Mind for better mental health
 
About Mind

Cenhadaeth a Gwerthoedd Mind


Ein gweledigaeth yw cymdeithas sy’n hybu ac yn diogelu iechyd meddwl da i bawb, a chymdeithas sy’n trin pobl sy’n profi gofid meddwl yn deg, yn gadarnhaol a gyda pharch.

Mae anghenion a phrofiadau pobl gyda gofid meddwl yn symbylu ein gwaith ac rydym yn gwneud yn siŵr bod eu llais yn cael ei glywed gan y rhai sy’n dylanwadu ar newid.

Mae ein hannibyniaeth yn rhoi’r rhyddid i ni sefyll i fyny a siarad am y gwir faterion sy’n effeithio ar fywydau bob dydd.

Rydym yn cynnig gwybodaeth a chefnogaeth, yn ymgyrchu i wella polisïau ac agweddau, ac i ddatblygu gwasanaethau lleol mewn partneriaeth â chymdeithasau Mind lleol annibynnol.

Rydym yn gwneud hyn i gyd er mwyn ei gwneud hi’n bosib i bobl sy’n dioddef gofid meddwl fyw bywyd llawn, a chwarae rhan lawn mewn cymdeithas.

Gwerthoedd:

Dealltwriaeth

Pobl gyda phrofiad o ofid meddwl sy’n symbylu ein holl waith

Amrywiaeth

Rydym yn parchu profiad pawb ac yn sicrhau bod cynhwysiant yn ganolog i’n gwaith

Partneriaeth

Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda’n rhwydweithiau a gyda phawb fydd yn ein helpu i gyflawni ein cenhadaeth

Didwylledd

Mae ein hannibyniaeth yn sicrhau ein didwylledd – wnawn ni byth gyfaddawdu ar hyn

Penderfynol

Ni wnawn ni byth roi’r gorau i herio camwahaniaethu ac ymgyrchu am well iechyd meddwl


......................................................................................
Registered Charity No. 219830
Registered No. 424348 England
© 2009 Mind (National Association for Mental Health)
All Rights Reserved

Design by Robson Crome Design, developed by GlobusMedia

Related Topics
 
 
 
Mind info line 0845 766 0163 open Monday to Friday 9.15am to 5.15pm