwys
- ymchwil sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl
- hyfforddi gweithwyr proffesiynol iechyd meddwl
- cynllunio a chomisiynu lleol ar y cyd
- cynllunio gwasanaethau lleol
- canllawiau arferion da
- cyfle i leisio barn ynglŷn â gosod safonau ar gyfer gofal.
Lansio adroddiad 'Cywiro'r cydbwysedd'!
Cyfranogiad defnyddwyr yn dod yn ffaith mewn hyfforddiant iechyd meddwl i nyrsys yng Nghymru
Cynhaliwyd y Cyfarfod Blynyddol Cyntaf i Wobrwyo Nyrsio Iechyd Meddwl yng Nghymru ar ddydd Iau, 16 Chwefror, 2006. Yno y lansiwyd adroddiad Lindy Miller ar 'gyfranogiad defnyddwyr mewn hyfforddiant iechyd meddwl i nyrsys yng Nghymru' dan y teitl 'Cywiro'r cydbwysedd (PDF file)'.
Mae'r gwaith hwn wedi derbyn cefnogaeth lawn Uwch Grŵp Ymgynghorol Nyrsio Cymru Gyfan (Iechyd Meddwl), y colegau a Chynulliad Cenedlaethol Cymru.
Ysgrifennodd Rosemary Kennedy, Prif Swyddog Nyrsio, Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
"Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ymrwymedig i ofalu bod defnyddwyr yn gyfrannog ym mhob agwedd ar ddarparu gwasanaeth iechyd meddwl, o addysg a hyfforddiant gweithwyr proffesiynol gofal i gynllunio gofal. Mae hyn yn cael ei adlewyrchu yn "Codi'r Safon", y Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol gan Lywodraeth y Cynulliad y newidiwyd ei bwyslais, a "Dyheu, Gweithredu, Cyflawni", ei fframwaith ar gyfer nyrsio iechyd meddwl yng Nghymru.
Dylid ystyried y prosiect ymgynghori rhagorol a gyflawnwyd gan Mind Cymru yn esiampl i bawb sy'n dymuno cael defnyddwyr i gyfranogi'n ystyrlon at eu gwaith".
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â Anna George ar 029 2034 6578 neu anfonwch e-bost at a.george@mind.org.uk
|