Mind for better mental health
 
About Mind

Cymdeithasau Mind Lleol yng Nghymru


English version

Mae dros 20 o gymdeithasau Mind lleol ar draws Cymru yn gweithio i wella bywydau pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl.

Mae pob un o’r cymdeithasau hyn yn elusen hollol annibynnol ynddo’i hun sydd wedi dewis bod yn gysylltiedig â Mind. Felly maent yn cael eu rhedeg gan bobl leol ar gyfer bobl leol. Y ffordd fwyaf cyffredin y bydd unigolion yn dod yn gysylltiedig â gwaith Mind yw trwy gymryd rhan yng ngwaith eu cymdeithas Mind lleol, er enghraifft fel ymddiriedolwyr, staff, gwirfoddolwyr, neu drwy godi arian. Mae cymdeithasau lleol yn dibynnu ar gefnogaeth leol, felly maent yn croesawu unrhyw gynnig am help. Mae cymdeithasau lleol yn arbennig o falch o weld pobl sydd wedi profi problemau iechyd meddwl eu hunain yn cymryd rhan.

Mae cymdeithasau lleol yn ymateb i faterion yn eu cymunedau mewn nifer o wahanol ffyrdd, gan gynnwys:

  • darparu gwasanaethau (fel prosiectau cyflogaeth, gwasanaethau gwybodaeth a llinellau cymorth, canolfannau adnoddau, cynlluniau tai â chymorth, gwaith allgymorth gwledig, gwneud ffrindiau a gwasanaethau cymorth cymunedol)
  • cymryd rhan mewn cynllunio gwasanaethau iechyd meddwl lleol
  • ymgyrchu’n lleol ynglŷn â materion sy’n gysylltiedig ag iechyd meddwl, gan gysylltu gyda gwaith ymgyrchu cenedlaethol Mind
  • gweithgareddau sydd wedi eu hanelu at godi ymwybyddiaeth am faterion iechyd meddwl ac at newid agweddau pobl ynglŷn â hyn.

Mae Mind Cymru yn gweithio’n agos gyda chymdeithasau lleol yng Nghymru ac yn cynnig ystod o gymorth a chyngor iddynt.

Mae rhan o’r wefan wedi cael ei diogelu gyda chyfrinair sy’n cynnwys gwybodaeth benodol ar gyfer pobl sy’n gysylltiedig â chymdeithasau lleol Mind. Os ydych mewn cymdeithas leol a ddim yn siŵr sut mae cael mynediad at y rhan hon o’r wefan, cysylltwch â’ch Swyddog Cyswllt Mind Lleol.


......................................................................................
Registered Charity No. 219830
Registered No. 424348 England
© 2009 Mind (National Association for Mental Health)
All Rights Reserved

Design by Robson Crome Design, developed by GlobusMedia

Related Topics
 
 
 
Mind info line 0845 766 0163 open Monday to Friday 9.15am to 5.15pm