|
ASIST (Hyfforddiant Uwch Sgiliau Ymyrryd rhag Hunan Laddiad)
English version
ASIST (Hyfforddiant Uwch Sgiliau Ymyrryd rhag Hunan Laddiad)
Yr Her
Mae mwy o bobl yn marw trwy hunan laddiad bob blwyddyn nag sydd yn marw oherwydd yr holl wrthdaro arfog ledled y byd.
Mewn unrhyw un flwyddyn mae cymaint â 6 per cent o'r boblogaeth yn meddwl o ddifrif am hunan laddiad.
Sut y gall Mind Cymru atal rhagor o farwolaethau ac anafiadau?
Sut y gallwn gefnogi pobl sydd yn dewis bywyd pan fo rhywbeth yn eu hatal rhag gweld ffordd ymlaen?
Y Gweithdy
Mae Mind Cymru bellach yn darparu'r Hyfforddiant Uwch Sgiliau Ymyrryd rhag Hunan Laddiad (ASIST) a gydnabyddir yn rhyngwladol; mae wedi ei hen sefydlu yng Nghanada, UDA, Awstralia, Norwy, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Mae ASIST yn darparu hyfforddiant ymarferol i roddwyr gofal sydd yn ceisio atal y perygl o hunan laddiad.
Yn aml mae cyfranogwyr yn cynnwys
- Pobl sydd yn bryderus am deulu a ffrindiau
- Helpwyr ac ymgynghorwyr naturiol
- Gweithwyr gwasanaethau brys
- Cynghorwyr, athrawon a gweinidogion
- Ymarferwyr iechyd meddwl
- Gweithwyr mewn iechyd, lles a chyfiawnder
- Gwirfoddolwyr cymunedol
Gan weithio yn bennaf mewn grwpiau bach o un hyfforddwr i ddim mwy na 15 o bobl, mae ASIST yn defnyddio sawl proses addysgu gwahanol i greu profiad dysgu ymarferol a rhyngweithiol.
Dysgwch sut i:
- Adnabod gwahoddiadau am help
- Ymestyn allan a chynnig cymorth
- Adolygu'r perygl o hunan laddiad
- Defnyddio model ymyrraeth hunan laddiad
- Cysylltu pobl gydag adnoddau cymunedol
Beth y mae cyfranogwyr yn ei ddweud am weithdai ASIST
- 'Strwythur ymarferol a chefnogol iawn.'
- 'Cymorth cyntaf pwysig iawn i'w gael, yn bersonol ac yn broffesiynol.'
- 'Roedd y cyflwyniad yn broffesiynol ac fe'i trafodwyd yn sensitif. Hynod o drylwyr ac yn llawn gwybodaeth.'
- 'Gweithdy wedi'i gyflwyno a'i feddwl allan yn dda iawn.'
Sut mae modd i mi ymuno â chwrs?
- Edrychwch beth yw dyddiadau a lleoliadau ein gweithdai diweddaraf trwy glicio yma.
- Pan fyddwch wedi dewis eich gweithdy edrychwch pwy fydd eich hyfforddwyr ar gyfer y cwrs – mae'r wybodaeth hon ar gael yn yr un ddolen â dyddiadau a lleoliadau'r gweithdy.
- I archebu cwrs gyda Chris a Vyv cysylltwch â Julie Woolf, ebost: juliewoolftorfaenmind@hotmail.co.uk
tel: 01495 768 835. Sieciau'n daladwy i Torfaen Mind.
- I archebu cwrs gyda Joyce ac Alan ffoniwch 01970 626225. Sieciau'n daladwy i Mind Aberystwyth. Ebost joyce.mind@btconnect.com.
- I archebu cwrs gyda Carol a Gwynfryn cysylltwch â Carol Evans Ffôn/Ffacs: 01745 812461 neu e-bostiwch carolmind@ruralnet.org.uk. Sieciau'n daladwy i Mind Dyffryn Clwyd.
Faint ydy'r gost a sut rwyf yn talu?
Y gost yw £150 y person am gwrs deuddydd neu £50 i rai heb gyflog. Gallwch dalu gyda siec neu gofyn am anfoneb wrth archebu lle.
Mae eich ffi yn cynnwys:
- Eich cofrestriad gyda Livingworks Inc
- Eich llawlyfr/deunyddiau hyfforddiant
- Eich Llawlyfr Ymyrraeth Hunan Laddiad
- Eich lluniaeth a chinio bys a bawd bob dydd
- Eich tystysgrif presenoldeb
- Eich ffioedd/costau hyfforddwr
Noder os gwelwch yn dda:
Mae cwrs ASIST yn rhedeg am ddeuddydd ac fel rheol mae'n cychwyn yn brydlon am 9.00am ac yn gorffen am 5.00pm bob diwrnod. Oherwydd natur y cwrs mae'n hanfodol eich bod yn gallu mynychu am yr holl oriau bob dydd. Os byddwch yn cyrraedd yn hwyr ar unrhyw un o'r dyddiau, eu os oes rhaid i chi adael yn gynnar ni fyddwch wedi cwblhau'r cwrs ac efallai y bydd yn rhaid i chi ail eistedd cwrs llawn i gael eich tystysgrif. Os digwydd hynny, gellir yn aml drefnu ail eistedd heb unrhyw gost ychwanegol i chi.
|