|
Llywodraethu Mind Cymru
English version
Mae gan Mind Cymru strwythur llywodraethu newydd o’r enw Pwyllgor Cymru a gafodd ei gyfarfod cyntaf ym mis Hydref 2006.
Dyma aelodau Pwyllgor Cymru:
- Cyfanswm o 12 aelod o rwydweithiau Mind yng Nghymru gydag oddeutu 50% o’r rhain yn aelodau o Gymdeithasau Mind Lleol
- Dau Ymddiriedolwr (un ohonynt yn Ymddiriedolwr sy’n seiliedig yng Nghymru) – penodwyd gan y Cyngor Rheoli
- Cyfarwyddwr, Mind Cymru
- Prif Weithredwr neu berson a enwebwyd
- Cadeirydd
Mae’r aelodau yn gyfrifol am redeg Mind Cymru a chyllid Mind Cymru.
Hyd y Swyddi
Etholwyd pob aelod o Rwydweithiau Mind yng Nghymru am y tro cyntaf yn 2006. Bydd y swyddi yn para am dair blynedd, ond i ddechrau bydd hanner yr aelodau o Rwydweithiau Mind yn sefyll i lawr ar ôl dwy flynedd (cael eu dewis trwy bleidlais) a bydd yr hanner arall yn sefyll i lawr ar ddiwedd y tair blynedd. Bydd aelodau sy’n sefyll i lawr ar ddiwedd hyd eu swyddi yn gymwys i gael eu hethol eto.
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â Mandy Parker m.parker@mind.org.uk, ffôn 02920 346 572.
Diweddarwyd 16 Ebrill 2007
|