Mind for better mental health
  
About Mind

Partneriaeth


English version

Fforwm Gofid Cefn Gwlad Cymru Gyfan

Mae Mind Cymru yn rhan o’r rhwydwaith uchod sy’n delio gyda materion gofid cefn gwlad. Am ragor o wybodaeth ewch I wefan Fforwm Gofid Cefn Gwlad.

Cynghrair Iechyd Meddwl Cymru

Mae hwn yn gynghrair o sefydliadau gwirfoddol Iechyd Meddwl Cenedlaethol a sefydlwyd i hyrwyddo iechyd meddwl yng Nghymru, ac yn arbennig, i hyrwyddo cydweithredu yn y sector gwirfoddol iechyd meddwl. Mae’r Gynghrair yn cynnwys y sefydliadau sector gwirfoddol cenedlaethol canlynol sy’n canolbwyntio’n sylfaenol ar iechyd meddwl:

HafalCymdeithas Alzheimer, MDF Sefydliad Deubegynol CymruRhwydwaith US, AWETU, Cynghrair Iselder Cymru, Rhwydwaith Cymorth Meddygon (Cymru), Cymar, Gofal CymruBrwydro yn erbyn Straen, Gwasanaeth Cwnsela Eglwysi yng Nghymru (CCSW), IGER/RSIN a MHAW (Gweithredu Iechyd Meddwl Cymru).

Dyma aelodau cysylltiol Cynghrair Iechyd Meddwl Cymru: Cruse Cymru ac Iechyd Meddwl Cymru mewn Gofal Sylfaenol.

Grŵp Cyfeirio Anabledd Cymru

Mae Mind Cymru yn rhan o Grŵp Cyfeirio Anabledd Cymru, dyma’r pedwar sefydliad arall:

Bydd y grŵp yn cyfarfod yn rheolaidd i drafod a chytuno ar y ffordd ymlaen mewn perthynas â materion sy’n effeithio ar bobl gydag anableddau yng Nghymru.

Dim ond yn gymharol ddiweddar y mae mudiad hawliau anabledd y gellir ei adnabod wedi dod i’r amlwg yng Nghymru. Mae yna draddodiad cryf o grwpiau hunangymorth ar gyfer nam penodol, sydd wedi eu seilio yn y gymuned, ond nid oes llawer o grwpiau sy’n cael eu harwain gan bobl anabl. Yr eithriad mwyaf amlwg yw Cynghrair Pobl Anabl Caerdydd a’r Fro.


......................................................................................
Registered Charity No. 219830
Registered No. 424348 England
© 2009 Mind (National Association for Mental Health)
All Rights Reserved

Design by Robson Crome Design, developed by GlobusMedia