|
Gwybodaeth amdanom
English version
Mind Cymru
Llawr 3, Tŷ Quebec
Castlebridge,
Cowbridge Road East
Caerdydd CF11 9AB
T: 02920 39 51 23
Ff: 02920 34 65 85
e: contactwales@mind.org.uk
Mae popeth yr ydym yn ei wneud yn Mind Cymru yn deillio o brofiad pobl sydd wedi dioddef o bryder meddwl. Rydym yn rhoi gwerth ar amrywiaeth, ac yn sicrhau bod cynhwysiant yn rhan hanfodol o’n gwaith.
Mind Cymru yw swyddfa Mind yng Nghymru. Swyddfa Mind Cymru sy’n gyfrifol am gynnal ymgyrchoedd dros hawliau pobl sy’n dioddef bryder meddwl ym mhob rhan o Gymru.
Bydd Mind Cymru yn cynnig cynhaliaeth a chyngor i gymdeithasau lleol Mind ar faterion megis cyllido, safonau ansawdd, arferion da ac effeithiolrwydd trefniadol.
Ers 1973 bu Mind Cymru yn bartner ac yn sylwebydd dylanwadol ar ddatblygu polisi iechyd meddwl a gofal cymunedol yng Nghymru. Bu’n gweithio’n agos gyda Chynulliad Cymru, asiantaethau gwirfoddol a statudol eraill, ac Unedau Polisi, Cyfreithiol a Seneddol Mind.
Bydd Mind Cymru yn trefnu nifer o ddigwyddiadau allweddol trwy gydol y flwyddyn gan gynnwys cynhadledd flynyddol, stondinau yn yr Eisteddfod Genedlaethol a Sioe Frenhinol Cymru. Bydd hefyd yn tynnu sylw at bwysigrwydd materion gwledig ac iechyd meddwl trwy Gymru gyfan.
Yn ôl i ben y dudalen | E-bostio i gyfaill | Argraffu’r dudalen | Hafan
......................................................................................
Rhif Elusen Cofrestredig 219830
Rhif Cofrestredig 424348 Lloegr
© 2006 Mind (Y Gymdeithas Genedlaethol dros Iechyd Meddwl)
Cedwir yr Holl Hawliau
Dyluniwyd gan Robson Crome Design, a datblygwyd gan GlobusMedia
|