Mind for better mental health
 
About Mind

Ymgyrchu yng Nghymru


Mae Mind Cymru yn gweithio’n agos gydag Aelodau Llywodraeth Cynulliad Cymru ac Uwch Weision Sifil y Cynulliad Cenedlaethol er mwyn dylanwadu ar bolisïau iechyd meddwl yng Nghymru.

Gyda dim ond 60 o aelodau yn y Cynulliad, gall Mind Cymru gael cydberthynas waith llawer agosach gyda llywodraeth yng Nghymru na’r hyn sy’n arferol yn Lloegr.

Mae staff polisi Mind Cymru yn bwydo i mewn i’r broses o gynllunio ymgyrchoedd cenedlaethol Mind ac yn cyflwyno’r ymgyrchoedd ar draws Cymru. Gyda strwythurau iechyd yng Nghymru yn wahanol iawn i’r strwythurau yn Lloegr, mae’n rhaid i gynnwys ymgyrchoedd Mind gael eu teilwra yng Nghymru er mwyn rhoi dimensiwn Cymreig iddynt a rhoi ystyriaeth i wahaniaethau o ran polisi a deddfwriaeth.

Ymgynghorir â rhanddeiliaid Mind ynglŷn â gwaith ymgyrchu. Mae’r rhanddeiliaid yn cynnwys aelodau Mind Link Cymru (rhwydwaith defnyddwyr gwasanaeth Mind), Mind Out Cymru (i bobl sydd â diddordeb mewn iechyd meddwl pobl hoyw, lesbiaidd a deurywiol) a Diverse Minds Cymru (ar gyfer materion iechyd meddwl pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig).

Yn ogystal â chyflwyno ymgyrchoedd Mind ledled Cymru, cynhelir ymgyrchoedd yn benodol ar gyfer dim ond Cymru hefyd. Mae ymgyrch sy’n cael ei chynnal ar hyn o bryd yn edrych ar y ffaith nad yw’r Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol yn cael ei weithredu yng Nghymru.


......................................................................................
Registered Charity No. 219830
Registered No. 424348 England
© 2009 Mind (National Association for Mental Health)
All Rights Reserved

Design by Robson Crome Design, developed by GlobusMedia

Related Topics
 
 
 
Mind info line 0845 766 0163 open Monday to Friday 9.15am to 5.15pm