|
Cynhadledd a Digwyddiadau Mind Cymru
English version
Cynhadledd a Digwyddiadau Mind Cymru
Cynhadledd Flynyddol Mind Cymru yw digwyddiad mwyaf Mind Cymru yn ystod y flwyddyn. Mae’r gynhadledd wedi’i hanelu at gymdeithasau Mind lleol, pobl sy’n defnyddio’r rhwydwaith iechyd meddwl yng Nghymru ac yn gweithio ynddo yn ogystal â darparwyr gwasanaeth eraill.
Cynhaliwyd Cynhadledd Flynyddol Mind Cymru 2005 yng Nghaerdydd ar 22 a 23 Tachwedd.
Cynhelir Cynhadledd Flynyddol Mind Cymru 2006 ar 16 ac 17 Tachwedd yng Ngwesty’r St George yn Llandudno. Bydd ffurflen archebu ar gael ar-lein yn agosach at y dyddiad.
Bob blwyddyn, mae gan Mind Cymru stondin wybodaeth/arddangos yn y digwyddiadau Cenedlaethol canlynol:
Stondinau gwybodaeth
Y Sioe Frenhinol: Dyma lle bydd Mind Cymru’n ystyried materion sy’n gysylltiedig ag iechyd meddwl mewn ardaloedd a chymunedau gwledig. Gwneir hyn mewn partneriaeth â Rural Minds
Yr Eisteddfod Genedlaethol Bob blwyddyn, bydd Mind Cymru’n arddangos gwaith celf a grëwyd gan bobl yng Nghymru sydd â phrofiad o ofid meddyliol. Pwrpas yr arddangosfa hon yw hybu’r cyfraniad a wneir i gelf a diwylliant yng Nghymru gan bobl sy’n profi gofid meddyliol. Ewch i'r arddangosfa hon ar-lein.
Mardi Gras Pobl Hoyw a Lesbiaidd: mae hwn yn canolbwyntio ar faterion iechyd meddwl sy’n effeithio ar bobl hoyw a lesbiaidd yng Nghymru.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â chynhadledd a digwyddiadau Mind Cymru, cysylltwch â’r Gweinyddydd ar 02920 34 65 73.
|